Swyddog y llywodraeth wedi'i wisgo'n drwsiadus yn agor llythyr

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Cyhoeddwyd : 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Mae arweinwyr y sector gwirfoddol yn galw ar swyddogion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon y sector yn dilyn misoedd o ansefydlogrwydd gwleidyddol.

Mae’r Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) yn fecanwaith allweddol i fudiadau gwirfoddol siarad â Llywodraeth Cymru a chlywed oddi wrthynt. Gyda’i gilydd, mae aelodau TSPC yn cynrychioli pob maes gwaith y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae TSPC wedi ysgrifennu heddiw at y Prif Weinidog a’i chabinet newydd gydag apêl brys i ailagor trafodaethau â’r sector gwirfoddol a sefydlu dull cydlynol o fynd i’r afael â phryderon y sector ar draws adrannau gwahanol.

LLYTHYR AGORED GAN GYNGOR PARTNERIAETH Y TRYDYDD SECTOR (TSPC)

Estynna TSPC eu llongyfarchiadau i’r Prif Weinidog a’i chabinet ar eu penodiadau diweddar. Croesawn ymrwymiad datganedig y Prif Weinidog i sefydlogrwydd a pharhad.

Mae’r sector gwirfoddol yn wynebu set fwyfwy gymhleth o heriau. Mae’r argyfwng costau byw, yr argyfwng hinsawdd, a’r rhaniadau o fewn ein cymunedau yn broblemau rhy fawr i’r sector cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol fynd i’r afael â nhw ar eu pennau eu hunain. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yng nghymdeithas Cymru ac adeiladu dyfodol cynaliadwy drwy fynd i’r afael â ffactorau achosol difrifol, fel tlodi a gwahaniaethu.

Cyflwr sector gwirfoddol Cymru

Mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn ymdrin â galw uwch nag erioed am wasanaethau, mae heriau sylweddol wrth geisio recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr, mae cyllid o bob ffynhonnell yn lleihau ac mae chwyddiant yn gwasgu’r cyllidebau sydd eisoes yn bodoli.

Ym mis Ionawr, adroddodd y Charities Aid Foundation fod *40% o elusennau yng Nghymru a Lloegr yn defnyddio arian wrth gefn i dalu am gostau gweithredol. Roedd 50% o’r mudiadau a arolygwyd wedi cyrraedd eu capasiti llawn ac ni allent dderbyn unrhyw gleientiaid newydd. Fis Hydref diwethaf, dangosodd arolwg bychan o’r sector yng Nghymru fod *93% o’r ymatebwyr yn sybsideiddio gwasanaethau contract cyhoeddus a oedd yn cael eu darparu. Ym mis Tachwedd, nododd 90% o ymatebwyr arolwg CGGC eu bod yn cael problemau recriwtio gwirfoddolwyr, a rhannodd 82% bryderon ynghylch cadw gwirfoddolwyr. Yn ôl canfyddiadau arolwg a gyhoeddwyd yn adroddiad yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau ym mis Mai 2024, mae 50% o fudiadau cymunedol Cymru yn wynebu mwy o alw am wasanaethau, tra bod eu hincwm wedi lleihau. Nododd dros hanner y mudiadau a arolygwyd eu bod wedi cyflwyno gwasanaethau newydd, a llawer o’r rhain mewn ymateb i lai o capasiti yn y sector cyhoeddus.

Daeth cyllideb 2024/25 Llywodraeth Cymru â mwy o newyddion drwg, gyda toriadau mewn cyllid ar gyfer bron pob gweithgaredd yn y sector gwirfoddol. Serch *tystiolaeth gref o blaid cyllido amlflwyddyn a’r canllawiau sy’n bodoli gan Lywodraeth Cymru, prin iawn yw’r grantiau amlflwyddyn ar gyfer y sector. Nid yw mudiadau sy’n cyflawni amrywiaeth o gontractau a adnewyddir bob blwyddyn yn barod felly i ymateb i ysgytiadau economaidd sydyn. Gwnaeth y toriadau mewn gwariant ataliol a ddigwyddodd ar yr un pryd ar draws portffolios lluosog adael llawer o fudiadau mewn sefyllfa ariannol fregus tu hwnt. Er y gellir lleihau gwasanaethau, a fyddai’n anfanteisiol i’r cymunedau y maen nhw’n eu cynorthwyo, mae’r gorbenion cynyddol yn llawer anoddach i’w datrys yn yr amgylchedd ariannol hwn. Mae’r ansicrwydd hwn, ynghyd ag effaith chwyddiant, yn rhoi pwysau sylweddol ar weithlu’r sector ac mae staff yn gadael ar drywydd cyflog mwy cystadleuol a sicrwydd swydd. Mae mudiadau yn wynebu heriau hyfywedd mawr ac mae hyn yn rhoi eu holl weithgareddau mewn perygl. Y tu hwnt i’r effeithiau ariannol uniongyrchol, cafodd y sector ei frawychu gan y newid mewn cyfeiriad polisi nad yw, yn ein tyb ni,yn cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dylai polisïau a rheoliadau hefyd gael eu gwerthuso’n ofalus i atal effaith anfwriadol ac anghymesur ar fudiadau gwirfoddol. Byddai cynigion fel y rheini i ddod â mwy o amrywiaeth o ddarpariaeth gofal dydd i mewn i reoliadau, neu i fynnu trwyddedau ac ardoll ar bob llety dros nos i ymwelwyr, yn cael effaith sylweddol ar rannau o’r sector. Byddai mudiadau yn y meysydd chwaraeon, celfyddydau, ieuenctid a chrefyddol, ymhlith eraill, yn gorfod wynebu penderfyniadau anodd gan eu bod yn cael anhawster ymdopi â phwysau gweinyddol ac ariannol cynyddol. Caiff y mwyafrif helaeth o fudiadau gwirfoddol lleiaf Cymru eu rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, ac mae llawer yn cael anhawster recriwtio a chadw gwirfoddolwyr. Nid yw cyflwyno neu gynyddu ffioedd i ddefnyddwyr gwasanaethau yn opsiwn i’r mwyafrif yn ein sector.

