Person sy'n dal offer glanhau traeth yn cerdded ar hyd y traeth

Mae Cronfa Adeiladu Capasiti Arfordirol yn ôl!

Cyhoeddwyd : 20/03/26 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Cynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn ariannu prosiectau lleol mewn ardaloedd arfordirol yng Nghymru ac yn dod â phartneriaid at ei gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn galluogi cymunedau i gymryd camau gweithredu yn ardaloedd arfordirol Cymru i gefnogi’r gwaith o adfer natur a chynaliadwyedd.

Nod y gronfa yw meithrin gallu ar gyfer partneriaid cymunedol, gan eu helpu i gymryd camau gweithredu cynaliadwy sy’n cefnogi twf ac adferiad mewn ardaloedd morol ac arfordirol lleol. Mae’n annog cydweithio rhwng rhanddeiliaid, fel cymunedau, busnesau, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, ac yn adeiladu rhwydweithiau sy’n meithrin adferiad ac adfywiad natur mewn ardaloedd arfordirol. Rhaid i bob prosiect fodloni o leia un o amcanion Deddf Pysgodfeydd 2020.

CYLLID 2026-27

Mae gan y cynllun gyllideb flynyddol o £478,500 sydd ar gael ar gyfer prosiectau sy’n werth £20,000 o leiaf. Mae gan y gyllideb raniad tybiannol o £385,000 o gyfalaf a £93,500 o refeniw. Rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Mawrth 2027.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r cynllun o 2026-27 ymlaen, gan adeiladu ar ei fuddsoddiad mewn adfer natur leol drwy’r Partneriaethau Natur Lleol. Gwneir ceisiadau drwy’r Partneriaethau Natur Lleol, a CGGC sy’n rheoli’r cyllid a’r gwaith cydlynu cyffredinol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Mai 2026.

PWY ALL YMGEISIO?

Gall unrhyw bartneriaid newydd neu gyfredol sydd â diddordeb mewn cefnogi eu cymunedau arfordirol wneud cais. I wneud cais, bydd angen i chi gysylltu â Chydlynydd eich Partneriaeth Natur Leol  a fydd yn gweithredu fel y prif ymgeisydd am y cyllid. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i lnpcymru@wcva.cymru.

BETH FYDD YN CAEL CYLLID GENNYM

Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o weithgareddau y gallai’r gronfa eu cefnogi:

  • Cyflawni amcanion y pysgodfeydd, fel yr amlinellir yn y dull strategol o weithredu ar gyfer pysgodfeydd
  • Datblygu sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau/partneriaethau i ymgysylltu â materion morol ac arfordirol
  • Cynnal ymarferion cwmpasu i edrych ar leihau allyriadau carbon yn yr amgylchedd morol/arfordirol
  • Cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ecosystemau lleol a sut i’w rheoli a’u defnyddio’n gyfrifol
  • Rhoi cynlluniau ailgylchu ar waith
  • Cynnal ymchwil i amgylcheddau lleol a’r effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei chael
  • Gwella cadwyni cyflenwi bwyd môr lleol a’u cynaliadwyedd
  • Meithrin hamdden a thwristiaeth gynaliadwy
  • Meithrin dealltwriaeth o sut i wella ansawdd dŵr
  • Datblygu pecynnau bwyd ecogyfeillgar

RHAGOR O WYBODAETH

Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol a sut i wneud cais ar gael drwy fynd i dudalen y cynllun.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 30/03/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Grantiau newydd ar gael i gryfhau cymunedau Cymreig

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/03/26
Categorïau: Cyllid, Gwirfoddoli, Newyddion

‘Galla’ i fod yn fi fy hun’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 17/03/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Pobl sy’n derbyn benthyciadau yn cael eu gwobrwyo am ddefnyddio’r Gymraeg

Darllen mwy