Grŵp o westeion yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2025 yn tynnu hunlun ar ochr y cae yn Stadiwm y Principality

Llongyfarchiadau i enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2025!

Cyhoeddwyd : 17/10/25 | Categorïau: Newyddion |

Mae enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru wedi’u cyhoeddi, dewch i weld ein henillwyr a theilyngwyr gwych am eleni.

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn dathlu’r effaith bositif a’r cyfraniadau rhagorol sydd wedi’u gwneud gan elusennau, mudiadau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru.

Yn y seremoni wobrwyo ar 16 Hydref 2025 yn Stadiwm y Principality, gwnaethom ddathlu’r holl deilyngwyr gwych a chyhoeddi enillwyr eleni. Llywyddwyd y seremoni gan y newyddiadurwr a chyflwynwyd BBC, Jennifer Jones.

Daliwch ati i ddarllen i ddarganfod pwy yw enillwyr ac teilyngwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2025.

ENILLWYR AC TEILYNGWYR 2025

Gwirfoddolwr y flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu’n hŷn) – noddwyd gan Hedyn

Enillydd: Mojisola Olateju

Gwobrau Elusennau Cymru, enillydd Gwirfoddolwr y flwyddyn, Mojisola Olateju

Mae Mojisola Olateju yn wirfoddolwr ymroddedig i nifer o fudiadau yn Abertawe sydd wedi’i henwebu gan y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd am ei rôl yn cefnogi menywod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Mae dosbarth Zumba trawsnewidiol Mojisola i fenywod yn unig yn cefnogi 40 o fenywod sy’n wynebu rhwystrau diwylliannol. Mae’n cydlynu banc bwyd i 500+ o deuluoedd, a hefyd yn cynnig gofal plant wythnosol i alluogi 50+ o famau i fynychu dosbarthiadau Saesneg, sydd yn y pen draw, yn gwella eu hyder a’u hintegreiddiad.

Teilyngwyr:

Dr Justin Griffiths 

Mae’r ‘grym diatal’, Justin, wedi trawsnewid cyfleoedd rygbi cadair olwyn ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Serch ei heriau iechyd, mewn prin 18 mis, mae wedi ennill cydnabyddiaeth i Rygbi Cadair Olwyn Cymru 5 gan Rygbi Cadair Olwyn y Byd ac wedi sefydlu’r clwb ar gyfer Bro Morgannwg.

Fiona Stevens 

Mae Fiona wedi dangos ymroddiad eithriadol i *The Birth Partner Project drwy gynnig cymorth genedigaeth cynhwysfawr i fenywod sy’n chwilio am noddfa yng Nghaerdydd, gan sicrhau nad ydynt byth yn wynebu beichiogrwydd, esgor na mamolaeth gynnar ar eu pennau eu hunain.

Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu’n iau) – Noddwyd gan *Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Enillydd: Francesco Lanzi

Gwobrau Elusennau Cymru, enillydd Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn, Francesco Lanzi

Mae Francesco Lanzi yn gwirfoddoli i liaws o fudiadau, gan gynnwys Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, *St John Ambulance a *Cymru Sport.

Yn anad dim, mae Francesco yn brif wirfoddolwyr gyda Thîm-A Undeb Aberystwyth, yn helpu myfyrwyr i gynefino â bywyd prifysgol. Mae hefyd yn gynrychiolydd academaidd ac yn gadeirydd democratiaeth myfyrwyr, lle y mae’n codi lleisiau myfyrwyr heb gynrychiolaeth ddigonol.

Teilyngwyr:

David Uche Iyamu

Mae David (17) yn gwneud taith gron o 24 milltir bob dydd i wirfoddoli yn y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, yn croesawu pobl newydd (sy’n aml yn geiswyr lloches a ffoaduriaid) a chynnal gwasanaethau cymorth i ieuenctid, gan gynnwys cwnsela ac ap iechyd meddwl.

