Mae gwirfoddolwyr gyda Chŵn Cymorth Cariad yn mynd â’u cŵn therapi i mewn i ysbytai a safleoedd cymunedol, ac yn cyflwyno canlyniadau anhygoel i’r cleifion a’r staff fel ei gilydd. Ac mae’r cŵn wrth eu boddau hefyd!
Roedd Milo, ci Helen, bob amser yn hoffi dweud ‘helo’ wrth bobl. Pan oedden nhw yn un o’r dosbarthiadau hyfforddi cŵn rheolaidd, awgrymwyd y byddai Milo yn gwneud ci therapi da.
Gwnaeth Helen ychydig o ymchwil a gofyn am asesiad ci therapi gan fudiad Cŵn Cymorth Cariad (gwefan Saesneg yn unig), ac roedd hi wrth ei bodd pan basiodd yr asesiad. Roedd yn gyffrous ond ychydig yn nerfus i ddechrau ar yr ymweliadau.
‘Pan ddechreuais i wneud ymweliadau yn gyntaf, fel ymlaciais pan welais i sut roedd Milo gyda phobl. Mae angen i chi ymddiried yn eich ci, ac ef sy’n arwain y ffordd. Mae gweld sut mae pobl yn ymateb iddo yn deimlad arbennig iawn.’
Y TÎM PERFFAITH
Cyn hir, roedd hi’n derbyn ceisiadau i ymweld ag ysbytai, cartrefi gofal a phobl oedrannus yn eu cartrefi eu hunain.
‘Weithiau, mae Milo yn agor y drws i bobl siarad â chi. Ac mae ef wedyn yn ymdawelu tra rydyn ni’n siarad. Mae’n waith tîm perffaith!’
Mae Helen a Milo yn ymweld ag ysbyty Glangwili yn rheolaidd ac mae’r staff yn ogystal â’r cleifion yn edrych ymlaen at eu hymweliadau. ‘Mae’n jôc gyda’r nyrsys eu bod nhw’n gwybod enw Milo, ond nid fy un i,’ meddai Helen.
‘Mae Milo wastad yn frwdfrydig. Cyn gynted ag y byddwn ni’n cyrraedd a’r goler goch honno’n cael ei wisgo, mae’n barod. Byddai wrth ei fod yn dal ati o hyd, ond mae’n bwysig ystyried ei les gan fod ymweliadau yn gallu bod yn flinedig. Mae fel petai’n mynd â’r holl emosiynau hyn o bobl ac yn eu hamsugno. Rwyf mor falch ohono.’
CŴN CYMORTH CARIAD
Sefydlodd Robert a Christine Thomas fudiad Cŵn Cymorth Cariad yn 2018 i gefnogi gwirfoddolwyr cŵn therapi yn fwy lleol a gwella safonau lles anifeiliaid o ran cŵn therapi.
‘Mae Cŵn Cymorth Cariad yn hwyluso’r cysylltiad hudol rhwng dynion ac anifeiliaid drwy gysylltu perchnogion tosturiol a’u cŵn sy’n gallu meithrin perthynas glos â phobl ag aelodau o’u cymuned,’ meddai Robert. ‘Mae’r cysylltiad hwn yn galluogi pobl i deimlo llonyddwch, llawenydd, cysur ac ymdeimlad o gymundod, sy’n gallu cael effaith hirdymor ar lesiant.’
Mae’r mudiad, sy’n gweithio o Hwlffordd, yn weithredol mewn 13 sir ledled Cymru ac yn gweithio gyda phob Bwrdd Iechyd y GIG. Gellir adnabod y gwirfoddolwyr a’u cŵn yn glir drwy eu dillad brand coch.
BUDDION THERAPIWTIG
Mae’r cŵn yn ymweld ag amrediad o wardiau, gan gynnwys unedau Gofal Dwys, Dementia, Iechyd Meddwl (plant, oedolion ac oedolion hŷn), Lliniarol, Strôc, Gofal Coronaidd, ENT (Clust, trwyn a gwddf), Llawfeddygol ac Orthopedig, Endosgopi, Eiddilwch, Anadlol, canolfannau brechu a hyd yn oed ambiwlansys wrth iddyn nhw aros y tu allan i ysbytai.
Awgryma’r adborth gan staff a gwirfoddolwyr fod ymweliadau gan gŵn therapi yn gwella hwyl cleifion a staff ac yn rhoi ymdeimlad o normaledd mewn amgylchedd a all fod yn anodd.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gall pob claf gael mynediad at sesiynau ‘adferiad drwy weithgarwch’ ar ward seiciatrig. Nododd Therapydd Galwedigaethol, ‘Pan ddaeth y ci therapi i’r grwpiau, cynyddodd y cyfraniad 100%. Rydyn ni’n gwybod bod adferiad drwy weithgarwch yn gwella hwyl 70% o’r rheini sy’n cwblhau gwerthusiad, ond mae’r ci therapi yn gwella hwyl 16% arall o gleifion.’
