Mae’r Cod Ymarfer Diogelu newydd yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran trefniadau diogelu.
Mae’r Cod Ymarfer Diogelu wedi’i gyflwyno i bob mudiad ei ddilyn pan nad yw ei weithgareddau eisoes yn ddarostyngedig i ofynion statudol sy’n ymwneud â diogelu.
Mae’r cyngor hwn i unigolion, grwpiau a mudiadau sy’n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau i blant ac oedolion yng Nghymru i’w cynorthwyo i ddeall y trefniadau diogelu y dylent eu cael i weithredu’n ddiogel ac i ddiogelu’r holl gyfranogwyr.
Mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i unigolion, grwpiau a mudiadau sy’n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau ddilyn y cyngor hwn. Bydd hyn yn dangos bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch plant ac oedolion mewn perygl.
Mae CGGC yn croesawu’r Cod Ymarfer Diogelu a fydd yn rhoi cyngor defnyddiol i fudiadau’r sector gwirfoddol. Gwnaethom ni ymateb i’r ymgynghoriad ar y cod drafft ac rydyn ni’n falch o weld adnoddau a gwasanaethau cymorth CGGC yn cael eu crybwyll yn y canllawiau:
Gallwch chi lawrlwytho copi o’r Cod ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth i bob mudiad gwirfoddol, yn enwedig y rhai sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl. Mae diogelu da a phriodol yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd ynglŷn â’ch mudiad ac yn helpu i roi enw da i’r sector yn gyffredinol.
Mae gwasanaeth Diogelu CGGC yn cynnig cymorth a chanllawiau i fudiadau gwirfoddol sy’n gweithredu yng Nghymru, ochr yn ochr â’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol ledled Cymru. Gallwch weld taflenni gwybodaeth ac adnoddau e-ddysgu ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
SUT Y GALL CGGC EICH HELPU GYDA DIOGELU
- Gwasanaeth ymholiadau di-dâl sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth gyfrinachol un-i-un gan ein Swyddog Diogelu
- Gwybodaeth, canllawiau ac adnoddau di-dâl am ddiogelu
- Cyflwyniadau, sesiynau gwybodaeth a chymorthfeydd i’ch sefydliad neu eich aelodau
- Cyfleoedd dysgu amrywiol, gan gynnwys modiwlau ar-lein, gweminarau a hyfforddiant wyneb yn wyneb
- Cymuned Ymarfer Diogelu i ddod ag ymarferwyr diogelu’r sector gwirfoddol at ei gilydd
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ar ddiogelu, gallwch chi gysylltu â’n Swyddog Diogelu a fydd yn falch o helpu: safeguarding@wcva.cymru