Mae gwirfoddolwr mewn banc bwyd yn gwisgo menig a PPE mwgwd wyneb yn y pandemig coronafirws wrth bacio parsel cleient

Mae cyllid argyfwng COVID-19 yn newid

Cyhoeddwyd : 29/07/20 | Categorïau: Cyllid |

Bydd Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol CGGC, sydd wedi dyfarnu bron £7.5 miliwn i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, yn newid ym mis Awst i adlewyrchu anghenion newidiol y sector.

Yn ystod y 15 o wythnosau y mae Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSEF) wedi bod ar waith, mae wedi dyfarnu bron £7.5 miliwn mewn ymateb i geisiadau grant brys gan fudiadau gwirfoddol ar y rheng flaen yng Nghymru. Cafodd VSEF ei chyllido gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sector gwirfoddol i ehangu ac addasu gwasanaethau, ac i wynebu heriau newydd a achoswyd gan y pandemig.

Mae’r gweithgarwch a gyllidwyd gan VSEF wedi helpu’r sector i gynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed ledled Cymru mewn ymateb i COVID-19, a rhagwelir y bydd yn ymgysylltu â bron 6,000 o wirfoddolwyr ac yn cynorthwyo dros 700,000 o fuddiolwyr yn y misoedd i ddod. Mae gwaith mudiadau gwirfoddol yn ystod y pedwar mis diwethaf wedi bod yn syfrdanol ac yn amhrisiadwy, gan daflu rhaff hanfodol i gymunedau, mynd i’r afael ag ynysu a gwella cydlyniant cymunedol.

Er enghraifft, gwnaeth BMMR Parish Trust ddefnyddio cyllid grant VSEF i ehangu eu canolfan fwyd a’u gwasanaethau dosbarthu bwyd, mewn ymateb i’r cynnydd mewn ceisiadau am gymorth gydag eitemau hanfodol yn eu cymuned.

Gallwch weld mwy o enghreifftiau o weithgareddau a gyllidwyd drwy VSEF yma.

Symud i’r cam adfer

Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio ac wrth i wasanaethau gwirfoddol ailgydio mewn rhywfaint o weithgarwch wyneb yn wyneb, bydd Llywodraeth Cymru a CGGC yn agor cam newydd o’r cynllun grant brys er mwyn galluogi’r sector i fynd i’r afael â gwahanol heriau yn y camau o’r pandemig sydd i ddod.

Bydd VSEF, ar ei ffurf bresennol, yn cau ar gyfer ceisiadau ar 7 Awst 2020 am 5pm. O 17 Awst 2020, bydd cam newydd o gyllid grant ar gael i helpu’r sector i fynd i’r afael â’r heriau sy’n dod i’r amlwg nawr wrth i ni symud i gam adfer y pandemig.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt: ‘Mae mudiadau elusennol, mudiadau sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan hanfodol yn yr ymateb i Covid-19, ac nid yw cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r trydydd sector wedi dod i ben yma.

‘Wrth i fywyd ddechrau dychwelyd i normal newydd, ac wrth i gysgodi i’n dinasyddion mwyaf agored i niwed ddod i ben ym mis Awst, byddwn yn agor cynllun cyllido newydd i alluogi mudiadau i ddiwallu anghenion newydd ac ymateb i heriau newydd.

‘Rwyf am gydnabod a dathlu’r cyfraniad amhrisiadwy a wnaed eisoes gan y trydydd sector yng Nghymru, sydd wedi darparu cymorth a chefnogaeth y mae mawr eu hangen yn ystod cyfnod arbennig o heriol. Diolch i chi am barhau i weithio’n ddiflino i gefnogi cymunedau ledled Cymru. Mae eich ymroddiad wedi bod yn ysbrydoliaeth.’

Nod y cyllid hwn fydd cyfrannu at adferiad teg a chyfiawn yng Nghymru. Mae canllawiau’n cael eu datblygu ar hyn o bryd ar yr hyn a fydd yn cael ei gyllido yn ystod cam nesaf y cynllun grant, a bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi’n bwriadu gwneud cais i VSEF cyn 7 Awst, cysylltwch â Sian Baker Maurice ar 02920 431778, cyn i chi gyflwyno cais, i drafod eich cais arfaethedig.

Mae Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector yn parhau i fod yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd. Os hoffech chi drafod pa grant sydd orau i chi, cysylltwch â ni.

I weld diweddariadau ar y cam cyllido newydd, cadwch lygad ar dudalen we VSEF, ein tudalen newyddion a chyfryngau cymdeithasol, neu cofrestrwch i gael ein cylchlythyr COVID-19 dyddiol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy