Wrth i UK Finance lansio arweinlyfr bancio ar gyfer y sector, rydym yn eich tywys trwy rai o’r heriau y mae’n gobeithio mynd i’r afael â nhw.
CADW LLYGAD AR GYLLID
Mae agor cyfrif banc ar gyfer mudiad sector gwirfoddol yn broses hanfodol: bydd angen i’ch grŵp gwirfoddol gael cyfrif banc i brosesu ei incwm a’i wariant. Yn anffodus, rydym yn ymwybodol y gall hwn fod yn anodd iawn ei wneud ar hyn o bryd.
Mae cael cyfrif banc ar gyfer eich mudiad yn rhan bwysig o lywodraethu da. Mae’n caniatáu i chi gadw llygad ar arian y grŵp a sicrhau ei fod yn cael ei gadw ar wahân i unrhyw arian sy’n eiddo i unigolion sy’n rhedeg y grŵp. Mae UK Finance yn gobeithio y bydd yr *Arweinlyfr Bancio i Fudiadau Gwirfoddol yn eich helpu i lwyddo.
Cymdeithas fasnach bancio yw UK Finance sy’n cynrychioli 300 o gwmnïau o fewn y diwydiant gwasanaethau ariannol. Maen nhw wedi llunio’r Arweinlyfr Bancio i’r Sector Gwirfoddol i’ch helpu chi ddod o hyd i’r cyfrif banc sydd ei angen arnoch. Mae’n eich helpu i adnabod eich anghenion bancio, yn rhoi amrediad o gyfrifon a allai weithio i chi ac yn awgrymu’r dogfennau y bydd eu hangen arnoch i agor cyfrif a’i gadw ar agor.
MYND I’R AFAEL AG ANGHENION Y SECTOR
Rydym wedi canfod bod llawer o elusennau wedi cael anawsterau wrth geisio defnyddio gwasanaethau bancio. Mae CGGC yn rhan o’r Fforwm Bancio Elusennau, ynghyd â’n chwaer-gynghorau gwirfoddol o bob rhan o’r DU, ac rydym ni’n cwrdd â banciau i’w cynghori ar yr anawsterau rydych yn eu hwynebu.
Gobaith hyn i gyd yw sbarduno newid i brosesau ac arferion. Dangosodd *arolwg ymddiriedolwyr blynyddol 2024 y Comisiwn Elusennau fod 42% o’r ymddiriedolwyr a gymerodd ran yn yr arolwg wedi cael gwasanaeth gwael gan eu banc yn ystod y 12 mis diwethaf.
Mae gan ddogfen *Rheolaethau Ariannol Mewnol ar gyfer Elusennau y Comisiwn Elusennau arweiniad ar yr hyn sydd eu hangen arnoch i agor cyfrif priodol ar gyfer eich mudiad.
RHAGOR O HELP
Gellir cael rhagor o gymorth hefyd ar Hwb Gwybodaeth TSSW. Mae’r wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi pa gyfrifoldebau sydd gennych fel ymddiriedolwr dros arian eich mudiadau a pham mae angen cyfrif banc arnoch ar gyfer eich elusen.
Os oes angen mwy o gymorth arnoch ar y pwnc hwn, mae croeso i chi gysylltu ag Eleanor Jones, Rheolwr Llywodraethu CGGC, yn llywodraethu@wcva.cymru neu gallwch siarad â’ch CVC lleol. Rydym ni yma i helpu.
*Saesneg yn unig