Mae’r Cynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn ariannu prosiectau lleol mewn ardaloedd arfordirol yng Nghymru ac yn dod â phartneriaid at ei gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Bydd Cronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn galluogi cymunedau i gymryd camau gweithredu yn ardaloedd arfordirol Cymru i gefnogi’r gwaith o adfer natur a chynaliadwyedd.
Nod y gronfa yw meithrin gallu ar gyfer partneriaid cymunedol, gan eu helpu i gymryd camau gweithredu cynaliadwy sy’n cefnogi twf ac adferiad mewn ardaloedd morol ac arfordirol lleol. Bydd yn annog cydweithio rhwng rhanddeiliaid, fel cymunedau, busnesau, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, ac yn creu rhwydweithiau sy’n meithrin adferiad ac adfywiad natur mewn ardaloedd arfordirol.
GAIR AM Y GRONFA
Mae gan y cynllun gyllideb flynyddol o £500,000. sydd ar gael ar gyfer prosiectau o pum mis neu fwy sy’n werth £20,000 o leiaf. Rhaid i bob cais gael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2025.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r cynllun o 2023-25 ymlaen, gan adeiladu ar ei fuddsoddiad mewn adfer natur leol drwy’r Partneriaethau Natur Lleol. Gwneir ceisiadau drwy’r Partneriaethau Natur Lleol, a CGGC sy’n rheoli’r cyllid a’r gwaith cydlynu cyffredinol.
PWY ALL YMGEISIO?
Gall unrhyw bartneriaid newydd neu gyfredol sydd â diddordeb mewn cefnogi eu cymunedau arfordirol wneud cais. I wneud cais, bydd angen i chi gysylltu â Chydlynydd eich Partneriaeth Natur Leol a fydd yn gweithredu fel y prif ymgeisydd am y cyllid. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i lnpcymru@wcva.cymru.
Cyfwelwyd pysgotwr lleol yng Nghei Connah fel rhan o brosiect peilot i godi ymwybyddiaeth o fanteision ymwneud â’r amgylchedd arfordirol lleol
BETH FYDD YN CAEL CYLLID GENNYM
Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o weithgareddau y gallai’r gronfa eu cefnogi:
- Datblygu sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau/partneriaethau i ymgysylltu â materion morol ac arfordirol
- Cynnal ymarferion cwmpasu i edrych ar leihau allyriadau carbon yn yr amgylchedd morol/arfordirol
- Cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ecosystemau lleol a sut i’w rheoli a’u defnyddio’n gyfrifol
- Rhoi cynlluniau ailgylchu ar waith
- Cynnal ymchwil i amgylcheddau lleol a’r effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei chael
- Gwella cadwyni cyflenwi bwyd môr lleol a’u cynaliadwyedd
- Meithrin hamdden a thwristiaeth gynaliadwy
- Meithrin dealltwriaeth o sut i wella ansawdd dŵr
- Datblygu pecynnau bwyd ecogyfeillgar
RHAGOR O WYBODAETH
Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol a sut i wneud cais ar gael drwy fynd i dudalen y cynllun.