Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn i gefnogi arweinydd hanfodol yn y sector gwirfoddol, a’i alluogi i dyfu, datblygu a chynyddu ei effaith.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ôl ar gyfer 2025 ac yn cymryd ceisiadau nawr i helpu arweinwyr yn y sector gwirfoddol i dyfu a datblygu eu sgiliau arweinyddiaeth.
Caiff y bwrsari ei reoli gan ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2025.
DERBYNYDDION GRANT BLAENOROL
Ers 2017, mae’r bwrsari wedi cyllido:
- Ymweliad astudio â Copenhagen i gael gwersi ar drafnidiaeth gynaliadwy
- Cyfnewidfa ddysgu ym Montreal ar arddio cymunedol
- Adeiladu rhwydweithiau a rhannu gwybodaeth yn y sector celfyddydau
- Nifer o gyrsiau datblygu arweinyddiaeth fel y cwrs Arweinwyr Mentrus gan Academi Menter Gymdeithasol Cymru
- Taith drawsnewidiol i Hollywood ar gyfer elusen ffilm gynhwysol, TAPE Community Music and Film
- Taith astudio i Ganada, i ddysgu’n uniongyrchol am wasanaethau cyflogaeth i ffoaduriaid ac am waith ar ddylanwadu ar bolisïau llywodraethol
- Taith astudio i Singapore, i gwrdd ag asiantaethau cenedlaethol a siarad â gweithwyr proffesiynol i ddarganfod sut maen nhw’n defnyddio technoleg i weithio gyda phobl ifanc
Darllenwch fwy am sut mae pobl wedi defnyddio ein bwrsari arweinyddiaeth.
BETH WNAWN NI EI GYLLIDO
Mae’r paramedrau ar gyfer sut y gellir gwario’r bwrsari yn agored ac anogir ymgeiswyr i feddwl am syniadau diddorol i gefnogi eu datblygiad eu hunain fel arweinydd. Roedd Walter yn frwd am deithio a dysgu, ac roeddem am i’r bwrsari hwn adlewyrchu hynny. Gellid defnyddio’r arian, er enghraifft, ar:
- gwrs astudio penodol
- cyllido ymweliad, tramor o bosibl, i weld sut mae pobl eraill yn mynd ati i ymdrin â phethau, neu
- yn syml, unrhyw beth y mae’r buddiolwr yn teimlo y gallai symud ef a’i fudiad ymlaen
Yr unig gyfyngiadau yw eich dychymyg!
ENILLYDD 2024
Dyfarnwyd bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2024 i Cindy Chen o ProMo Cymru.
Bydd Cindy, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu ProMo Cymru, yn defnyddio’r bwrsari i dalu am daith astudio i Singapore i gwrdd ag asiantaethau cenedlaethol a siarad â gweithwyr proffesiynol er mwyn canfod sut maen nhw’n defnyddio technoleg i weithio gyda phobl ifanc.
Trwy ymweld â Singapore, mae Cindy yn gobeithio ateb rhai cwestiynau pwysig, fel ‘sut mae Singapore yn wahanol? Beth mae Singapore yn ei wneud y gallai gwledydd fel Cymru ddysgu ohono? A oes unrhyw debygrwydd rhwng ein teithiau a’n profiadau?’.
RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS
Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn i gefnogi arweinydd hanfodol yn y sector gwirfoddol.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n tudalen Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2025.