Gwnewch gais heddiw am y cyfle unigryw hwn i ddatblygu fel arweinydd yn y sector gwirfoddol, ennill profiadau ac arbenigedd newydd a chynyddu eich effaith.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ôl ar gyfer 2026 ac yn cymryd ceisiadau nawr i helpu arweinwyr yn y sector gwirfoddol i dyfu a datblygu eu sgiliau arweinyddiaeth.
Rheolir y bwrsari gan ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Hydref 2026.
BETH WNAWN NI EI GYLLIDO
Mae’r paramedrau ar gyfer sut y gellir gwario’r bwrsari yn agored ac anogir ymgeiswyr i feddwl am syniadau diddorol i gefnogi eu datblygiad eu hunain fel arweinydd. Roedd Walter yn frwd am deithio a dysgu, ac roedden ni am i’r bwrsari hwn adlewyrchu hynny. Gellid defnyddio’r arian, er enghraifft, ar:
- gwrs astudio penodol
- cyllido ymweliad, tramor o bosibl, i weld sut mae pobl eraill yn mynd ati i ymdrin â phethau, neu
- yn syml, unrhyw beth y mae’r buddiolwr yn teimlo y gallai symud ef a’i fudiad ymlaen
Yr unig gyfyngiadau yw eich dychymyg!
DERBYNYDDION GRANT BLAENOROL
Ers 2017, mae’r bwrsari wedi cyllido:
- Ymweliad astudio â Copenhagen i gael gwersi ar drafnidiaeth gynaliadwy
- Cyfnewidfa ddysgu ym Montreal ar arddio cymunedol
- Adeiladu rhwydweithiau a rhannu gwybodaeth yn y sector celfyddydau
- Nifer o gyrsiau datblygu arweinyddiaeth fel y cwrs Arweinwyr Mentrus gan Academi Menter Gymdeithasol Cymru
- Taith drawsnewidiol i Hollywood ar gyfer elusen ffilm gynhwysol, TAPE: Cerdd a Ffilm Cymunedol
- Taith astudio i Ganada, i ddysgu o lygad y ffynnon am wasanaethau cyflogaeth i ffoaduriaid ac am waith ar ddylanwadu ar bolisïau llywodraethol
- Taith astudio i Singapore, i gwrdd ag asiantaethau cenedlaethol a siarad â gweithwyr proffesiynol i ddarganfod sut maen nhw’n defnyddio technoleg i weithio gyda phobl ifanc
- Ymweliad â’r Iseldiroedd i gwrdd ag arloeswyr ym maes technoleg cartrefi clyfar i bobl anabl
Darllenwch fwy am sut mae pobl wedi defnyddio ein bwrsari arweinyddiaeth.
ENILLYDD 2025
Dyfarnwyd bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2025 i Ashley Bale o Innovate Trust.
Mae Ashley yn bwriadu defnyddio’r bwrsari i dalu am ymweliad astudio i’r Iseldiroedd, gwlad sy’n dod i’r amlwg fel arweinydd mewn gweithredu polisïau a thechnoleg tai clyfar hygyrch. Maen nhw wedi paratoi’r ffordd ar gyfer dulliau gweithredu technoleg cartrefi clyfar sy’n rhoi blaenoriaeth i annibyniaeth pobl anabl, gan barhau i fod yn gost-effeithiol a chyda’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion.
Bydd yn cwrdd ag arbenigwyr sy’n gweithio ym meysydd symudedd cynhwysol a hygyrchedd yn Amsterdam sy’n mapio ac yn ystyried rhwystrau ffisegol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn mewn mannau cyhoeddus, yn ogystal â gwyddonwyr ac arloeswyr eraill.
RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS
Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn i gefnogi arweinydd hanfodol yn y sector gwirfoddol.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n tudalen Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Hydref 2026.