Dyn yn cyfri arian a sortio nhw i mewn i potiau

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn ôl ar gyfer 2026!

Cyhoeddwyd : 01/10/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn gyfle i rannu’r effaith enfawr y mae Rhodd Cymorth yn ei chael ar fuddiolwyr a chymunedau, ynghyd â hybu dealltwriaeth y cyhoedd. 

Eleni, mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn digwydd ddydd Iau 1 Hydref 2026, *rhan o ymgyrch Ticio’r Blwch (#TickTheBox) sy’n cydnabod haelioni rhoddwyr, yn dathlu effaith ac yn cyffroi am y pethau eraill y gallwn ni eu cyflawni gyda’n gilydd.

BETH YW RHODD CYMORTH A SUT GALL HELPU?

Mae Rhodd Cymorth yn rhyddhad treth i elusennau yn y DU sy’n cynyddu gwerth rhoddion. Pan fydd trethdalwyr y DU yn cyfrannu, gall yr elusen hawlio 25% ychwanegol o werth y rhodd. Golyga hyn am bob £10 sy’n cael ei roi i’r elusen, gallant dderbyn £12.50. Ac nid yw hyn yn costio’r un geiniog yn fwy i’r rhoddwr.

Bob blwyddyn, mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at bwysigrwydd Rhodd Cymorth fel ffynhonnell incwm hanfodol i elusennau. Yn 2025-2026, roedd Rhodd Cymorth yn werth £1.88 biliwn y flwyddyn i elusennau’r DU, cynnydd o 10% ar y flwyddyn flaenorol. Mae’n swm enfawr, ond gallai fod yn fwy fyth!

GWNEUD YN SIŴR BOD POBL YN TICIO’R BLWCH

Rydyn ni eisiau i bob elusen gymwys fanteisio i’r eithaf ar y rhyddhad treth hanfodol hwn, a lleihau swm y Rhodd Cymorth nad yw’n cael ei hawlio bob blwyddyn, sef tua £560 miliwn. Ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth mae’n bwysig dangos pa mor amrywiol a hanfodol yw’r sector gwirfoddol a sut gallwn ni, gyda’n gilydd, effeithio’n bositif ar filiynau o bobl bob dydd.

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth ac ymgyrch Ticio’r Blwch (#TickTheBox) yn gyfleoedd gwych i elusennau ddiolch i’r rhoddwyr hynny sy’n ticio’r blwch Rhodd Cymorth wrth roi arian. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth rhoddwyr, cefnogwyr a gwirfoddolwyr hen a newydd o ba mor werthfawr y gall Rhodd Cymorth fod i fudiad a’i fuddiolwyr.

Gallai hwn fod yn amser da i atgoffa eich gwirfoddolwyr mewn siopau elusen ac mewn digwyddiadau codi arian i annog pobl i gofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth, neu i gynnig rôl wirfoddoli newydd i gefnogi eich hawliadau Rhodd Cymorth.

BETH SY’N NEWYDD ELENI?

Eleni, mae’r Grŵp Cyllid Elusennau (CFG) yn lansio *ymgyrch Cefnogi Dyfodol Rhodd Cymorth, gan alw ar y llywodraeth i foderneiddio’r system Rhodd Cymorth a datgloi mwy o amser ac arian i elusennau.

CYFLE I DDYSGU MWY

Mae’r CFG yn cynnal *gweminar awr o hyd ddydd Iau 1 Hydref, i roi’r diweddariadau a’r canllawiau diweddaraf i chi ynglŷn â Rhodd Cymorth a rhoi cyfle i elusennau ofyn unrhyw gwestiynau llosg sydd ganddyn nhw.

CYMORTH AC ADNODDAU SYDD AR GAEL

Ewch i dudalen *diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth i lawrlwytho pecyn cymorth yr ymgyrch, sydd bellach yn cynnwys asedau Cymraeg.

Os nad ydych wedi’ch sefydlu eto fel elusen i brosesu a derbyn Rhodd Cymorth, edrychwch ar yr adnodd Cyflwyniad i Rodd Gymorth ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 16/10/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Datgelu Enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2026! 

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 24/09/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Gwerthusiad manwl am ddim ar gyfer rhaglenni gwirfoddoli

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/09/26
Categorïau: Cyllid, Gwybodaeth a chymorth

Wythnos Cofio Elusen 2026

Darllen mwy