Mae prosiectau a ariannwyd gan gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru yn dod â natur i galon cymunedau ar draws Cymru.
Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn gynllun grant gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi ardaloedd â’r lefelau amddifadedd uchaf neu’r rhai sy’n meddu ar y lefelau is o fynediad at natur yng Nghymru, megis cymunedau trefol, i adfywio a gwella eu natur leol.
Caiff yr arian ei ddosbarthu i gymunedau trwy bartneriaid gan gynnwys Cadwch Gymru’n Daclus a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae partneriaid yn rhoi grantiau i grwpiau cymunedol o bob maint sy’n dymuno creu lleoedd i natur ar draws Cymru, mewn ardaloedd lle mae pobl yn byw, yn gweithio, ac yn cyrchu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae CGGC hefyd yn rhan o ddosbarthu cyllid trwy ein rôl yn y prosiect Partneriaethau Natur Lleol Cymru, rhwydwaith adfer natur â chydlynwyr ym mhob sir yng Nghymru. Dyma sut rydyn ni’n cefnogi’r gwaith hwn a rhai enghreifftiau o’r hyn rydyn ni wedi’i gyllido.
SUT RYDYN NI’N CEFNOGI PROSIECTAU NATUR
Mae prosiect Partneriaethau Natur Lleol Cymru wedi penodi cydlynydd ym mhob sir yng Nghymru a’i nod yw creu rhwydwaith (neu ‘bartneriaeth’) o bobl sy’n dymuno gwneud mwy o wahaniaeth i’w natur leol.
Gall y Partneriaethau Natur Lleol hyn gynnwys mudiadau amgylcheddol mawr, grwpiau cymunedol, neu hyd yn oed, unigolion.
Gall Cydlynydd y Bartneriaeth hefyd ddosbarthu symiau bach o gyllid i grwpiau cymunedol gynnal prosiectau ar raddfa fach i adfer a gwella natur yn yr ardal.
Mae cyfran CGGC o’r cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cael ei ddosbarthu’n uniongyrchol i Gydlynwyr Partneriaeth Natur Lleol gan eu galluogi nhw i gynllunio ac i gyflenwi prosiectau mawr a fydd yn cael effaith fwy ar fioamrywiaeth yr ardal.
Dyma rai o’r ffyrdd gwahanol mae Partneriaethau Natur Lleol yn defnyddio cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i ddatblygu prosiectau natur ar draws Cymru.
GOLCHFEYDD CWM OGWR, PEN-Y-BONT AR OGWR
Canolbwyntiodd prosiect Golchfeydd Cwm Ogwr Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar annog bioamrywiaeth yng Nghwm Ogwr trwy reoli cynefin, gwaith adfer, a gwaith creu.
Roedd y prosiect yn cynnwys gwella cynefin ar gyfer anifeiliaid di-asgwrn-cefn, yn enwedig peillwyr, trwy glirio tir prysg a chreu ardal bywyd gwyllt amlwg.
Mae’r ardal bywyd gwyllt hon, lle na chaniateir cŵn, yn cynnwys plannu coed brodorol, glaswellt blodau gwyllt a Phostyn Gwenyn sy’n ddwy fetr o uchder ar gyfer gwenyn unig.
Roedd y prosiect hefyd yn caniatáu gosod 40 o flychau adar a blychau ystlumod ar draws y safle.
Edrychwch ar y safle cyn y gwaith ac ar ôl y gwaith!
CANOLFAN YR AMGYLCHEDD, ABERTAWE
Canolfan yr Amgylchedd Abertawe yw’r lle i fynd iddo i dderbyn gwybodaeth a chyngor ar yr amgylchedd yn Abertawe.
Mae grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi galluogi gosod to gwyrdd bioamrywiaeth newydd a dwy wal werdd fioamrywiaeth ar y Ganolfan.
Bydd y wal a’r to yn gwella bioamrywiaeth yn yr ardal ond bydd hefyd yn darparu ystod o fuddion ar gyfer yr adeilad ei hun gan gynnwys oeri, cynaeafu dŵr glaw, ac insiwleiddio.