Mia Harris-Jones

Mae Mia yn llysgennad gwirfoddol 17 mlwydd oed yn *Ysbyty Plant Arch Noa, ac wedi gwneud cyfraniad helaeth. Mae wedi codi £13,000, bod yn ‘chwaer fawr’ i gleifion iau, codi ymwybyddiaeth ar-lein, ysbrydoli digwyddiadau codi arian a dylanwadu ar bolisïau iechyd gofal, ac wedi gwneud hyn i gyd wrth dderbyn triniaeth am lewcemia.

Codwr arian y flwyddyn – noddwyd gan *Utility Aid

Enillydd: Ymddiriedolaeth y Plwyf

Gwobrau Elusennau Cymru, enillydd Codwr arian y flwyddyn, The Parish Trust

Gwnaeth Ymddiriedolaeth y Plwyf drawsnewid argyfwng posibl yn llwyddiant codi arian anhygoel, ar ôl codi dros £300,000 i adnewyddu cartref oedd newydd ei roi iddynt, Neuadd y Bryn.

Roedd hyn yn cynnwys cael grantiau mawr gan y Loteri Genedlaethol ac eraill, meithrin partneriaethau â chwmnïau preifat, codi arian yn y gymuned leol a gwasanaethau wedi’u rhoi.

Teilyngwyr:

Faith in Families 

Mae *Faith in Families wedi trawsnewid eu hymdrechion codi arian yn y gymuned gydag ymgyrchoedd sy’n canolbwyntio ar urddas. O un ddawns elusennol yn unig, fe wnaethon nhw godi swm anhygoel o £40,000 i ddarparu dros 3,000 o fagiau ysgol a thalebau gwerth £50 i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Ymddiriedolaeth Elusennol Canmlwyddiant Stephens a George

Mae *Ymddiriedolaeth Elusennol Canmlwyddiant Stephens a George, a arweinir gan Helen Hughes, wedi codi miliynau o bunnoedd i drawsnewid gwasanaethau ym Merthyr Tudful, gan gynnwys cwnsela i fwy na 350 o bobl ifanc.

Hyrwyddwr amrywiaeth – noddwyd gan Bute Energy

Enillydd: KIRAN Cymru

Gwobrau Elusennau Cymru, enillydd Hyrwyddwr Amrywiaeth, KIRAN Cymru

Mae *KIRAN Cymru yn fudiad llawr gwlad bychan ond dylanwadol yng Nghymru sy’n ymladd hiliaeth drwy brosiectau amrywiol.

Yn deilyngwr mewn dau gategori eleni, mae gan KIRAN Cymru amrediad o raglenni, gan gynnwys ‘Walk in My Shoes’ (Cerdda yn fy Esgidiau) and ‘South Asia Cymru Heritage’ (Treftadaeth De Asia Cymru), ac mae llawer o’r rhain wedi’u mabwysiadu gan sefydliadau mawr yng Nghymru. Mae mwy nag 1,200 o bobl wedi cymryd rhan yng ngweithdai gwrth-hiliaeth y mudiad, gan leihau tensiynau ar hyd a lled Cymru.

Teilyngwyr:

CBC Redberth Croft

Fferm gymunedol wledig yw *CBC Redberth Croft a arweinir gan bobl â phrofiad bywyd. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i’w waith – i rymuso pobl ag anghenion dysgu ychwanegol, heriau iechyd meddwl neu anfantais gymdeithasol.

Cymunedau Ffyniannus a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Mae CBC Cymunedau Ffyniannus, a arweinir gan Dr Manmeet Kaur a’i thîm, yn hyrwyddo amrywiaeth drwy eu Rhaglen wobrwyol, Lles Meddwl a Chorff, gydag 85% o’r cyfranogwyr yn nodi llesiant gwell.

Defnydd o’r Gymraeg – noddwyd gan Darwin Gray

Enillydd: GISDA

Gwobrau Elusennau Cymru, enillydd Defnydd o'r Gymraeg, GISDA

Mae GISDA wedi mynd y tu hwnt i’w nodau craidd i hyrwyddo’r Gymraeg eleni gyda Chomisiynydd y Gymraeg eisoes wedi dewis y mudiad ar gyfer Wythnos Cynnig Cymraeg.

