Lefel rhybudd 0 COVID-19: canllawiau a chymorth sydd ar gael i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru

Lefel rhybudd 0 COVID-19: canllawiau a chymorth sydd ar gael i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 27/09/21 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r blog hwn yn rhoi crynodeb o’r canllawiau a’r cymorth sydd ar gael i fudiadau gwirfoddol ar ôl codi’r cyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru.

Ar 7 Awst 2021, symudodd Cymru i Lefel Rhybudd 0 COVID-19. Mae hyn yn golygu nad yw’r rhan fwyaf o gyfyngiadau ar gysylltiad cymdeithasol ar waith mwyach a gall pob busnes ailagor. Caiff nifer o heriau eu cyflwyno yn sgil y newid mawr hwn. Isod ceir trosolwg o’r wybodaeth, y canllawiau a’r cymorth sydd ar gael i helpu mudiadau gwirfoddol i chwilio’u ffordd drwy’r newid hwn.

ASESIADAU RISG

Nawr bod staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau yn gallu dychwelyd i weithgareddau wynebu yn wyneb a rhannu mannau gweithio, mae’n hanfodol bod mudiadau yn cwblhau asesiad risg manwl.

Yma, mae’r HSE (yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) yn rhoi manylion ynghylch pa gamau i’w cymryd a thempledi ar gyfer cwblhau asesiadau risg (Saesneg yn unig).

ADNODDAU DYNOL A LLESIANT CYFLOGEION

Pan ddaw hi i ddiogelu staff, mae angen i gyflogwyr ystyried llawer o bethau, fel a ddylent barhau i weithio gartref neu ddychwelyd i rannu mannau gweithio.

Mae ACAS (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn rhoi cyngor ac arweiniad i gyflogwyr ar amrediad o bynciau, o hunanynysu a thaliadau salwch i iechyd meddwl cyflogeion. Gellir gweld eu canllawiau COVID-19 yma yn ogystal â’u llinell gymorth (Saesneg yn unig).

GWIRFODDOLI

Mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau ar wirfoddoli yn ystod y pandemig a gafodd eu diweddaru diwethaf ar 2 Medi 2021. Mae’r canllawiau hyn ar gael yma.

CODI ARIAN

Mae pandemig COVID-19 wedi golygu nad yw’r gweithgareddau codi arian arferol fel heriau corfforol, gwerthu cacennau, arwerthiannau a llawer mwy wedi bod yn bosibl. Bydd llawer o fudiadau yn falch o weld y cyfyngiadau yn codi gan y bydd yn gam at ailgychwyn digwyddiadau codi arian hanfodol. Fodd bynnag, rhaid ystyried sut gellir cynnal gweithgareddau’n ddiogel a pha mor barod mae staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau i ddychwelyd i weithgareddau wyneb yn wyneb.

Mae’r Sefydliad Codi Arian (IoF) a’r Rheoleiddiwr Codi Arian wedi llunio canllawiau ar gefnogi gweithgareddau codi arian diogel a chyfrifol (Saesneg yn unig). Noder y bydd canllawiau blaenorol a luniwyd gan yr IoF a’r Rheoleiddiwr Codi Arian yn parhau i fod yn fyw i wledydd lle y mae cyfyngiadau ffurfiol yn parhau, fel gwisgo masgiau yma yng Nghymru.

RÔL YMDDIRIEDOLWYR MEWN SICRHAU ARFERION DIOGEL

Mae ymddiriedolwyr yn chwarae rôl hanfodol mewn sicrhau bod mudiadau’n rhedeg yn ddiogel; felly, mae’n bwysig bod ymddiriedolwyr yn dilyn y canllawiau diweddaraf. Mae’r Comisiwn Elusennau yn cyflwyno diweddariadau rheolaidd ar ganllawiau ar sut i redeg eich mudiad yn ddiogel (Saesneg yn unig).

CANLLAWIAU I GANOLFANNAU CYMUNEDOL

 Gall pob lle busnes yng Nghymru ailagor bellach, ond mae’r canllawiau ar wisgo masgiau dan do yn parhau ym mhob man cyhoeddus ac eithrio’r maes lletygarwch. Yma, mae CGGC yn rhoi trosolwg o sut i roi canolfannau cymunedol ar waith yn ddiogel.

CYMORTH PELLACH

Mae CGGC, fel rhan o Gefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) yn gweithio’n galed i nodi’r prif heriau sy’n wynebu’r sector ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi ac i roi cymorth.

Mae TSSW wedi cynnal arolwg i gael gwybod mwy am ba heriau y mae’r sector yn ei wynebu ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi a pha gymorth pellach sydd ei angen. Ar 15 Medi, gwnaethom ni gynnal digwyddiad rhithiol i roi trosolwg o ganfyddiadau’r arolwg a rhoi’r cyfle i fudiadau rannu profiadau a syniadau. Byddwn ni’n dadansoddi’r adborth o’r digwyddiad ac yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â’r prif heriau a nodwyd gan y sector. Bydd ein cylchlythyr yn rhoi diweddariadau ar y gwaith hwn, cliciwch yma i ymuno â’r rhestr bostio.

RHAGOR O DDARLLEN DEFNYDDIOL

Isod ceir rhestr o ddeunyddiau darllen pellach a allai helpu i roi arweiniad i’ch mudiad:

Byddwn ni’n parhau i adolygu anghenion cymorth y sector ac yn diweddaru’r blog hwn gyda gwybodaeth am ganllawiau a chymorth newydd sydd ar gael. Os oes gennych chi unrhyw anghenion penodol o ran cymorth neu ganllawiau, cysylltwch â ni.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 14/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Lansio cyllid ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy