Gwaith ymchwil y Comisiwn Elusennau ar ymddiriedolwyr yn canfod bod COVID-19 wedi cael effaith anwastad ar mudiadau gwirfoddol
Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi adroddiad ar ymchwil i brofiadau ymddiriedolwyr elusennau (Saesneg yn unig). Mae’r adroddiad hwn yn cyfuno canfyddiadau arolwg meintiol a chyfweliadau ansoddol trylwyr gydag ymddiriedolwyr.
Prif ganfyddiadau
- Mae effaith y pandemig ar elusennau wedi amrywio, yn dibynnu ar eu maint a’u ffordd o weithio.
- Mae ymddiriedolwyr yn hyderus yn eu rôl ac yn deall eu cyfrifoldebau ar y cyfan.
- Yn aml, nid yw ymddiriedolwyr yn mynd ati i fesur gweithgareddau mewn modd ffurfiol.
- Mae’r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn cydnabod pwysigrwydd ystyried disgwyliadau’r cyhoedd ac yn teimlo bod ganddynt gyfrifoldeb cyfunol dros gynnal enw da’r sector.
- Mae ymddiriedolwyr sy’n defnyddio canllawiau’r Comisiwn yn credu eu bod yn ddefnyddiol, ond gallent fod yn fwy hygyrch.
Canfu’r gwaith ymchwil y canlynol:
‘Mae COVID-19 wedi cael effaith anwastad ar y sector, ac mae elusennau llai o faint yn llawer mwy tebygol o fod wedi rhoi’r gorau i’w gwasanaethau. Dywed chwarter yr elusennau ag incymau llai na £10,000 eu bod wedi gorfod rhoi’r gorau i’w holl wasanaethau, o gymharu â dim ond 3% o elusennau ag incymau o £500,000 neu fwy. Mewn cyferbyniad â hyn, roedd elusennau mwy o faint yn fwy tebygol o fod wedi symud eu gwasanaethau cyfredol ar-lein (63%) ac o fod wedi helpu’n uniongyrchol â’r pandemig (36%).
‘Wrth i ddigwyddiadau codi arian leihau, bu modd i fwy na chwarter o’r elusennau mwyaf (> £500,000) ddod o hyd i ffynonellau eraill o incwm, o’u cymharu â dim ond 5% o’r rhai lleiaf (<£10,000). Gwnaeth oddeutu hanner yr elusennau mwyaf ddefnyddio cyllid ffyrlo neu gymorth brys gan y llywodraeth, a gwnaeth 17% ohonynt fanteisio ar gronfa £750 miliwn y llywodraeth a sefydlwyd yn benodol ar gyfer y sector gwirfoddol. Roedd elusennau llai o faint yn llai tebygol o fod wedi manteisio ar yr un o’r rhain.’
Fodd bynnag, er bod y mwyafrif o elusennau’n nodi bod heriau sylweddol wedi codi yn sgil y pandemig, dywed rhai bod yr argyfwng wedi arwain at fuddion mwy hirdymor, fel penderfyniadau gwell a chyflymach yn cael eu gwneud.’
Un canfyddiad cadarnhaol yw bod gan lawer o ymddiriedolwyr ymdeimlad o falchder yn eu cyfrifoldebau ac yn mwynhau rhoi o’u hamser i fod yn ymddiriedolwr.
Darganfyddwch fwy
Bydd CGGC yn defnyddio’r canfyddiadau o’r ymchwil hwn i lywio’r ffordd rydyn ni’n cynorthwyo elusennau yng Nghymru â llywodraethu da.
Gallwch chi ddarllen mwy am y gwaith ymchwil hwn ar wefan y Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig)