Plant yn edrych ar draws y llifogydd yn nhalaith Sindh, Pacistan, lle mae angen cymorth brys ar filiynau o bobl. Mae elusen DEC Islamic Relief yn darparu bwyd brys a lloches dros dro wrth i deuluoedd wneud popeth o fewn eu gallu i gadw’n ddiogel a goroesi. Llun: Islamic Relief.

‘Mae angen help ar bobl ar frys’ – Apêl llifogydd Pacistan

Cyhoeddwyd : 05/09/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r llifogydd yn dinistrio Pacistan, gan adael miliynau angen cymorth brys i oroesi. Mae ymgyrch y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau yn apelio am roddion i gefnogi’r ymateb.

Mae’r llifogydd yn dinistrio Pacistan. Mae pobl yn marw a thua 30 miliwn wedi eu heffeithio. Mae mwy na miliwn o gartrefi wedi’u dinistrio neu eu difrodi’n ddrwg, gan adael pobl yn ddigartref, heb gysgod rhag yr elfennau. Mae angen bwyd, dŵr yfed glân a lloches ar bobl.

Mae cymunedau cyfan wedi cael eu hysgubo ymaith gan y llifogydd. Mae llywodraeth Pacistan yn amcangyfrif bod traean o’r wlad – ardal yr un maint â’r DU – o dan ddŵr. Mae ysgolion, ffyrdd, cnydau a bywoliaeth pobl wedi diflannu a disgwylir i’r amodau waethygu wrth i’r glaw barhau.

Mae perygl uchel o glefydau a gludir mewn dŵr, a diffyg glanweithdra priodol yn gwneud y broblem yn waeth. Rydym eisoes wedi gweld adroddiadau o golera yn sgil y llifogydd. Er y gellir trin colera’n nawdd, gall colera ladd o fewn oriau a datblygu’n gyflym i fod yn argyfwng iechyd mawr os na roddir sylw iddo.

‘Mae llywodraeth Pacistan yn amcangyfrif bod traen o’r wlad o dan ddŵr …’:

 

MAE ELUSENNAU DEC YN CYNNIG CYMORTH ACHUBOL

Mae DEC yn dwyn ynghyd 15 o brif elusennau cymorth y DU i godi arian yn gyflym ac yn effeithlon pan fydd argyfwng dramor.

Mae aelod-elusennau’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) eisoes ar lawr gwlad yn rhoi cymorth achubol naill ai’n uniongyrchol neu drwy bartneriaid lleol. Ond maen nhw angen mwy o arian ar frys i gyrraedd mwy o bobl.

Y blaenoriaethau brys yw darparu llochesau dros dro, cymorth bwyd brys a dŵr yfed glân. Mae elusennau DEC yn cydlynu’n agos â’r awdurdodau lleol a chydag asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig i helpu mewn ffyrdd a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion y rheini a effeithiwyd orau.

SUT GALLWCH CHI HELPU

Rydym yn cefnogi Apêl Llifogydd Pacistan DEC drwy ledaenu’r gair am y trychineb hwn a’r angen am gymorth hanfodol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr apêl ar wefan DEC (Saesneg yn unig).

Y ffordd orau y gallwn ni helpu yw trwy roi. Gallwch chi wneud hyn drwy fynd i https://donation.dec.org.uk/pakistan-floods-appeal.

Mae angen help ar bobl ar frys. Os gallwch chi, rhowch  nawr.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 31/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Allwch chi helpu i stopio’r effaith gynyddol?

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 30/10/24 | Categorïau: Newyddion |

Pan ddaw’r pencampwyr ynghyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 28/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Gwnewch gais nawr am grant Gwirfoddoli Cymru!

Darllen mwy