Ymunwch ag CGGC a’r Rheoleiddiwr Codi Arian i gael trosolwg hanfodol o’r Cod Ymarfer Codi Arian newydd sy’n gosod y safonau ar gyfer codi arian mewn modd agored, gonest a pharchus.
Ar ôl mwy na dwy flynedd o wrando, dysgu a gweithio gyda’r sector codi arian a phobl eraill, mae’r Rheoleiddiwr Codi Arian wedi lansio ei God Ymarfer Codi Arian newydd, sy’n dod i rym ar 1 Tachwedd 2025. Bydd hwn yn cyflwyno ffordd fwy clir, hyblyg a modern o reoleiddio ymdrechion codi arian.
Rydym yn gwahodd mudiadau yng Nghymru â diddordeb mewn codi arian i elusennau i ymuno â ni am sesiwn gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian. Bydd y sesiwn hon yn amlinellu newidiadau allweddol y cod newydd, ac yn diweddaru’r rheini sy’n bresennol ar ganllawiau ychwanegol y mae’r rheoleiddiwr yn bwriadu eu cyhoeddi yn ddiweddarach y flwyddyn hon. Bydd hefyd yn helpu mudiadau gwirfoddol i ddeall yr hyn y gallant ei wneud i baratoi ar gyfer y fframwaith newydd.
YNGLŶN Â’R DIGWYDDIAD
Bydd y digwyddiad i randdeiliaid yng Nghymru yn cael ei gynnal ddydd Mercher 4 Mehefin 2025, 11am – 12pm. Digwyddiad ar-lein fydd hwn.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan CGGC, a bydd y tîm o gwmni’r Rheoleiddiwr Codi Arian a arweiniodd y broses o adolygu’r cod yno i ateb eich cwestiynau.
Rhagor o fanylion a chofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y digwyddiad, cysylltwch â code@fundraisingregulator.org.uk.
BETH SY’N NEWYDD?
Mae’r cod newydd yn adlewyrchu arbenigedd a phrofiad y rheini sy’n ei ddefnyddio. Dyma rai o’r newidiadau allweddol:
- Dull sy’n seiliedig ar egwyddorion – sy’n ei gwneud hi’n haws cymhwyso’r un safonau uchel ar draws gwahanol fathau o weithgareddau codi arian
- Mwy syml i’w ddefnyddio – mae’r cod newydd yn fyrrach na’r hen fersiwn, ac yn cyfeirio’n well at ofynion cyfreithiol a chanllawiau allanol, sy’n ei gwneud yn fwy hygyrch ac yn haws ei lywio, yn enwedig i fudiadau llai neu’r rheini sy’n newydd i fyd codi arian
- Mwy o ddiogelwch i godwyr arian – mae gofynion ychwanegol yn golygu bod yn rhaid i fudiadau codi arian gymryd camau rhesymol nawr i ddiogelu codwyr arian rhag niwed ac aflonyddwch pan fyddant yn codi arian a sicrhau eu bod yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn gallu lleisio pryderon
Gallwch ddarllen mwy am y cod newydd ar wefan y Rheoleiddiwr Codi Arian (Saesneg yn unig).