Gwnaeth Grant Twf Sefydliadol Comic Relief helpu Little Lounge i dyfu a gwasanaethu’r gymuned wrth lansio eu Hyb Cymunedol cyntaf.
Mae Little Lounge, elusen fechan yng Nghwm Cynon, yn hybu lles plant a theuluoedd yng Nghilfynydd a ledled Pontypridd drwy brosiectau amrywiol fel y Grŵp Babanod, Anturiaethau Awyr Agored, a Therapi Ceffylau ‘Find your Voice’.
Wedi’i sefydlu i ddechrau fel grŵp babanod a phlant bach yn 2015, tyfodd Little Lounge yn raddol. Erbyn 2022, roeddent wedi cael les hirdymor ac £110,000 o gyllid i adnewyddu eu safle newydd.
Gwnaeth Katie, y sylfaenydd, bontio i rôl y Prif Swyddog Gweithredol, ond roedd angen Rheolwr Busnes ar y mudiad i gefnogi ei dwf. Gyda chymorth Grant Twf Sefydliadol Comic Relief, gwnaethant gyflogi Emma i reoli’r cyllid a helpu i oruchwylio’r gwaith o sefydlu Eco-bantri a siop goffi yn yr hyb newydd.
AGOR YR ISLAWR
Yng ngwanwyn 2023, agorodd Little Lounge Yr Islawr, sef hyb cymunedol aml-ddefnydd yn cynnig grwpiau gweithgareddau i blant, cefnogaeth i rieni, ac Eco Bantri sy’n cynnig cynnyrch fforddiadwy y gellir eu hail-lenwi.
Gwnaeth y gwaith adnewyddu wynebu oediadau yn sgil y costau cynyddol a’r heriau yn y gadwyn gyflenwi. Bu’n rhaid i’r mudiad wneud cais am gyllid ychwanegol er mwyn eu digolledu am y diffyg, gan wneud y monitro’r ddwys iawn. Bu’r capasiti ychwanegol a gyllidwyd gan grant Comic Relief yn hanfodol mewn goruchwylio rheolaeth y prosiect cyfalaf hwn a chael yr hyb yn barod ac ar waith.
CAEL CYLLID PELLACH
Gwnaeth grant Comic Relief ganiatau i’r Little Lounge wella’r ffordd y maen nhw’n monitro eu hymgysylltiad cymunedol ac yn asesu effaith eu gwaith. Helpodd hyn nhw i addasu gwasanaethau i anghenion lleol ac adrodd yn ôl i gyllidwyr yn fwy effeithiol.
Gydag Emma yn rheoli’r cyllid, daeth y mudiad yn fwy rhagweithiol yn eu strategaeth gyllido, gan lwyddo i gael £75,000 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer cyflogau a chostau cyfalaf.
Bu modd iddynt hefyd fanteisio ar gyllid o Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi i gyflogi hwylusydd Prosiect Awyr Agored rhan-amser ar gyfer y prosiect Eco-erddi Bach, sy’n addysgu’r gymuned ar dyfu bwyd, bioamrywiaeth a chynaliadwyedd.
STORI RHIANNON
Un o wirfoddolwyr Little Lounge ers amser maith yw Rhiannon, a oedd yn arfer mynd i’r Grŵp Babanod pan agorodd i ddechrau. Ar ôl cyfnod anodd ac ychydig o amser i ffwrdd, daeth yn ôl i’r grŵp yn 2017, a fesul tipyn, daeth yn wirfoddolwr allweddol. Gwnaeth hefyd chwarae rôl hanfodol mewn sefydlu’r Pantri Cymunedol ac mae’n gwirfoddoli bellach ar y ddau brosiect.
Mae gwirfoddoli wedi ei helpu i reoli ei gorbryder, magu hyder ac ennill tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 2. Daeth y Grŵp Babanod yn ‘lle diogel’ i Rhiannon, gan roi diben iddi a rôl dyngedfennol yn y gymuned.