Lansio gwefan newydd i ddiogelu’r sector gwirfoddol rhag twyll a seiberdroseddu

Lansio gwefan newydd i ddiogelu’r sector gwirfoddol rhag twyll a seiberdroseddu

Cyhoeddwyd : 06/10/21 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi lansio gwefan twyll elusennol newydd a ddyluniwyd i roi gwybodaeth, cyngor ac adnoddau ymarferol i’r sector gwirfoddol fynd i’r afael â thwyll a chadw’n ddiogel rhag niwed.

Mae’r wefan newydd yn rhan o fenter ar y cyd rhwng y Comisiwn Elusennau a’r Panel Ymgynghori ar Dwyll cyn y cynhelir wythnos ymwybyddiaeth o Dwyll Elusennol, o 18fed i 22ain Hydref.

Nod yr ymgyrch yw mynd i’r afael â thwyll a seiberdroseddu drwy godi ymwybyddiaeth a rhannu arfer da. Anogir i unrhyw un sy’n dymuno diogelu’r sector a’r gwaith hanfodol y mae’n ei gyflawni gymryd rhan – gan gynnwys ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr, a chynghorwyr proffesiynol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Atal Twyll Elusennol i dderbyn:

  • Syniadau ynghylch sut i fod yn rhan o’r wythnos codi ymwybyddiaeth
  • Pecyn cefnogwyr am ddim gan gynnwys cynnwys ar gyfer eich cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan
  • Gwybodaeth am ddigwyddiadau ar-lein am ddim
  • Adnoddau i gefnogi arfer da – megis templedi, taflenni cymorth, a modiwlau e-ddysgu

Gall elusennau sy’n dymuno dangos eu bod yn gweithredu i reoli risg twyll hefyd gofrestru ar gyfer yr Adduned Twyll

Mae gweithredu’n briodol i atal twyll yn agwedd bwysig o lywodraethu da a bydd yn cefnogi gwydnwch cyffredinol eich mudiad. Wrth i bryderon cynyddu bod troseddwyr wedi bod yn camfanteisio ar yr argyfwng byd-eang presennol, mae angen i bob elusen, pob corff anllywodraethol a phob mudiad nid-er-elw fod yn ymwybodol o’r risgiau a chymryd camau i gadw eu harian, eu pobl, a’u data’n ddiogel.

Mae adeiladu gwydnwch y sector gwirfoddol yn erbyn twyll a seiberdroseddu yn dibynnu ar weithredu ar y cyd ar draws y sector a dyma’r genhadaeth sydd wrth galon Wythnos Ymwybyddiaeth o Dwyll Elusennol

Gyda’n gilydd, gallwn ni #AtalTwyllElusennol

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 15/09/23 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2023

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/09/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Diweddariad ar canllawiau’r Comisiwn Elusennau

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/09/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Ymchwil blynyddol y Comisiwn Elusennau

Darllen mwy