Ydych chi eisiau helpu i lywio cyfeiriad y sector gwirfoddol yma yng Nghymru? Dewch i wybod rhagor am wneud cais ar gyfer y swydd!
Mae CGGC yn chwilio am Gadeirydd bwrdd newydd i helpu i arwain ein mudiad wrth i ni alluogi’r sector gwirfoddol i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd. Mae ein Cadeirydd yn gyfrifol am sicrhau arweinyddiaeth strategol, llywodraethiant a chyfeiriad gwaith CGGC.
Rydyn ni’n chwilio am Gadeirydd newydd sy’n gallu darparu arweinyddiaeth eglur a gweladwy ar gyfer CGGC fel elusen annibynnol ac ar gyfer y sector gwirfoddol ehangach yma yng Nghymru, yn ogystal â rhannu ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy werthfawrogi gwahaniaethau er mwyn gwneud penderfyniadau gwell a chyflawni canlyniadau gwell.
PAM YDYN NI’N RECRIWTIO CADEIRYDD NEWYDD?
Ar ôl wyth mlynedd, bydd Peter Davies yn camu i lawr o’i swydd fel Cadeirydd CGGC. Mae Peter wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygiad strategol CGGC ers 2014 ac fel mudiad, rydyn ni’n hynod ddiolchgar iddo am ei gefnogaeth a’i gyfraniadau yn ystod y cyfnod hwn.
Rydyn ni’n chwilio am Gadeirydd newydd nawr a all ein helpu ni i ddatblygu a chyflawni ein gweledigaeth am ddyfodol lle y mae mudiadau gwirfoddol a gwirfoddoli’n ffynnu ar hyd a lled Cymru, gan wella lles pawb.
BETH MAE RÔL CADEIRYDD YN EI CHYNNWYS?
Mae rôl Cadeirydd CGGC yn swydd gyffrous ac amrywiol lle byddwch chi’n cael y cyfle i weithio gydag amrywiaeth enfawr o randdeiliaid â chefndiroedd a phrofiadau amrywiol. Bydd ein Cadeirydd newydd yn ein helpu ni i chwilio’n ffordd drwy nifer o heriau allweddol a fydd yn wynebu’r sector yn y dyfodol agos, fel effaith ymadael â’r UE, lleihau anghydraddoldebau yn y sector, datblygu adnoddau digidol a’r angen i gynyddu gwydnwch ym mhob rhan o’r gwaith.
EISIAU DYSGU MWY?
Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gydag Acorn i recriwtio ar gyfer y rôl hon. Edrychwch ar y pecyn gwybodaeth i ddysgu mwy am y rôl a sut i wneud cais.
CYSYLLTWCH Â NI!
Mae ein Cadeirydd presennol, Peter Davies, yn hapus i sgwrsio ag ymgeiswyr â diddordeb am ei brofiad yn y rôl. Os hoffech drefnu sgwrs â Peter, cysylltwch â rmarks@wcva.cymru.