Sesiwn chwarae i deuluoedd yng Nghanolfan Cymunedol Butetown yng Nghaerdydd a redir gan yr elusen cynhwysiant cymdeithasol, The Mentor Ring

Mae CGGC yn chwilio am banelwyr cynghori ar gyllid newydd!

Cyhoeddwyd : 15/11/21 | Categorïau: Newyddion |

Ydych chi eisiau helpu mudiadau gwirfoddol i wneud mwy o wahaniaeth? Gwnewch gais nawr i ddod yn aelod o banel cynghori ar gyllid CGGC!

Mae CGGC yn chwilio am aelodau newydd i roi arweiniad ac adborth ar ein cynlluniau cyllido amrywiol. Mae’r cynlluniau cyllido hyn yn galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl yn ein cymunedau ni yma a thu hwnt.

Gwirfoddolwyr yw ein haelodau panel annibynnol sy’n ein helpu ni i wneud penderfyniadau da ynghylch sut y mae cyllid yn cael ei ddosbarthu er mwyn sicrhau y gall y sector gwirfoddol barhau â’r gwaith hanfodol a’i ehangu.

PAM RYDYN NI’N RECRIWTIO AELODAU NEWYDD?

Mae CGGC yn cydnabod gwerth cadarnhaol amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu. Rydyn ni’n adolygu aelodaeth ein holl baneli cynghori ar gyllid yn llwyr ac yn ceisio dod o hyd i safbwyntiau, agweddau ac arbenigeddau newydd.

Rydyn ni’n ymrwymedig i fod mor gynhwysol â phosibl a’n nod ni yw gallu clywed cymaint â phosibl o wahanol leisiau ar y paneli cynghori. Lleisiau o gefndiroedd amrywiol nad ydynt yn aml yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar baneli o’r fath.

BETH FYDDWCH CHI’N EI GAEL O FOD YN AELOD PANEL?

Bydd dod yn aelod panel yn golygu y byddwch chi’n gallu mynd ati’n weithredol i wneud mwy o wahaniaeth i gymdeithas ac yn cael cyfle ffantastig i ddysgu a datblygu eich sgiliau a’ch profiad mewn meysydd fel llywodraethu, rheoli grantiau a dadansoddi risg.

Mae ein paneli yn ffordd wych o ddatblygu eich rhwydwaith drwy weithio ochr yn ochr ag aelodau panel gwirfoddol eraill â chefndiroedd a phrofiadau amrywiol.

Mae rolau panel grantiau CGGC yn wirfoddol, felly nid oes cyflog. Rydyn ni’n deall nad oes gan bawb yr un gallu i ymgymryd â gwaith di-dâl, ond byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i gynorthwyo unrhyw unigolion â diddordeb i oresgyn y rhwystrau hyn.

EISIAU DYSGU MWY?

Lawrlwythwch ein pecyn recriwtio panel grantiau yma i ddysgu mwy am y rolau ar gyfer ein cynlluniau cyllido amrywiol.

Cysylltwch! Ffoniwch ni ar 0300 111 0124 neu anfonwch e-bost i help@wcva.cymru ac fe wnawn ni drefnu i un o aelodau ein tîm cyllido siarad â chi.

SUT I WNEUD CAIS

I wneud cais am un neu ragor o’r rolau panel grantiau, lawrlwythwch y ffurflen gais a ffurflen monitro cyfle cyfartal a’i dychwelyd drwy e-bost i activeinclusion@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 08/11/24 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu | Newyddion |

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Allwch chi helpu i stopio’r effaith gynyddol?

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 30/10/24 | Categorïau: Newyddion |

Pan ddaw’r pencampwyr ynghyd

Darllen mwy