Mae gennym gyfres o ymddiriedolwyr ac adnoddau llywodraethu sy’n gysylltiedig â COVID-19 ar ein tudalen arweiniad ac adnoddau COVID-19.
Diweddariad COVID-19
Eich helpu i arwain eich sefydliad
Mae llywodraethu da yn hanfodol i lwyddiant mudiadau gwirfoddol. Mewn cyfnod pan mae elusennau amlwg yn canfod eu hunain mewn dyfroedd dyfnion, y cyfryngau’n craffu mwy a mwy, a’r cyhoedd yn colli hyder, mae safonau llywodraethu uchel yn bwysicach nag erioed.
Beth bynnag eich rôl – ymddiriedolwr elusen gofrestredig, aelod o gorff llywodraethu, cyfarwyddwr menter gymdeithasol neu aelod o bwyllgor grŵp gwirfoddol lleol – nod y rhan hon o’n gwefan yw eich helpu â’ch cyfrifoldebau llywodraethu. Bydd llawer o’r wybodaeth sydd yn y rhan hon hefyd yn ddefnyddiol i Brif Swyddogion ac aelodau uwch eraill o’r staff.
Mae CGGC yn cefnogi’r Cod Llywodraethu i Elusennau. Mae’r Cod yn offeryn ymarferol sy’n ceisio helpu elusennau i sefydlu a chynnal safonau llywodraethu uchel. Er bod y Cod wedi cael ei sefydlu ar gyfer elusennau, mae’r safonau ymarfer da yn gymwys i’r rhan fwyaf o fudiadau’r trydydd sector. Byddem yn argymell bod ymddiriedolwyr yn ymgyfarwyddo â’r Cod ac yn derbyn ei egwyddorion.
Sut y gall CGGC eich helpu â llywodraethu
- Gwybodaeth, canllawiau ac adnoddau am ddim
- Cyfleoedd hyfforddi a dysgu amrywiol
- Digwyddiadau ledled Cymru i ddathlu Wythnos Ymddiriedolwyr
- Ein Fforwm Ymddiriedolwyr i’ch galluogi i gyfarfod, dysgu a rhwydweithio â phobl eraill
Cefnogaeth leol
Os yw eich sefydliad yn gweithredu mewn ardal awdurdod lleol benodol, gallwch gael cefnogaeth leol uniongyrchol gan ein partneriaid Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, neu os oes gennych gwestiwn penodol, gallwch gysylltu â ni drwy anfon ebost i governance@wcva.cymru.
Cadw mewn cysylltiad!
Tanysgrifiwch i’n newyddlen wythnosol i gael y newyddion diweddaraf am lywodraethu. Rydym hefyd yn postio’r wybodaeth ddiweddaraf am lywodraethu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Dilynwch ni ar Twitter a Facebook i gael yr wybodaeth ddiweddaraf!
Dolenni defnyddiol
ICSA – The Governance Institute
NCVO (Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol)
Wythnos Ymddiriedolwyr
Dathlu ymddiriedolwyr a’u gwaith
Adnoddau
Categori | Cyllid | Llywodraethu ac arweinyddiaeth |
Dod o hyd i arian a’i gael – Datblygu strategaeth codi arian
Categori | Llywodraethu ac arweinyddiaeth |
Archwiliad iechyd llywodraethu
Categori | Llywodraethu ac arweinyddiaeth |