Dywedodd gwirfoddolwr ar ward dementia fod ‘wynebau cleifion yn goleuo wrth i ni gerdded i mewn, yn methu ag aros am eu tro nhw i roi mwythau i’r ci. Mae’r holl beth mor werth chweil.’
CŴN THERAPI YN Y GYMUNED
Mae cŵn therapi yn weithredol yn y gymuned hefyd. Er enghraifft, mae Rhondda Cynon Taf wedi sefydlu rhaglen cerdded cŵn therapi presgripsiynu cymdeithasol i gefnogi iechyd meddwl. Yn Sir Gaerfyrddin, gellir cael ymweliadau cartref gan gŵn therapi drwy bresgripsiynu cymdeithasol, er mwyn atal unigrwydd ymhlith pobl hŷn. Dywed cleifion yn aml mae’r ymweliadau hyn yw uchafbwynt eu hwythnos.
Y FEDDYGINIAETH ORAU
Mae fwyfwy o dystiolaeth wyddonol yn cefnogi’r gred bod bodau dynol yn cael lliaws o fuddion iechyd o fod mewn cysylltiad agos ag anifail. Mae’r rhain yn cynnwys gwell iechyd cardiofasgwlaidd, llai o straen, llai o unigrwydd, gorbryder ac iselder a gwell rhyngweithio cymdeithasol.
Canfuwyd y gall treulio cyn lleied â phum munud yn rhyngweithio â chi therapi leihau lefelau’r hormon straen, cortisol.
Canfuwyd hefyd y gall cŵn therapi godi lefel yr ocsitosin – a elwir yn ‘hormon cariad’ weithiau am ei ddylanwad positif ar ein hymateb emosiynol a’n hymddygiad cymdeithasol, gan gynnwys empathi, ymddiriedaeth a’n cyfathrebu positif. Felly mae’n hawdd gweld y gall cleifion sy’n cael eu cynorthwyo gan gi therapi fod mewn cyflwr gwell i gymryd rhan mewn sesiynau therapiwtig neu ddysgu rhywbeth newydd.
Hyd yn oed pan fydd rhywun yn ddifrifol wael neu’n wynebu heriau eraill, gall cyfleoedd i ryngweithio â chyfaill cyfeillgar pedwar coes fod yn fath effeithiol o feddyginiaeth.
MAE CŴN YN WIRFODDOLWYR HEFYD!
Mae gwirfoddolwyr fel Helen yn ganolog i fudiad Cŵn Cymorth Cariad. Mae eu hamser, eu profiad a’u hymroddiad yn werthfawr tu hwnt. Mae hyfforddiant a mesurau diogelu hanfodol yn eu lle ac mae’r gwirfoddolwyr yn ymrwymedig i wella bywydau pobl eraill, gan hefyd gefnogi lles eu cŵn.
Gall cŵn therapi gael eu hystyried yn gyfranogwyr anwirfoddol. Mae gwirfoddolwyr yn gofalu eu bod yn cadw llygad ar brofiadau emosiynol eu cŵn, fel llawenydd, neu ofn, ac yn ymateb yn unol â hynny.
Caiff addasrwydd y cŵn i’r rôl ei asesu ar y dechrau gan edrych ar dair maen brawf allweddol: cydsyniad, ymddygiad a thuedd naturiol i gysylltu’n gyfeillgar â phobl. Mae eu parodrwydd i gymryd rhan, heb wobr na gorfodaeth, yn cael ei fonitro’n gyson er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd rhan gyda chydsyniad mud ond clir. Pan fydd hyn yn newid, gallant gymryd ‘seibiant’ neu ymddeol.
Dylai’r cŵn a’r cleientiaid gael rhywbeth o bob ymweliad. Mae’r trefniant yn cyflwyno buddion i’r ddwy ochr.
ENILLWYR
Cŵn Cymorth Cariad oedd enillwyr y wobr ‘Llesiant yng Nghymru’ yng Ngwobrau Elusennau Cymru y llynedd. Bydd Helen, a Milo, yn westeion yng ngwasanaeth dathlu 75 mlynedd y GIG a fydd yn cael ei gynnal yn Nhrelái ar 4 Gorffennaf 2023, ynghyd â gwirfoddolwyr enwebeion eraill yn y categori.
Mae’r cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru eleni ar agor ar hyn o bryd tan 5pm, 26 Mehefin 2023.
HELPLU CYMRU
Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae tudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau diweddar, blogiau a storïau achos.