Gyda chyllid newydd ar y gorwel, mae ein hadroddiad newydd yn amlygu llwyddiannau mudiadau a dderbyniodd grantiau drwy gynllun peilot Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru.
Mae cynllun peilot 2019-21 ar gyfer ‘Grant Twf Sefydliadol’ Cronfa Gymunedol Comic Relief Cymru bellach wedi dod i ben, gyda phob prosiect yn llwyddo i gyflawni gweithgareddau sydd wedi rhoi hwb i wytnwch eu mudiadau.
PROSIECTAU LLWYDDIANNUS
Mewn rownd gystadleuol, llwyddodd chwe mudiad i dderbyn cyllid gan y Grant Twf Sefydliadol.
- YMCA Pen-y-bont ar Ogwr – £36,287.36
- Gwasanaeth Gofal Cymunedol a Lles (CCAWS) – £22,928.64
- Cefnogaeth Profedigaeth Cruse Gogledd Cymru – £34,150.00
- Tyfu Caerdydd – £48,952.00
- Canolfan Cymorth Treisio Canolbarth Cymru – £59,295.00
- Sistema Cymru – Codi’r To – £38,387.00
Dywedodd Isla Horton, Cyfarwyddwr Tyfu Caerdydd, am y grant:
‘Mae grant Comic Relief wedi cael rhywfaint o’r effaith fwyaf pellgyrhaeddol i Grow Cardiff o blith unrhyw grant neu gymorth rydyn ni wedi’u derbyn. Ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd ac effaith eich cefnogaeth i’n twf a’n cynaliadwyedd fel mudiad
‘Mae’r grant wedi ein galluogi i gael lle i anadlu er mwyn archwilio, datblygu, goresgyn a chyflawni cymaint yn ystod y 18 mis diwethaf. Fel mudiad, rydyn ni wedi tyfu o ddechreuadau bregus i fodel cynaliadwy o dwf: gwreiddiau dyfnach a blagur cryfach.
‘Heb eich cefnogaeth, dwi’n go siŵr na fyddem wedi gallu cyflawni’r gwaith pontio sylweddol hwn, sydd yn ei dro, wedi galluogi gwaddol ffyniannus i’r dyfodol ar gyfer y bobl a’r gerddi cymunedol a gefnogwn.
‘Uwchlaw pob dim, mae’r grant wedi rhoi’r peth mwyaf gwerthfawr i ni sef amser i’n staff, ein hymddiriedolwyr a finnau i fuddsoddi yng ngwaith craidd y mudiad, yn hytrach na chanolbwyntio drwy’r amser ar gyflawni prosiectau.
Dywedodd Mike Wilkinson, Dirprwy Brif Weithredwr Canolfan Cymorth i Dreisio Canolbarth Cymru:
‘Er nad y grant hwn yw’r un mwyaf rydyn ni wedi’i dderbyn, mae’n sicr wedi bod yn un o’r rhai sydd wedi cael yr effaith fwyaf. Mae natur y grant wedi ein galluogi i fuddsoddi yn ein dyfodol, yn hytrach nag ymateb i’r presennol yn unig.’
Gallwch ddarllen cyflawniadau llawn pob prosiect trwy lawrlwytho’r adroddiad.
CEFNDIR
Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd CGGC lansiad cynllun peilot newydd – Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru (CRCF). Mewn partneriaeth ag arweinwyr rhanbarthol y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGS), mae CGGC yn cyflwyno’r cynllun hwn yn llawn fel cyfryngwr Comic Relief (CR).
I sicrhau bod arian CR yn cyrraedd grwpiau llawr gwlad, cynlluniodd CGGC gynllun â dwy elfen: Grantiau Cymunedol bach sydd werth rhwng £1,000-£10,000, wedi’u dosbarthu drwy Gynghorau Gwirfoddol Sirol, a grantiau mwy ar gyfer twf sefydliadol, drwy CGGC sydd werth rhwng £30,000-£60,000.
Dyfarnodd y grantiau Twf Sefydliadol £240,000 i chwe mudiad ar draws Cymru ar gyfer prosiectau a fyddai’n adeiladu capisiti sefydliadol, datblygu maes gwaith newydd, neu lenwi diffyg sgiliau. Roedd y grant yn gystadleuol iawn – derbyniwyd 95 o geisiadau.
Dyfarnwyd grantiau ym mis Rhagfyr 2019 gyda’r broses o gyflwyno’r prosiectau yn dechrau ym mis Ionawr 2020. O ganlyniad, effeithiwyd yn fawr ar y cynllun peilot gan y pandemig COVID-19 gyda’r holl fudiadau yn addasu’n llwyddiannus mewn amgylchiadau heriol.
THEMÂU STRATEGOL COMIC RELIEF
Mae partneriaid Comic Relief a Chymorth Trydydd Sector Cymru (TSSW) yn cydnabod y gwaith gwych y mae mudiadau a arweinir gan y gymuned yn ei wneud ledled Cymru ac maent am helpu mudiadau i feithrin eu gallu eu hunain mewn ffordd gynaliadwy ac effeithiol.
Bydd pob prosiect llwyddiannus yn dangos cyfraniad at un o bedair Thema Strategol Comic Relief:
Plant yn goroesi ac yn ffynnu – Camau gweithredu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a mynediad at gyfleoedd i gyflawni eu potensial
Cyfiawnder rhyw – Camau i wella cydraddoldeb i fenywod a merched
Lle diogel i fod – Camau i helpu pobl agored i niwed i wella eu hamgylchiadau a’u diogelwch
Materion iechyd meddwl – Camau gweithredu i alluogi mynediad at gymorth a chynyddu ymwybyddiaeth
CYLLID NEWYDD WEDI EI GYHOEDDI
Oherwydd llwyddiant y cynllun peilot, mae Comic Relief wedi cadarnhau lansiad rownd cyllido 2022-23 ar gyfer y grant Grantiau Bach a Thwf Sefydliadol – sy’n agor ar 18 Ebrill 2022. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen we’r cynllun.