Mewn cyfarfod diweddar â’r sector gwirfoddol, nododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd yr argyfwng costau byw yn golygu ‘edrych ar’ beth arall gall gwirfoddolwyr ei wneud yn yr arena iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwnaeth y grŵp gyfarfod i drafod effeithiau pwysau’r gaeaf ar wasanaethau iechyd a gofal, ac effeithiau’r argyfwng costau byw ar y sector gwirfoddol. Diolchodd y Gweinidog i’r sector am yr holl waith y mae wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud, a nododd angen y sector am sefydlogrwydd ariannol. Fodd bynnag, dywedodd nad oedd arian pellach ar gael, gan ychwanegu bod y costau ynni yn unig wedi arwain at orwariant aruthrol yn y maes gofal ac y bydd angen ‘toriadau sylweddol’. O ganlyniad, hoffai Llywodraeth Cymru ystyried beth arall gall gwirfoddolwyr ei wneud o fewn gofal cymdeithasol – gan gydnabod y byddai angen mwy o gapasiti ar y sector o ran y seilwaith sydd ei angen i wireddu hyn.
Mewn ymateb, nododd y sector rôl allweddol gofalwyr di-dâl o fewn y gweithlu a’u bod nhw, fel gwirfoddolwyr, angen seilwaith a chymorth. Gwnaeth y grŵp hefyd nodi gwaith gwirfoddolwyr mewn cartrefi gofal ac ysbytai, a’r cymorth personol, cymdeithasol ac emosiynol y gallant eu darparu.
Mewn rhan arall o’r cyfarfod, trafododd y grŵp nodau’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a phroblemau o ran sut mae’r sector wedi ymhél â hi, yn ogystal â phwysigrwydd sicrhau bod y sector gwirfoddol yn cael ei werthfawrogi gan sectorau eraill fel partneriaid cyfartal. Cytunodd y Gweinidog, a nododd fod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi cael cyfarwyddyd i ddyrannu o leiaf 20% o gyllidebau’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol i’r trydydd sector.
Dywedodd Catrin Edwards, Pennaeth Materion Allanol (Cymru) yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr ar ôl hynny: ‘Mae’n amlwg bod gan y rheini ohonom sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol her o’n blaenau ni. Mae angen i ni fod yn barod i ymateb i’r angen a’r galw cynyddol am ein gwasanaethau cymorth o ganlyniad i’r argyfwng costau byw, ac i wneud hynny, mae angen i ni gael y modd, y capasiti a’r seilwaith.
‘Siaradodd y Gweinidog am ddull ‘gofalu radical’. Efallai nad yw’r cysyniad o ‘ofal radical’ mor radical na newydd i’r rheini ohonom sy’n gweithio gyda chymunedau ac sy’n gweld gwerth dulliau perthnasol, ond mae’n bendant yn radical i’n system iechyd a gofal. Mae gweithlu di-dâl y maes iechyd a gofal – gofalwyr di-dâl a gwirfoddolwyr – yn cyfrannu cymaint, ond mae angen i ni gydnabod a gwerthfawrogi’r cyfraniad hwnnw yn ogystal â buddsoddi mewn mwy o gymorth i gynnal gofalwyr a gwirfoddolwyr. Gwyddom fod gan y sector rôl arwyddocaol i’w chwarae yn nyfodol y maes iechyd a gofal yng Nghymru ac roeddwn i’n falch y gallai Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru gael sedd wrth y bwrdd gyda’r Gweinidog i helpu i roi hynny ar waith.’
Bydd CGGC yn parhau i sgwrsio â Llywodraeth Cymru ynghylch sut gallwn ni gynorthwyo’r gweinidog orau i edrych ar fodelau cynaliadwy eraill o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.