Grŵp o gyfranogwyr EYST

Lansio prosiect Dyfodol Gwell Cymru a gyllidir gan y loteri

Cyhoeddwyd : 04/12/20 | Categorïau: Newyddion |

Mae’n bleser gan CGGC gyhoeddi prosiect newydd a gyllidir gan y Loteri Genedlaethol – i helpu tair cymuned yng Nghymru i ddatblygu eu gweledigaethau ar gyfer dyfodol gwell.

Cafodd CGGC £45,790 gan Gronfa Datblygu’r Dyfodol y Loteri Genedlaethol yn ddiweddar i redeg prosiect Rhagolwg Cymunedol Dyfodol Gwell Cymru ledled Cymru.

Bydd CGGC yn gweithio gyda’r Ysgol Dyfodol Rhyngwladol i gyflenwi’r prosiect hwn.

Bydd y prosiect yn adeiladu ar waith diweddar, lle y mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol amrywiol wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ar sut gallwn ni lunio dyfodol cadarnhaol yn sgil Covid-19. Cefnogir y prosiect gan grŵp llywio Dyfodol Gwell Cymru sy’n cynnwys arweinwyr y sector gwirfoddol o bob rhan o Gymru.

Bydd y prosiect yn gweithio gyda dwy gymuned le ac un gymuned pobl ifanc.

Y gymuned le gyntaf yw Dinbych/Rhuthun yn Sir Ddinbych, ble bydd y tîm yn gweithio gyda thri grŵp cymunedol; Cwmni Buddiannau Cymunedol ‘Resource’ (mudiad sy’n ailgyfeirio eitemau o safleoedd tirlenwi ac yn hyrwyddo’r economi gylchol), ‘Drosi Bikes’ (mudiad sy’n cefnogi teithio llesol) a’r Tŷ Gwyrdd (canolfan gymunedol sydd â siop ddiwastraff a gweithdai cymunedol).

Yr ail gymuned le yw Aberystwyth a’r mudiad partner yw ‘Aber Food Surplus’ sy’n cymryd camau i leihau gwastraff bwyd drwy ailddosbarthu bwyd sydd dros ben ymhlith y gymuned.

Bydd EYST (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig) yn ein cynorthwyo i ymgysylltu â’u cymuned o bobl ifanc ledled Cymru. Bydd EYST yn cynnig amrediad o wasanaethau i gynorthwyo pobl ifanc o gymunedau BAME.

Bydd pob cymuned yn cymryd rhan mewn dau weithdy tair awr o hyd, yn dechrau’r wythnos hon, gan ddefnyddio dulliau dyfodol cymunedau profedig o’r enw ‘Hadau Gobaith’. Bydd y dull gweithredu hwn yn galluogi’r grwpiau i ddatblygu gweledigaethau a chynlluniau gweithredu er mwyn creu dyfodol gwell i’w cymunedau.

Bydd yr Ysgol Dyfodol Rhyngwladol yn datblygu ac yn cyflwyno’r gweithdai, gyda chymorth dau hwylusydd o Gymru a fydd wedi’u hyfforddi yn y dulliau gweithredu.

Bydd pecyn cymorth yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r prosiect i’w ddefnyddio gan grwpiau cymunedol eraill sydd â diddordeb mewn ymgymryd ag ymarferion creu gweledigaeth yn eu cymunedau. Bydd cyfres o bodlediadau a blogiau yn cael eu datblygu hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch ag Aimee Parker, Swyddog Prosiect Dyfodol Gwell Cymru, ar help@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/03/25
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Trafodaeth y Senedd yn amlygu effaith cynyddu’r Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/03/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Hyrwyddo cyfiawnder rhywedd a’r hinsawdd yn Uganda

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/02/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwirfoddolwyr: pontio’r bwlch mewn gofal dementia

Darllen mwy