Lleoedd â chymhorthdal ar gael ar gyfer hyfforddiant arweinyddiaeth dwys

Lleoedd â chymhorthdal ar gael ar gyfer hyfforddiant arweinyddiaeth dwys

Cyhoeddwyd : 11/11/21 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau |

Mae mudiadau o Gymru yn cael eu gwahodd i wneud cais am Raglen ‘Scale Accelerator’ Spring Impact, a hwn fydd y cyfle olaf i elwa ar leoedd cymorthdaledig gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Rhaglen hyfforddi ddwys chwe mis o hyd yw ‘Scale Accelerator: Leaders of Scale’ sy’n rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r gallu i arweinwyr elusennau a mentrau cymdeithasol arwain taith eu mudiadau at gyrraedd mwy o bobl a chael effaith gadarnhaol ar fwy fyth o fywydau.

Trwy gymryd rhan, bydd cyfranogwyr yn cael cynllun clir y gellir ei roi ar waith ar gyfer cyrraedd mwy o bobl mewn modd cynaliadwy, fframweithiau ac offer i gynyddu gallu eu tîm ehangach a’r hyder i arwain newid o fewn eu mudiadau.

Mae gan Spring Impact ddiddordeb arbennig mewn cael ceisiadau gan:

  • Fudiadau sy’n mynd i’r afael â phroblem sydd wedi gwaethygu o ganlyniad i COVID-19
  • Mudiadau yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban
  • Mudiadau a arweinir gan bobl â phrofiad byw
  • Mudiadau sy’n cynorthwyo grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a/neu gydag arweinwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal ar-lein rhwng Mawrth ac Awst 2022 a bydd angen i ddau aelod tîm roi ymrwymiad amser o 11 diwrnod yr un.

Dyma’r cyfle olaf i gael lleoedd cymorthdaledig a chymorthdaledig iawn a gefnogir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Os ydych chi eisiau hyfforddiant a chymorth hanfodol i ledaenu’ch arloesedd i fwy o bobl, peidiwch â cholli’r cyfle.

Mae’r ceisiadau yn agor ar 2 Tachwedd 2021, a’r dyddiad cau yw 17 Ionawr 2022. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Spring Impact.

Dyddiad i’ch dyddiadur – Bydd Spring Impact yn ymuno â ni am ddigwyddiad ar-lein am ddim ar 30 Tachwedd am 2 pm i ddweud mwy wrthym ni am y rhaglen ‘Scale Accelerator: Leaders of Scale’.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Digwyddiadau.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 01/11/24 | Categorïau: Cyllid | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Ble i ganolbwyntio eich egni codi arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/10/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau |

Ein AGM ar gyfer 2024 – ar gyfer aelodau CGGC yn unig

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 17/10/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Wythnos Ddiogelu 2024

Darllen mwy