Rydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer cynllun grant Cymru ac Affrica, gan ariannu mudiadau gwirfoddol i redeg prosiectau sy’n dod â buddion i Gymru ac Affrica.
Mae Cylch chwech cynllun Cymru ac Affrica 2024/25 ar agor nawr. Mae’r cynllun yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at ymdrechion Cymru i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.
BETH Y GALLWCH YMGEISIO AM
Gan weithio gyda phartneriaid yn Affrica Is-Sahara, gall mudiadau wneud cais am grantiau rhwng £1,000-£20,000 i wneud cyfraniad diriaethol i un o’r pedair thema ganlynol:
- Iechyd
- Dysgu Gydol Oes
- Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
- Bywoliaeth gynaliadwy
Sicrhewch eich bod wedi darllen y ddogfen ganllaw ar wefan CGGC cyn dechrau eich cais am gyllid.
LLINELL AMSER
11 Mawrth 2024 – Cynllun grant ar agor am geisiadau
Mae’r broses ar gyfer ceisiadau cyllido yn fyw ar Borth Ymgeisio Amlbwrpas pwrpasol CGGC (MAP).
15 Ebrill 2024 – Dyddiad cau cyntaf ar gyfer cyflwyno
Ni fydd modd cyflwyno ceisiadau ar ôl y dyddiad cau hwn.
Mai 2024 – Cyfarfod Panel
Cymeradwyo ceisiadau a fydd yn cael eu cyllido yn ffurfiol.
Mai 2024 – Rhoi gwybod i ymgeiswyr
Llythyrau cynnig grant yn cael eu hanfon at geisiadau llwyddiannus.
27 Mai 2024 – Dyddiad dechrau cynharaf prosiectau
Llythyrau cynnig grant yn cael eu hanfon at geisiadau llwyddiannus.
PWY RYDYN NI WEDI ARIANNU
Mae APT for Social Development (APT4SD) yn elusen sy’n gweithio yng Nghenia a Chymru i gefnogi a hyfforddi gweithwyr adsefydlu a gwirfoddolwyr yn nhechnegau Technoleg Briodol ar Bapur (APT). Mae’r dechneg yn cael ei defnyddio i wneud dyfeisiau pwrpasol sy’n cynnal corff pobl ag anableddau yng Nghenia ac eitemau ar gyfer y cartref yng Nghymru.
Mae APT4SD wedi llunio partneriaeth â Sefydliad Cymunedol The Potter’s House yn Njoro i hyfforddi therapyddion Kenya a staff gweithdy mewn cynhyrchu APT, gan roi’r hyder iddynt ragnodi dyfeisiau fforddiadwy a phwrpasol ar gyfer plant â pharlys yr ymennydd. Ers dechrau’r prosiect mae dros 140 o ddyfeisiau cynorthwyol APT wedi’u gwneud ar gyfer plant ag anableddau difrifol.
Mae’r cyllid hefyd wedi helpu APT4SD i gynnal gweithdai APT wythnosol yn y Trallwng a Thal-y-bont ar Wysg, lle gall therapyddion a gwirfoddolwyr o Gymru ddatblygu sgiliau mewn APT ac wrth addysgu eraill i ddefnyddio’r dechnoleg.
CYSYLLTWCH NI
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch y broses ymgeisio, anfonwch e-bost at walesafricagrants@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124.
I gael cymorth i ddatblygu’ch cais, cysylltwch ag enquiries@hubcymruafrica.org.uk.