Dwylo gwraig yn tawelu meddwl ei chydweithiwr

Lansio ymgyrch newydd i gynorthwyo goroeswyr ymosodiadau rhywiol neu gamdriniaeth

Cyhoeddwyd : 04/08/22 | Categorïau: Newyddion |

Ar ddydd Llun 20 Mehefin, lansiwyd ymgyrch newydd i amlygu’r cymorth sydd ar gael i unrhyw un sydd wedi dioddef trais, ymosodiad rhywiol neu gamdriniaeth rywiol.

Mae ffilm ac animeiddiad newydd pwerus wedi’u rhyddhau sy’n disgrifio’r gwasanaethau a’r cymorth a ddarperir gan ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol – SARCs – yng Nghymru.

Mae SARCs yn cynnig cymorth ymarferol, meddygol ac emosiynol arbenigol i ddioddefwyr a goroeswyr trais, ymosodiad rhywiol a chamdriniaeth rywiol, waeth a ydynt eisiau cynnwys yr heddlu neu beidio. Mae’r ffilmiau yn ymdrin â chwestiynau a phryderon cyffredin y mae llawer o bobl yn eu hwynebu ar ôl dioddef ymosodiad rhywiol, camdriniaeth neu drais – gan gynnwys diffyg gwybodaeth ynghylch pwy i droi ato neu beth i’w wneud.

Meddai Joanna Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen Gwasanaeth Ymosodiadau Rhywiol Cymru:

“Gall effaith ymosodiad neu gamdriniaeth rywiol fod yn ddinistriol. Rydyn ni’n rhedeg yr ymgyrch hwn gyda help cyllid gan Lywodraeth Cymru, oherwydd mae’n hanfodol fod pobl sy’n dioddef trais neu ymosodiad yn gwybod bod help a chefnogaeth ar gael iddyn nhw, waeth beth yw eu hamgylchiadau a phryd bynnag y digwyddodd.

“Mae llawer o ddioddefwyr a goroeswyr yn poeni y bydd yn rhaid iddyn nhw gynnwys yr heddlu os ydyn nhw angen help, ond nid dyma’r achos o gwbl – mae SARCs yma i gynnig cymorth tosturiol, anfarnol heb orfodi’r dioddefwyr a goroeswyr i gymryd unrhyw gamau nad ydynt yn gysurus yn eu gwneud.”

Meddai Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Mae sicrhau bod gan holl ddioddefwyr a goroeswyr trais rhywiol fynediad at wasanaethau o ansawdd uchel a arweinir gan anghenion gan weithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi i roi cymorth effeithiol, amserol a phriodol ymhlith prif amcanion ein strategaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

“Er mai dynion yw’r rhan helaeth o’r rheini sy’n cyflawni camdriniaeth rywiol a thrais, mae ein strategaeth yn cydnabod y gall menywod a dynion gael eu heffeithio ganddynt. I fynd i’r afael â hyn, bydd angen i bob un ohonom ni weithio gyda’n gilydd ar draws sectorau i sicrhau bod gwasanaethau cymorth yn gynhwysol ac yn sensitif i anghenion a phrofiadau gwahanol.

“Mae’r ymgyrch hwn a’r fideos cysylltiedig yn gam pwysig i ledaenu’r neges i ddioddefwyr a goroeswyr sydd angen cymorth.”

Anogir aelodau CGGC, mudiadau gwirfoddol a mudiadau cymunedol ar hyd a lled Cymru i gefnogi’r ymgyrch. Defnyddiwch yr adnoddau i rannu gwybodaeth â’ch staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Darparwch fanylion eich SARC agosaf, efallai mewn mannau preifat fel toiledau i bob defnyddiwr, fel y gall pobl ddefnyddio’r manylion cyswllt os oes eu hangen arnynt. Mae gan bob dioddefwr trais rhywiol yr hawl i gael cymorth gan dimau arbenigol.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau a gynigir, neu i ddod o hyd i’ch SARC agosaf, ewch i’w gwefan.

Gall dioddefwyr yng Nghymru hefyd ffonio’r llinell gymorth Byw Heb Ofn, gwasanaeth 24/7 i holl ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a’r rheini sy’n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr.

Ffôn: 0808 80 10 800
Tecst: 0786 007 7333
E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy