Rydym yn casglu eich barn ar Gyllideb ddrafft 2021-22, ymhlith pethau eraill.
Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi lansio ei ymgynghoriad ar gynigion Cyllideb ddrafft 2021-22 Llywodraeth Cymru. Hoffai CGGC glywed gan gymaint â phosibl o leisiau’r sector i’w cynnwys yn ei ymateb ac mae wedi creu arolwg i hwyluso hyn.
Mae’r ymgynghoriad pellgyrhaeddol yn gofyn cwestiynau ar effaith Covid-19 ar fudiadau, parodrwydd ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf; pwerau trethiant; lleihau tlodi; cynaladwyedd gwasanaethau cyhoeddus a llawer o bethau eraill.
Rydym wedi datblygu arolwg byr ar gyfer y sector sy’n edrych ar gwestiynau’r ymgynghoriad. Mae’n bwysig ein bod yn clywed gan gymaint â phosibl o leisiau ar yr adeg dyngedfennol ac ansicr hon i lawer o fudiadau fel y gallwn gynnwys cymaint â phosibl o adborth yn ein hymateb. Bydd yr arolwg yn cau ar 3 Tachwedd 2020.
Mae CGGC hefyd yn ymateb i bâr arall o ymgynghoriadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Y cyntaf o’r rhain yw Awdurdod Iechyd Arbennig i Gymru yn y maes Digidol Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig lansio corff i oruchwylio a gweithredu fframwaith digidol newydd ar gyfer gweithio’n electronig ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gallai hyn effeithio ar sut mae’r sector yn darparu gwasanaethau, sut mae’r sector yn cydweithio â phartneriaid statudol, sut y ceir gafael ar wasanaethau a sut y caiff gwasanaethau eu llunio ar y cyd. Anfonwch e-bost at David Cook, Swyddog Polisi CGGC, ar dcook@wcva.cymru erbyn 2 Tachwedd gyda’ch sylwadau i’w cynnwys o bosibl yn yr ymateb hwn.
Rydym hefyd yn cynllunio ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad gofal cymdeithasol. Mae hwn yn gofyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gydweithio i lunio adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer pob un o’r saith ardal partneriaeth ranbarthol. Anfonwch e-bost at Sally Rees, Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol y Trydydd Sector CGGC, ar srees@wcva.cymru erbyn 26 Hydref gyda’ch sylwadau i’w cynnwys o bosibl yn ein hymateb.
Po fwyaf y byddwn ni’n ei glywed gan y sector, cryfa’n byd fydd ein hymatebion i’r ymgynghoriadau. Edrychwn ymlaen at glywed eich barn.