Dyn ar galwad arlein

Lein gymorth BAME yn rhoi cymorth mewn amrediad o ieithoedd

Cyhoeddwyd : 08/01/21 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth |

Mae Lein gymorth BAME Cymru yn rhoi cymorth i alwyr ar amrediad eang o faterion drwy amrywiaeth o ieithoedd gwahanol.

Mae cannoedd o fudiadau gwych yn cynnig gwasanaethau ledled Cymru, ond gall gwybod pa un a all ddarparu help priodol fod yn ddryslyd. Mae’r dryswch hwn yn dwysau pan fydd rhwystr iaith a’r sawl sydd angen help mewn argyfwng. Gall lein gymorth BAME gynnig pwynt cyswllt cyntaf i’r galwr.

Mae’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), mewn partneriaeth ag Women Connect First, Henna Foundation, Promo Cymru a TUC Cymru, yn cynnig lein gymorth BAME (pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig) sydd ar gael i unrhyw un ei defnyddio, ac mae’n darparu atebwyr ffôn sy’n siarad amrediad eang o ieithoedd.

Mae Lein gymorth BAME Cymru ar agor bob diwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener) rhwng 10.30 am – 2.30 pm. Yn ogystal â darparu cymorth ieithyddol, mae’r tîm yn cymryd yr amser i wrando a llwyr ddeall anghenion y galwr, gan gymryd rhwng 20 a 45 munud ar alwad cychwynnol ar gyfartaledd. Gall aelodau’r tîm atgyfeirio a chyfeirio’r bobl wedyn at y mudiad mwyaf priodol Byddant yn cymryd camau i sicrhau bod gan asiantaethau eraill y gallu a’r gwasanaethau i wirioneddol ddiwallu anghenion y galwr.

CYMORTH AML-IAITH AR AMREDIAD O FATERION

Gwnaeth Dalia Alhusseini, Rheolwr Prosiect ac Arweinydd Tîm, ddweud wrth CGGC am nifer o faterion sydd wedi’u cefnogi drwy gyfeiriadau Lein Gymorth BAME Cymru, gan gynnwys:

  • iechyd corfforol a meddyliol (syn cyfrif am 23% o bynciau galwadau)
  • cyflogaeth
  • tai
  • bwyd a thlodi ariannol
  • mewnfudo
  • cymorth ieithyddol
  • aflonyddu hiliol a throseddau casineb

Er mai Saesneg yw’r iaith fwyaf cyffredin sydd wedi bod yn cael ei defnyddio, mae’r detholiad o ieithoedd y gellir eu defnyddio i gael mynediad i’r lein gymorth a thrafod materion yn cynnwys Arabeg, Bengaleg (India), Hindi, tafodiaith Fuji, Mandarin ac Wrdw. Mae atebwyr ffôn Lein Gymorth BAME Cymru yn siarad yr ieithoedd hyn, ond mae amrediad ehangach o ieithoedd llafar ar gael – Bengaleg (Sylheti), Cantoneg, Ffarsi, Cwrdeg, Portiwgaleg, Sbaeneg, Cwrdeg Suhani, Tigriyan a Phwyleg, ymhlith rhai eraill – drwy gyfieithwyr allanol.

Dywedodd Suzanne Mollison, Swyddog Diogelu CGGC: ‘Er nad yw’r lein gymorth yn cael ei chynnig i ymateb i bryderon diogelu yn unig, mae’r ffaith y gall unigolion siarad â rhywun yn yr iaith sy’n fwyaf cysurus iddynt yn golygu bod ganddyn nhw gyfle gwell i fynegi eu hunain a nodi eu hanghenion.

‘Mae’r iaith gyffredin hefyd yn golygu eu bod yn fwy tebygol o gael eu deall yn iawn, ac felly mewn sefyllfa well i gael eu gofynion wedi’u hateb, gan gynnwys y rheini a allai fod angen ymateb diogelu.’

Manylion cyswllt y Lein Gymorth:

Rhif ffôn y Lein Gymorth: 0300 222 5720 (Dydd Llun – Ddydd Gwener 10.30am-2.30pm)

Rhif Neges destun: 07537432416

Gwefan www.bame.wales

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 26/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwobr i bartner presgripsiynu cymdeithasol CGGC

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Chwilio am syniad Nadoligaidd syml i godi arian?

Darllen mwy