stryd siopa prysur

Lefel ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau yn codi

Cyhoeddwyd : 22/06/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae lefel ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau yng Nghymru a Lloegr wedi gwella, yn ôl ymchwil gan y Comisiwn Elusennau.

Asesodd y gwaith ymchwil farn pobl ynglŷn ag elusennau, o lefelau ymddiriedaeth i’r modd y dylai elusennau weithio, rôl y Rheoleiddiwr Elusennol a’r ffordd orau o sianelu’r awydd i gynnig cymorth.

Gofynnodd y Comisiwn i bobl raddio’u hymddiriedaeth mewn elusennau ar raddfa o 0-10. Ddwy fynedd yn ôl, gostyngodd y ffigwr hwn i isafbwynt 15 mlynedd o 5.5 allan o 10. Yn 2020, mae’r ffigwr hwn wedi cynyddu i 6.2 allan o 10. Serch hynny, mae hyn yn parhau’n is nag yn 2008-2014, pan oedd y ffigwr yn 6.6-6.7.

Dywedodd dros 4000 o’r oedolion yng Nghymru a Lloegr a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod yn ymddiried mewn elusennau. Doedd tua un mewn deg ddim yn ymddiried mewn elusennau o gwbl, ac roedd y gweddill ‘ar y ffens’.

Yn ôl canfyddiadau eraill o’r ymchwil:

  • Teimlai 52% o bobl fod y modd mae elusennau’n mynd o’i chwmpas hi wrth wireddu eu pwrpas cyn bwysiced ag os ydyn nhw’n ei wireddu ai peidio; serch hynny, roedd 71% o ymddiriedolwyr yn teimlo felly.
  • Dywedodd dwy ran o dair o ymddiriedolwyr fod ganddyn nhw ddealltwriaeth glir o sut y dylai disgwyliadau’r cyhoedd lunio’r modd y mae elusennau’n cyflawni eu gwaith.
  • Yn ôl dros draean o ymddiriedolwyr, pan na fydd elusennau’n gwireddu disgwyliadau’r cyhoedd mae hynny oherwydd nad yw’r cyhoedd yn deall y trafferthion a’r cymlethdodau sydd ynghlwm â rhedeg elusen.
  • Dywedodd 79% o bobl mai’r peth pwysicaf o ran y modd mae elusennau’n gweithredu oedd gwybod fod cyfran uchel o’r arian a godir yn mynd tuag at y bobl mae’r elusen yn ceisio’u helpu.
  • Teimlai 63% o bobl fod elusennau’n gyfrifol am gynnal enw da elusennau yn fwy cyffredinol, nid eu mudiad nhw eu hunain yn unig.
  • Dywedodd 55% o bobl mai elusennau yw’r ffordd orau o hyd o sianelu cefnogaeth i achosion da a’r awydd i gynnig cymorth.
  • Dywedodd 69% o bobl bod ymdrechion elusennol – megis gwirfoddoli yn y gymuned neu roi bwyd i fanciau bwyd – yn weithredoedd y gall unrhyw un eu cyflawni ac nad ydynt wedi’u cyfyngu i elusennau mawr yn unig.
  • Dywedodd 53% o bobl y dylai’r Rheoleiddiwr Elusennol sicrhau bod elusennau’n gwireddu eu dyletswyddau ehangach i gymdeithas ac nid yn glynu at lythyren y ddeddf yn unig.
  • Ystyriwyd elusennau yn llai dibynadwy na doctoriaid (7.3 allan o 10) a’r heddlu (6.5), ond yn uwch na gwasanaethau cymdeithasol (5.3), cynghorau (5.0) ac ASau (3.8), ymysg eraill.

Dywedodd Y Farwnes Stowell, Cadeirydd y Comisiwn Elusennau: ‘Mae rheoleiddio yn yr amgylchedd hwn yn golygu mwy na dim ond dod o hyd i’r ffordd fwyaf ymarferol o oruchwylio ein helusennau cofrestredig. Mae angen i’r sector elusennol gofleidio’r genhedlaeth newydd o fudiadau sydd â’u syniadau nhw eu hunain o ran cryfhau eu cymunedau a’r gymdeithas ehangach.

“Ni ddylai’r gofrestr elusennol fod fel clwb aelodau preifat: yn anodd ymaelodi ag ef ond yn cynnig lle am oes unwaith i chi gael mynediad iddo.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy