Menyw yn dyfrio cnydau mewn cae gyda chan ddyfrio

Mae cynllun Cymru ac Affrica ar agor nawr

Cyhoeddwyd : 22/09/25 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae ail gylch y Cynllun Cymru ac Affrica ar agor nawr i ymgeiswyr.

Mae’r cynllun yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at ymdrechion Cymru i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.

Mae ail gylch Cynllun Grant Cymru ac Affrica ar agor nawr i ymgeiswyr, ac yn cau ar 31 Hydref 2025 am 11:59pm. Y cynharaf y gall prosiectau ddechrau yw 19 Ionawr 2026.

BETH ALLWCH CHI YMGEISIO AMDANO

Gan weithio gyda phartneriaid yn Affrica Is-Sahara, gall mudiadau wneud cais am grantiau rhwng £5,000-£25,000 i wneud cyfraniad diriaethol i un o’r pedair thema ganlynol:

  • Iechyd
  • Dysgu Gydol Oes
  • Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
  • Bywoliaeth gynaliadwy

Sicrhewch eich bod wedi darllen y ddogfen ganllaw ar wefan CGGC cyn dechrau eich cais am gyllid.

PROSIECTAU A GYLLIDWYD YN FLAENOROL

Gyda chymorth gan Gynllun Cymru ac Affrica, gwnaeth Engineers for Overseas Development (EFOD) gyflawni seilwaith glanweithdra hanfodol ym Meithrinfa ac Ysgol Gynradd Ffydd yn Bukedea, Uganda. Gan ymateb i gyflyrau anniogel ac anhylan, gweithiodd gwirfoddolwyr EFOD gydag adeiladwyr lleol i adeiladu dau floc toiled yn defnyddio defnyddiau lleol a systemau glanweithdra ecolegol, gan wella iechyd, urddas a mynediad at addysg i 170 o blant a staff.

Gwnaeth ugain o beirianwyr ifanc o bob rhan o Gymru gyfrannu at y prosiect ar y safle ac o bell, gan gael profiad ymarferol amhrisiadwy mewn dylunio cynaliadwy, rheoli cyllidebau a chydweithio rhyngddiwylliannol. Gwnaeth eu cyfraniad nid yn unig gryfhau capasiti lleol, ond hefyd ddyfnhau eu sgiliau proffesiynol a’u hymwybyddiaeth fyd-eang.

RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS

Gellir gwneud ceisiadau drwy MAP, Porth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC. I gofrestru a gweld cyfleoedd cyllido presennol CGGC, ewch i map.wcva.cymru.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch y broses ymgeisio, anfonwch e-bost at grantiaucymruaffrica@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124.

I gael cymorth i ddatblygu’ch cais, cysylltwch ag enquiries@hubcymruafrica.org.uk.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 12/02/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cyllid newydd wedi’i sicrhau ar gyfer ecosystemau morol Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/01/26
Categorïau: Cyllid, Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Ffordd syml i gyflogwyr roi yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/10/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Mae CGGC yn chwilio am banelwyr cynghori ar gyllid newydd!

Darllen mwy