Mae’r Gymraeg yn ganolog i holl wasanaethau GISDA, gyda dros 50 staff yn gweithio drwy’r Gymraeg, wrth greu cymunedau cryfach i bobl ifanc bregus. Er enghraifft, datblygwyd hybiau cwbl Gymraeg ar draws Gwynedd gyda byrddau pobl ifanc a phartneriaethau creadigol.

Teilyngwyr:

Y Gymdeithas Strôc

Mae’r Gymdeithas Strôc yn cael ei chydnabod am ymwreiddio’r Gymraeg drwy gydol ei gwasanaethau, ac annog gwaith ymchwil arloesol gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i gael dylanwad rhagweithiol ar newid systemig mewn gofal strôc i siaradwyr Cymraeg.

NSPCC Cymru – Tîm Ymgyrchoedd Lleol

Gwnaeth tîm Ymgyrchoedd Lleol NSPCC, mewn partneriaeth ag S4C, lansio Wythnos Siarad PANTS cyntaf Cymru, gan alluogi plant, gweithwyr proffesiynol a theuluoedd sy’n siarad Cymraeg i Siarad PANTS a dysgu sut i gadw’n ddiogel yn eu mamiaith am y tro cyntaf erioed.

Mudiad bach mwyaf dylanwadol – noddwyd gan *Sefydliad Banc Lloyds ar gyfer Cymru a Lloegr

Enillydd: BulliesOut

Gwobrau Elusennau Cymru, enillydd mudiad bach mwyaf dylanwadol, BulliesOut

Gyda dim ond dau aelod rhan-amser o staff, dau hyfforddwr a 15 o wirfoddolwyr, mae *BulliesOut wedi bod yn ‘ffagl gobaith’ i 19,000 o blant ar draws 155 o ysgolion yn 2024.

Mae BulliesOut yn profi y gall timau bach wneud newid mawr. Gwnaeth yr elusen, sydd wedi hyfforddi 772 o fentoriaid cymheiriaid a 516 o fydîs lle chwarae, ynghyd â chyflwyno sesiynau gwrth-fwlio i 9,990 o blant, ysgogi ymgyrch dros garedigrwydd sy’n gallu creu newid parhaol.

Teilyngwyr:

KIRAN Cymru 

Mae*KIRAN Cymru, sydd wedi’i enwebu ddwywaith eleni, wedi trawsnewid gwaith cymunedol lleol yn ddylanwad cenedlaethol drwy greu’r Pecyn Cymorth Gwrth-hiliaeth cyntaf yng Nghymru a arweinir gan y gymuned ac ysbrydoli 1,200 o fuddiolwyr i fod yn ysgogwyr newid sy’n dylanwadu ar bolisi ac yn newid trafodaethau cymdeithasol.

Megan’s Starr

Wedi’i eni o drasiedi a’i sefydlu gan enillydd Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2023, Nicola Harteveld, mae *Sefydliad Megan’s Starr yn Sir Benfro yn cael effaith anferthol, gan gynnwys 2,000+ o oriau o gwnsela, saith swydd ieuenctid, 25,000+ o oriau gwirfoddoli a 5,000+ o brydau bwyd.

Iechyd a lles – noddwyd gan Geldards

Enillydd: Tŷ Brynawel

Gwobrau Elusennau Cymru, enillydd Iechyd a lles. Brynawel House

Elusen adfer ar ôl caethiwed arbenigol yn Rhondda Cynon Taf yw Tŷ Brynawel sydd wedi cefnogi 190 o bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon drwy driniaeth ac ôl-ofal preswyl.

Yr elusen hon yw’r unig wasanaeth ARBD (niwed i’r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol) nid-er-elw yng Nghymru ac yn cyflawni cyfradd adfer o 75% o’i gymharu â 38-48% yn genedlaethol. Mae’r gwasanaeth unigryw hwn yng Nghymru yn aml yn cefnogi unigolion a ystyrir yn ‘rhy gymhleth’ mewn mannau eraill.

Teilyngwyr:

Area 43

Mae’r elusen iechyd meddwl DU gyfan i ieuenctid, Area 43, sy’n gweithio yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, yn fudiad arloesol sy’n cyflawni canlyniadau eithriadol o ran grymuso pobl ifanc drwy ddull gweithredu a arweinir yn wirioneddol gan ieuenctid a’r caffi ieuenctid poblogaidd, Depot.

CBC Grŵp Gweithgareddau Therapiwtig

Mae *Prosiect Baxter, fel rhan o CBC Grŵp Gweithgareddau Therapiwtig, yn defnyddio cŵn llesiant fel rhan o’i ddull ystyriol o drawma o gynnig ymyrraeth gynnar i blant agored i niwed ledled Cymru, ac mae wedi rhoi mwy na 9,000 awr o gymorth mewn mwy na 30 o ysgolion.

Mudiad y flwyddyn – noddwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Enillydd: ScoutsCymru

Gwobrau Elusennau Cymru, enillydd Mudiad y flwyddyn, ScoutsCymru

Mae ScoutsCymru wedi’i enwebu am ei arweinyddiaeth fodern a’i lywodraethiant arloesol.

Mae hanner rolau ymddiriedolwyr ScoutsCymru wedi’u neilltuo i bobl ifanc rhwng 18-24 oed sy’n gweithio fel cydraddolion i uwch-arweinwyr. Mae’r mudiad yn cefnogi 14,000+ o bobl ifanc gyda chymorth ei 4,600+ o wirfoddolwyr. Arweiniodd ymchwil mwyaf y DU o dan arweiniad pobl ifanc, gan gynnwys mwy na 500 o bobl ifanc, a gwnaeth hefyd ymgyrchu’n llwyddiannus am newidiadau i gynigion y Bil Ardoll Ymwelwyr er mwyn diogelu profiadau fforddiadwy i bobl ifanc o dan 18 oed.

Teilyngwyr:

Megan’s Starr

Wedi’i sefydlu gan enillydd Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2023, Nicola Harteveld, mae *Sefydliad Megan’s Starr wedi trawsnewid galar teulu yn arweinyddiaeth sefydliadol benigamp a llywodraethiant eithriadol trwy arbenigedd ymddiriedolwyr, sydd wedi cyflwyno ystod o gymorth i bobl ifanc.

Uned Diogelwch Cam-drin Domestig

Mae DASU Gogledd Cymru wedi cefnogi goroeswyr cam-drin domestig ers 35 o flynyddoedd, a bellach yn rhedeg yr holl wasanaeth IDVA (Ymgynghorwyr Trais Domestig Annibynnol) ledled y chwe sir, i gefnogi 6,500 o oroeswyr y flwyddyn.

Age Connects Caerdydd a’r Fro

Mae *Age Connects Caerdydd a’r Fro yn fudiad gwefreiddiol sydd wedi cefnogi pobl hŷn bregus ac wedi’u hynysu drwy 23 aelod staff a 180+ o wirfoddolwyr sydd wedi gweithio 18,000+ o oriau ar draws 5,000+ o atgyfeiriadau.

Aren Cymru

Mae *Aren Cymru wedi gwneud gwahaniaeth dwfn a pharhaol ledled Cymru, gan gynyddu ei wariant uniongyrchol 46% i £316,597, darparu bron £60,000 mewn cymorth ariannol a buddsoddi £80,000 mewn gwaith ymchwil a chyfarpar meddygol.

DIOLCH YN FAWR

Diolch i bob un ohonoch chi sydd wedi bod yn rhan o Wobrau Elusennau Cymru eleni. Mae’r gwaith y mae gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn ei wneud yn anhygoel ac mae’n fraint o’r mwyaf ei ddathlu.

Llongyfarchiadau i’n holl enwebeion, teilyngwyr ac enillwyr. Rydym yn edrych ymlaen at seremoni’r flwyddyn nesaf yn barod!

 

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 31/10/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Mae CGGC yn chwilio am banelwyr cynghori ar gyllid newydd!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/10/25
Categorïau: Newyddion

Baromedr Cymru – arolwg cyntaf ar agor nawr!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 24/10/25
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Bachwch eich tocyn ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru 2025!

Darllen mwy