Mae blynyddoedd o amgylchiadau economaidd-gymdeithasol heriol wedi gwthio mudiadau gwirfoddol ledled Cymru’n gyson i gyflawni mwy am lai. Nid yw hwn yn bosibilrwydd i’r mwyafrif mwyach. Mae fwyfwy o fudiadau yn cael eu gorfodi i leihau eu gwasanaethau a throi pobl i ffwrdd. Mae eraill yn wynebu’r bygythiad dirfodol ac rydym yn gweld nifer pryderus o fudiadau, mawr a bach, yn cau eu drysau. Heb ymdrech unedig gan swyddogion cyhoeddus ar bob lefel o’r llywodraeth, ni fydd llawer o’r sector gwirfoddol yn gallu dod drwy hyn. Byddai’r effaith, yn enwedig ar y bobl fwyaf agored i niwed yng nghymdeithas Cymru, yn drychinebus.

Ein gofynion

Yn ysbryd Cynllun y Trydydd Sector a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

  • Mae TSPC yn galw ar y Prif Weinidog i fynd ati’n ddi-oed i drafod blaenoriaethau a phryderon y sector gwirfoddol mewn cyfarfod cabinet

Dyma ein blaenoriaethau trosfwaol ar gyfer y cabinet newydd:

  • Cynnal trafodaethau cynnar a pharhaus â’r sector gwirfoddol, fel partneriaid cyfartal yn y gwaith o gyflawni llesiant i bawb
  • Diogelu a galluogi’r sector gwirfoddol yng nghyllideb 2025/26 Llywodraeth Cymru drwy sicrhau cydlyniant ar draws adrannau, ystyried gwerth gwariant ataliol yn ofalus, ac effaith gymdeithasol ac amgylcheddol buddsoddiad annigonol
  • Sicrhau bod pob cyllidwr cyhoeddus yn cadw at y Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido’r Trydydd Sector, gyda phwyslais ar drefniadau cyllido amlflwyddyn
  • Ystyried yn ofalus yr effaith y bydd polisïau a rheoliadau newydd yn ei chael ar y sector gwirfoddol; meinhau gofynion a gweithredu esemptiadau lle’n bosibl
  • Ymwreiddio’r sector gwirfoddol a gwirfoddoli o fewn sgyrsiau am bolisi a chyflenwi yn eich adran, gan chwarae eich rhan mewn creu dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru
  • Gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu Polisi Cymunedau Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad agos â mudiadau yn y gymuned a’r sector gwirfoddol ehangach

Pwysleisia aelodau TSPC hollbwysigrwydd cael trafodaeth cabinet cyfan a gweithredu dull gweithredu cydlynol ar draws pob portffolio. Bydd y sector gwirfoddol yn ymhél ag aelodau cabinet unigol i drafod materion ychwanegol sy’n ymwneud â phortffolios penodol.

YNGLŶN Â TSPC

Mae rhwydwaith TSPC yn cynnwys cynrychiolwyr o rwydweithiau’r sector gwirfoddol sy’n gweithio ar draws 25 o feysydd gweithgarwch y sector.

Prif ddiben TSPC yw gwneud yn siŵr bod yr egwyddorion a nodir yng Nghynllun y Trydydd Sector yn cael eu rhoi ar waith. Mae hefyd yn gyfle i’r sector godi materion o ddiddordeb neu bryder.

Gellir dod o hyd i aelodau presennol TSPC yma.

 

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy