Rydym yn gyffrous i gyhoeddi diweddariad i Borth Data’r Sector Gwirfoddol, gydag ymddangosiad a theimlad newydd ynghyd â’r data a’r wybodaeth fwyaf cyfredol.
DATA I GYMRU
Y Porth Data, sef prosiect ar y cyd sy’n cael ei ddatblygu a’i gynnal gan fudiad Data Cymru ac CGGC, yw’r lle i fynd am wybodaeth ystadegol am weithgareddau’r sector gwirfoddol, gan gynnwys ffigurau mudiadau, incwm y sector, oriau gwirfoddoli, meysydd gwaith, ble mae grwpiau a mwy.
Gellir cyflwyno’r wybodaeth fel y bo’n addas i chi a gellir trefnu’r data yn ôl math, boed hwnnw’n rhyw, oed, lleoliad neu gategorïau eraill. Nod y Porth Data yw bod yn adnodd i helpu i ddangos effaith gwaith y sector gwirfoddol yng Nghymru.
MEWNWELEDIAD DYFNACH
Mae’r diweddariad hwn yn gwella profiad y defnyddiwr ac yn rhoi mewnwelediadau dyfnach i sectorau amrywiol drwy ddata sydd newydd ddod i law.
Dyma rai o’r newidiadau:
- Trosolwg o gwmnïau yng Nghymru, sy’n cynnwys dadansoddiad manwl o’r sectorau.
- Mae’r data cyflogaeth o fewn y sector gwirfoddol yn cynnwys dadansoddiad rhanbarthol bellach, sy’n rhoi darlun mwy clir i ni o dueddiadau a phatrymau cyflogaeth ar draws ardaloedd gwahanol.
- Mae’r adran ‘Gwirfoddoli’ wedi’i haildrefnu i gynnig dadansoddiad mwy manwl yn ôl oedran a rhyw.
- Mae’r Data Incwm a Chyllido (gan NCVO) wedi’i ailstrwythuro i gynnig darlun mwy cynhwysfawr o dueddiadau ariannol.
- Rydym wedi tynnu mathau o wariant Llywodraeth Cymru o’r dangosfwrdd gan nad ydynt yn cael eu hadrodd mwyach. Mae hyn yn sicrhau bod y data a gyflwynir yn gyfredol ac yn berthnasol.
- Mae tudalen ychwanegol wedi’i chyflwyno i roi gwybodaeth fanwl am strwythur y data a’r ffynonellau a ddefnyddir yn y dangosfwrdd. Bydd hyn yn gwella’r tryloywder a dealltwriaeth y defnyddiwr.
Mae’r diweddariad hefyd yn gwella cyflwyniad y data, gan ei wneud yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr.
RHAGOR O WYBODAETH
Gallwch fynd i’r Porth Data yma. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n Pennaeth Systemau, Rhodri Jones, yn rjones@wcva.cymru