Wrth i HSBC wneud y penderfyniad i gyflwyno ffioedd newydd i gyfrifon banc elusennau, mae CGGC a’i bartneriaid yn gweithio i gefnogi’r sector yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae CGGC yn ymwybodol bod elusennau a mudiadau gwirfoddol wedi bod yn wynebu amrediad o broblemau wrth ddefnyddio gwasanaethau bancio. Ymhlith y rhain mae problemau o ran agor cyfrifon banc busnes bach, cau canghennau lleol a phroblemau gydag addasrwydd cyfrifon ar gyfer elusennau a grwpiau cymunedol.
Y broblem ddiweddaraf yw fod llawer o fudiadau’n cael eu heffeithio gan benderfyniad HSBC i gyflwyno ffioedd cyfrif banc newydd i elusennau. O fis Tachwedd, bydd y banc yn codi £60 y flwyddyn i gadw’r cyfrifon ar agor ac mae wedi cyflwyno amrediad o ffioedd eraill.
Mae hon yn sefyllfa anodd ac rydyn ni’n poeni am yr heriau y mae’n ei chreu i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Hoffem ddiolch i’n haelodau am godi’r mater gyda ni a’ch sicrhau chi ein bod yn cymryd camau lle y gallwn ni i gefnogi’r sector.
Mae CGGC yn cael cyfarfodydd rheolaidd â’r Comisiwn Elusennau a chyrff ymbarél eraill i drafod materion sy’n effeithio ar elusennau yng Nghymru, gan gynnwys mynediad at wasanaethau bancio. Gwnaethom ni, ynghyd â’n partneriaid o’r DU, gwrdd yn ddiweddar â’r Grŵp Cyllid Elusennau a nifer o gynrychiolwyr o fanciau’r stryd fawr i drafod ein pryderon.
Yn y cyfamser, os yw eich mudiad yn cael ei effeithio, dyma rai adnoddau (Saesneg yn unig):
- Canllawiau bancio i elusennau gan y Grŵp Cyllid Elusennau
- Canllawiau ar agor cyfrif banc gan y Gynghrair Elusennau Bach
- Os ydych chi eisiau dod o hyd i ddarparwr newydd, mae gan ‘Better Business Finance’ offeryn chwilio cyfrif banc sy’n gallu cael ei hidlo ar gyfer elusennau
Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch cyngor gwirfoddol sirol (CVC) lleol i drafod eich opsiynau. Gallwch chi ddod o hyd i’r rhestr o CVCs yma: Cefnogi Trydydd Sector Cymru.