Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, chwilfrydig a chydweithredol i ymuno â CGGC fel Swyddog Prosiect Digidol, gan gefnogi’r gwaith o gyflwyno Newid: Digidol ar gyfer y Trydydd Sector.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan wrth helpu mudiadau gwirfoddol ledled Cymru i wneud gwell defnydd o ddigidol i gryfhau eu heffaith a’u gwydnwch.
SWYDDOG PROSIECT DIGIDOL
Categori Cymraeg: Dymunol
Llawn amser, 35 awr yr wythnos yn hyblyg
£34,285 yn cynyddu i £35,313 y flwyddyn
Cyfnod penodol 12 mis – gyda phosibilrwydd o estyniad
Mae CGGC yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol i’w gynllun pensiwn cymeradwy.
Lleoliad a hyblygrwydd: Rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Byddwch yn cael yr opsiwn o weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein canolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd a ledled gogledd Cymru lle rydym yn llogi mannau cymunedol bach i ddod â’r staff ynghyd. Nid oes unrhyw ddiwrnodau swyddfa gorfodol y tu hwnt i gyfarfodydd allweddol a gofynion tîm penodol.
AM GWEITHIO YN CGGC?
Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gŵyl banc a phum diwrnod disgresiwn, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, cynllun tâl salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy’n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.
YNGLŶN Â’R RÔL
Mae’r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy’n mwynhau gweithio ar draws ffrydiau gwaith, gwella systemau a phrosesau, a chefnogi eraill i gyflawni eu nodau. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Sgiliau Digidol a phartneriaid o Cwmpas a ProMo Cymru, gan gyfrannu at raglen amrywiol o weithgareddau gan gynnwys digwyddiadau, hyfforddiant, grantiau a chefnogaeth ddigidol – hyn i gyd â’r nod o alluogi’r sector gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
Nod y swydd hon yw cefnogi gwaith Newid: Digidol ar gyfer y trydydd Sector. Mae Newid yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth gan CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, ac fe’i hariannir gan Lywodraeth Cymru.
SUT I WNEUD CAIS
Dyddiad cau: Hanner nos 25 Mai 2026
Dyddiad cyfweliad: 10 a 11 Mehefin 2026
Darllenwch y swydd-ddisgrifiad swydd llawn a gwneud cais yma.
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.