Tair menyw yn eistedd mewn cylch mewn grŵp cymorth canser

Lansio prosiect arloesi cymunedol Macmillan

Cyhoeddwyd : 11/05/23 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Ar 24 Ebrill 2023, gwnaethom ni lansio’r ‘prosiect arloesi cymunedol Macmillan’ newydd, gan gynnal cyfarfod bwrdd cynghori swyddogol cyntaf ein prosiect.

BETH YW’R PROSIECT ARLOESI CYMUNEDOL?

Mae prosiect arloesi cymunedol Macmillan yn cael ei redeg mewn partneriaeth ag CGGC a Chymorth Canser Macmillan (Saesneg yn unig). Rydyn ni eisiau deall pam nad yw cymunedau penodol yn defnyddio gwasanaethau canser, sut gellid gwella hyn, a sut gallai’r sector gwirfoddol gefnogi’r ymdrech hon ymhellach.

Mae cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir yn hanfodol i bobl â chanser, a nod y prosiect hwn yw helpu pawb â chanser i gael yr wybodaeth a’r gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnyn nhw, pan fyddan nhw eu hangen fwyaf.

Ar 24 Ebrill 2023 roeddem ni’n falch iawn o ddechrau’r prosiect yn swyddogol gyda’n partneriaid wrth i ni gynnal cyfarfod bwrdd cynghori cyntaf y prosiect.

BETH I’W DDISGWYL GAN Y PROSIECT

Nod Cynllun Gwella Canser Cymru 2023–2026 yw gwella canlyniadau cleifion â chanser a lleihau gwahaniaethau iechyd. Ein nod yw cydweithio â grwpiau i ymchwilio i resymau pam nad ydyn nhw’n ymgysylltu, dod o hyd i ddatrysiadau, a helpu i gynyddu’r mynediad at wasanaethau.

Drwy weithio gyda’r sector gwirfoddol, byddwn ni’n defnyddio dulliau cyfranogol i ddeall y rhwystrau a’r cyfleoedd i gael gafael ar wasanaethau. Fe wnawn ni ddefnyddio’r ymchwil i gyflwyno argymhellion i Macmillan er mwyn helpu i sicrhau y gall pawb yng Nghymru fanteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.

Bydd y prosiect yn cael ei rannu’n bum cam; dechreuodd ym mis Ionawr 2023 a bydd yn dod i ben ym mis Ionawr 2025.

CYSYLLTU Â NI

Rydyn ni eisiau clywed eich sylwadau ar sut mae pobl a chymunedau yn ymhél â gwasanaethau canser. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth neu os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch ag:

Eleanor Jones

Rheolwr Arloesi Cymunedol Macmillan

ejones@wcva.cymru

02920 436597

Mae Macmillan yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu. Os ydych chi wedi eich effeithio gan ganser ac angen cyngor, gwybodaeth neu sgwrs, ffoniwch Macmillan am ddim ar 0808 808 0000 neu ewch i macmillan.org.uk (Saesneg yn unig).

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen ein prosiect.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Cynllun gweithlu yn chwilio am fewnwelediad i rôl gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl

Darllen mwy