Woman shakes hand with man in office

Mae CGGC yn chwilio am Ddirprwy Drysorydd

Cyhoeddwyd : 02/10/20 | Categorïau: Newyddion |

Allwch chi ein helpu i wneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru? Ymunwch a ni fel Dirprwy Drysorydd.

DIWEDDARIAD: mae’r swydd yma bellach ar gau.

Fyddech chi’n mwynhau’r cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned, i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl? Os byddech chi yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Mae gwirfoddoli’n brofiad anhygoel sy’n darparu’r cyfle i chi ddatblygu sgiliau newydd, adeiladu ar y profiad a’r wybodaeth sydd gennych yn barod, adeiladu rhwydweithiau a bod yn ganolog wrth gefnogi CGGC i gynorthwyo i gyflawni ein hamcanion elusennol.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am rywun i ymuno â ni fel Is-Drysorydd i:

  • sicrhau bod ein materion ariannol yn cael eu gweithredu o fewn gofynion cyfreithiol, confensiynau cyfrifyddu ac arferion da
  • gweithio mewn partneriaeth â’r Trysorydd, y Cyfarwyddwr Cyllid a’r Prif Weithredwr i sicrhau hyfywdra ariannol a datblygiad yr elusen

Rydym yn benodol yn chwilio am unigolyn â chefndir ariannol a fydd yn ymgymryd â’r rôl â’r gallu a’r parodrwydd i ymroi’r amser a’r ymdrech angenrheidiol.

CGGC yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Rydym yn cefnogi elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, mentrau cymdeithasol a gwirfoddoli, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel y sector gwirfoddol neu’r sector nid-er-elw.  Ein gweledigaeth yw dyfodol lle bydd y sector gwirfoddol a gwirfoddoli’n ffynnu ar draws Cymru, gan wella llesiant i bawb.

Os carech chi wneud gwahaniaeth ac os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle gwirfoddol hwn byddem wrth ein bodd o glywed gennych. Cysylltwch â: Ruth Marks, Prif Weithredwr ar rmarks@wcva.cymru i drefnu sgwrs anffurfiol.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Ydych chi am hysbysebu’ch swyddi fel ymddiriedolwr?

Recruit3 yw ein gwasanaeth recriwtio i’r sector gwirfoddol, sy’n dod o hyd i bobl dalentog ac uchelgeisiol i weithio yn sector gwirfoddol Cymru, ac yn helpu pobl i ddod o hyd i swyddi sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Gallwch gymryd hysbyseb â thâl am ymddiriedolwr ar R3 – gweler eu gwefan am ragor o fanylion.

Gallwch hefyd hysbysebu’ch post am ddim ar wefan Gwirfoddoli Cymru Cymorth y Trydydd Sector.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy