Gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn enaid ein cymunedau yng Nghymru ers tro byd, gydag un mewn tri o bobl fel arfer yn gwirfoddoli ar unrhyw un adeg.
Mae gwirfoddoli wedi bod yn arbennig o amlwg yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf wrth i bobl o bob oed, cam a chefndir gamu ymlaen i gynnig eu hamser i eraill, boed hynny drwy gynorthwyo’r rheini a effeithiwyd gan ddigwyddiadau tywydd dinistriol, y pandemig neu drwy wirfoddoli i ymgyrchu dros faterion sy’n effeithio ar yr amgylchedd neu’r gymdeithas.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae CGGC wedi rhannu storïau am wirfoddolwyr a phrosiectau gwirfoddoli ysbrydoledig yng Nghymru, fel gwirfoddolwyr artistig yn galluogi sgyrsiau ystyrlon mewn cartrefi gofal, Apêl Mr X sy’n rhoi anrhegion Nadolig i blant, a’r gwaith gwirfoddol aruthrol sy’n aml yn cael ei wneud yn ddisylw yn y gymuned.
Mae’r unigolion yn yr enghreifftiau hyn yn rhoi eu hamser o’u gwirfodd ac mae’n bwysig cydnabod y cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud. Dyma pam rydyn ni’n awyddus i annog cymunedau yn ogystal â mudiadau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat i ddod ynghyd i ddathlu gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr 2023.
BETH YW’R WYTHNOS GWIRFODDOLWYR?
Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr Genedlaethol (Saesneg yn unig) yn ddathliad blynyddol o wirfoddolwyr ledled y DU sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn rhwng 1 – 7 Mehefin.
Hon fydd y 39fed flwyddyn o gydnabod gwirfoddolwyr yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Mehefin.
Y ffocws trosfwaol a gytunwyd gan bartneriaid y DU ar gyfer Wythnos Gwirfoddolwyr 2023 fydd ‘Dathlu ac ysbrydoli’.
Rydyn ni’n annog pobl i ganolbwyntio eleni ar rai o’r agweddau rydyn ni eisiau eu dathlu am wirfoddoli ledled y DU, sef:
- Ein hamrywiaeth yw ein cryfder
- Mae mwy nag un ffordd o wirfoddoli
- Bod y newid rydyn ni eisiau ei weld
YR YMGYRCH #BYDDAF A #MISCYMUNED?
Mewn partneriaeth â’r ymgyrch #byddaf, bydd 6 Mehefin yn canolbwyntio ar #PŵerIeuenctid mewn gwirfoddoli.
Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr hefyd yn cael ei chynnal yn ystod yr ymgyrch #MisCymuned, sy’n helpu i gysylltu gwirfoddoli â’r gweithgareddau ehangach sy’n digwydd yn ein cymunedau ledled y wlad.
Mae’r Mis Cymuned yn adeg i ddod ynghyd i ddathlu popeth sy’n gwneud ein cymunedau’n wych. Mae’r mis yn dechrau gyda’r Wythnos Gwirfoddolwyr, ac yn cael ei ddilyn gan liaws o ymgyrchoedd eraill sy’n canolbwyntio ar y gymuned, fel yr Wythnos Elusennau Bach (19 – 23 Mehefin), yr Wythnos Ffoaduriaid (19 – 25 Mehefin) ac Wythnos Genedlaethol y Picnic (17 – 25 Mehefin) (gwefannau Saesneg yn unig).
Mae’r Eden Project, mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y DU, yn annog unigolion, cymunedau a mudiadau ledled y DU i gysylltu â’i gilydd, i gydnabod, dathlu a chymryd rhan yn y #MisCymuned. Un o’r opsiynau yw trefnu Cinio Mawr, y gellir ei gynnal unrhyw bryd yn ystod y Mis Cymuned.
SUT GALLWCH CHI GYMRYD RHAN?
Ewch i wefan Wythnos Gwirfoddolwyr (Saesneg yn unig) i ddod o hyd i adnoddau a syniadau ar gyfer cymryd rhan yn Wythnos Gwirfoddolwyr 2023.
Dyma rai adnoddau ar gyfer mudiadau sy’n gweithio yng Nghymru:
- Trosolwg o Wythnos Gwirfoddolwyr 2023
- Wythnos Gwirfoddolwyr 2023 – Sut i gymryd rhan ar gyfryngau cymdeithasol
- Beth yw’r Wythnos Gwirfoddolwyr
- Ysgrifennu eich eitem newyddion eich hun
- Graffeg cyfryngau cymdeithasol
Byddwch chi’n cael eich annog i ddathlu gwirfoddolwyr ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan yn y ffyrdd sy’n gwneud y mwyaf o synnwyr i chi.
- Os ydych chi’n arweinydd cymunedol, gallech chi drefnu digwyddiad lleol i ddathlu gwirfoddolwyr lleol.
- Gallai ysgolion, colegau, prifysgolion a gweithleoedd daflu goleuni ar fyfyrwyr neu staff sy’n gwirfoddoli ac ysbrydoli pobl eraill i gymryd rhan
- Gall mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr gynnal digwyddiad dathlu ar gyfer eu gwirfoddolwyr presennol (gallai hyd yn oed fod yn ddigwyddiad blasu i ddangos i bobl eraill pa rolau gwirfoddoli sydd ar gael)
- Gallai busnesau amlygu gwerth gwirfoddoli i’w cyflogeion a’u cwsmeriaid, gan rannu storïau am yr hyn sydd wedi’i wneud gan wirfoddolwyr i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau eu hunain
Beth bynnag y byddwch chi’n penderfynu ei wneud, byddem ni’n dwli clywed gennych chi a rhoi cymaint â phosibl o gydnabyddiaeth i wirfoddolwyr ar draws platfformau cyfryngau cymdeithasol, felly cymerwch ran a defnyddio’r hashnod #WythnosGwirfoddolwyr a #VolunteersWeek.
I gysylltu, trafod syniadau, cysylltu â mudiadau eraill neu rannu eich cynlluniau, cysylltwch â ni ar volunteering@wcva.cymru.