Derbyniodd CGGC y nifer uchaf erioed o enwebiadau ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru eleni ac yn ystod Wythnos Elusennau Cymru fe wnaethom ddathlu’r pum enillydd anhygoel a amlygwyd yma.
Cynhaliwyd Gwobrau Elusennau Cymru ddiwethaf yn 2019, ac ers hynny mae’r sector gwirfoddol wedi cyflawni gwaith anhygoel, gan ymateb i argyfwng ar ôl argyfwng. Ni fu erioed fwy o angen am waith y sector, ac roedd hyn yn amlwg yn y bron i 200 o enwebiadau a gawsom.
Derbyniodd y pum enillydd eu gwobrau mewn seremoni fach a gynhaliwyd yn stiwdios ITV ym Mae Caerdydd ar ddydd Mawrth 22 Tachwedd, yn ystod Wythnos Elusennau Cymru. Mae’r Gwobrau’n arddangos y gwahaniaeth cadarnhaol y gallwn ni i gyd ei wneud i fywydau ein gilydd, drwy gydnabod a dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, dielw a gwirfoddolwyr yn ei wneud yma yng Nghymru.
Yn siarad am y gwobrau, dywedodd Prif Weithredwr CGGC, Ruth Marks: ‘Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn dangos y gwaith hynod amrywiol a geir yn y sector, a’r effaith y mae elusennau a gwirfoddolwyr yn ei chael ar fywydau pobl bob dydd ym mhob cymuned ledled Cymru. Rydym wrth ein bodd, yn CGGC, i allu anrhydeddu’r pum enillydd teilwng hyn’.
YR HOLL ENILLWYR
Gwirfoddolwr y Flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu hŷn)
Noddwyd gan Keegan a Pennykid
Andrew Coppin
Dynion Cerdded Canolbarth Cymru
Cafodd Andrew clod mawr am ei gyfraniad arbennig i iechyd meddwl dynion. Gyda lefelau hunanladdiad dynion yn cynyddu yn ardal y Drenewydd a’r Trallwng, penderfynodd Andrew sefydlu grŵp cerdded a siarad i gefnogi dynion bregus. Ers hynny mae wedi dechrau grŵp cymysg, sydd wedi bod yn fendith i lawer o bobl yn ei gymuned.
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed ac iau)
Noddwyd gan Hugh James
Rachel Joseph
Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW)
Cafodd Rachel ei chydnabod am ei heiriolaeth angerddol dros gyd-gleifion endometriosis a menywod anabl â salwch cronig yng Nghymru. Mae wedi gwneud cyfraniad arbennig iawn i ymgyrchu FTWW, gan ddefnyddio ei phrofiad bywyd i wella mynediad i ofal iechyd menywod ac addysg iechyd benywaidd yng Nghymru.
Arloeswyr digidol
Noddwyd gan Salesforce
Enillodd Innovate Trust y wobr am eu app ‘Insight’ unigryw, sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl â anableddau dysgu. Yn hollol rhad ac am ddim, mae wedi torri tir newydd i’r elusen, gan gynyddu eu hymgysylltiad 500% i 1,600 o bobl yng Nghymru ac ar draws y DU.
Llesiant yng Nghymru
Noddwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Mae Cariad Pet Therapy wedi llwyddo trawsnewid lles meddyliol amrywiaeth o gymunedau ar draws de orllewin Cymru, ac mae ganddynt gynlluniau i ehangu i ogledd Cymru erbyn 2022/23. Maent yn cynnig cymorth sy’n newid bywydau i gymunedau drwy 80 o dimau cŵn therapi, banciau bwyd anifeiliaid anwes, prosiect cyflogadwyedd cynhwysiant gweithredol a 60 o anifeiliaid anwes robotiaid.
Mudiad y flwyddyn
Noddwyd gan Grwp SCG
Fel mudiad gwirioneddol ragorol, mae’r Urdd wedi cyflawni llawer iawn ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant, ac wedi dod yn flaengar i bobl ifanc ledled Cymru. Mae’r gwaith ffoaduriaid wedi cael llawer iawn o ganmoliaeth ac wedi bod o fudd i 250 o Wcráiniaid a 110 o Affganiaid. Ymhlith llwyddiannau niferus yr Urdd, mae’r elusen wedi cynnig aelodaet am £1 i blant o deuluoedd incwm isel (yn lle £10), wedi cofnodi niferoed uchaf erioed yn Eisteddfod yr Urdd (yn Sir Ddinbych), ac wedi trefnu y gynhadledd gyntaf erioed ledled Cymru ar gyfer merched mewn chwaraeon.
DIOLCH
Llongyfarchiadau enfawr i’r holl enillwyr, a diolch yn fawr i bawb a wnaeth enwebiad ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru eleni. Cafodd y beirniaid eu syfrdanu gan yr holl straeon anhygoel am y pethau wirioneddol wych y mae pobl a mudiadau yn eu gwneud yng Nghymru, diolch am bopeth!
Mae Gwobrau Elusennau Cymru ac Wythnos Elusennau Cymru yn ffordd wych o ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r gyfraniad anhygoel mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau dielw a gwirfoddolwyr yn wneud i Gymru. Diolch i’r holl mudiadau ac unigolion sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2022 ac Wythnos Elusennau Cymru.