Helpodd gwirfoddolwyr o’r Ganolfan i blannu’r wal a’r to gan roi cyfle iddynt ddysgu am seilwaith gwyrdd mewn ffordd ymarferol.
MEITHRINFA GOED, SIR DDINBYCH
Mae Partneriaeth Natur Lleol Sir Ddinbych (rhan o Bionet, partneriaeth natur gogledd-ddwyrain Cymru) wedi sefydlu meithrinfa goed gan ddefnyddio cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i dyfu coed brodorol i’w plannu ar draws Sir Ddinbych.
Gan ddefnyddio hadau a thoriadau lleol, mae’r feithrinfa goed yn lleihau’r risg o ymledu heintiau ac yn sicrhau bod y coetir sy’n datblygu yn cynnig y budd gorau i fioamrywiaeth.
Bydd y feithrinfa goed yn darparu coed i rai grwpiau am ddim a bydd yn cynnal hyfforddiant a digwyddiadau i wirfoddolwyr i ymgysylltu pobl â natur ac i addysgu sgiliau newydd.
Mae’r ardal gyfan oddi ar y grid, gan gynnwys y system ddyfrio. Mae tanc ar y safle yn casglu dŵr o’r nant a chaiff unrhyw orlifiant ei bwmpio i’r pwll ar y safle. Caiff popeth yn y twnelau polythen ei ddyfrio’n awtomatig yn y bore ac yn y noswaith yn ystod misoedd yr haf. Caiff y broses a’r safle cyfan ei bweru gan baneli solar ar ben y storfa.
Yn 2021, bydd y safle hefyd yn cynnwys cyfleusterau i dyfu planhigion blodau gwyllt brodorol lleol gan ehangu cydweithredu llwyddiannus â Chanolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.
Caiff y planhigion sy’n cael eu cynhyrchu ar y safle eu defnyddio i gynyddu’r fioamrywiaeth a maint gwaun blodau gwyllt sy’n cael ei rheoli ar draws Sir Ddinbych ar hyn o bryd, mewn mannu lle y mae pobl yn byw. Ar hyn o bryd, mae 45 erw o waun blodau gwyllt yn cael ei rheoli ar gyfer natur gan ddefnyddio peiriannau a ariannwyd gan gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
GWEUNYDD COEDCERNYW, CASNEWYDD
Mae Lucy, Cydlynydd LNP Casnewydd yn rhoi taith gwych a gwyntog i ni o amgylch y ddôl blodau gwyllt maen nhw wedi bod yn rheoli gyda chymorth cyllid #LleoeddLleolargyferNatur! 🍃🌼🌺@LucyArnoldMatth @Mon_Newport_LNP pic.twitter.com/sXp4I65Dij
— LNP Cymru (@LNPCymru) August 3, 2021
Mae Casnewydd yn ddinas Caru Gwenyn swyddogol. Yn unol â hyn, yn ddiweddar, mae’r ddinas wedi newid ei dulliau torri glaswellt yn sylweddol – ac, wrth yrru heibio un o’i nifer o ymylon ffordd sy’n llawn blodau gwyllt o liwiau’r enfys, mae’n amlwg bod y ddinas hon yn cymryd ei pheillwyr o ddifrif.
Nid yw’r ymrwymiad hwn yn gliriach nag yng Ngweunydd Coedcernyw. Maent wedi’u lleoli ychydig y tu ôl i ystâd dai fawr Celtic Horizons a chânt eu defnyddio’n aml gan y gymuned leol.
Caiff ardal y waun ei thorri’n flynyddol gan ddefnyddio’r peiriant Torri a Chasglu a ariannwyd gan gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ac mae partneriaethau gyda Lefelau Byw ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn wedi galluogi Partneriaeth Natur Lleol i gynnal arolygon o fywyd gwyllt y waun.
Am ragor o wybodaeth am gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur neu am brosiect Partneriaeth Natur Lleol Cymru, dilynwch @LNPCymru ar Twitter a Facebook, neu cadwch lygad ar ein gwefan Partneriaeth Natur Lleol i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau.