Mae’r fframwaith profedigaeth yn cynnig cymorth ariannol i fudiadau sy’n comisiynu neu’n darparu gwasanaethau profedigaeth.
Mae profedigaeth yn rhywbeth y mae pob un ohonon ni’n ei hwynebu yn ein bywydau. Gall sut rydyn ni’n profi’r galar o golli rhywun gael ei ddylanwadu gan lawer o ffactorau: cenedliadol, diwylliannol, ysbrydol. Sut bynnag rydyn ni’n ymateb i golli anwylyn, mae’n broses naturiol ac unigol, nid yn salwch, ond gall ei effeithiau fod yn ysgytwol ar brydiau.
Yn anffodus, ni fydd gan bawb y cymorth sydd eu hangen arnynt i’w helpu i ymdopi â’r galar o golli anwylyn ac mae’n bosibl y bydd angen ychydig o help ychwanegol.
Dyma pam, ar 29 Hydref 2021, y gwnaeth y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle lansio’r Fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth yng Nghymru.
Cymerodd nifer o fudiadau gwirfoddol ran weithredol yn y Grŵp Llywio Profedigaeth Cenedlaethol a chyfrannu at ddatblygiad y Fframwaith.
NODAU
Trwy adeiladu ar awydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu’r rheini sy’n wynebu neu’n profi profedigaeth, mae’r Fframwaith yn amlinellu pum egwyddor allweddol:
- Yr angen am gymorth profedigaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion, gan gynnwys cymorth cyn profedigaeth
- Yr hyn a ddysgwyd am golled a’i heffaith yn sgil COVID-19
- Modelau cymorth
- Yr angen am lwybrau clir, a
- Chytuno ar safonau sylfaenol ar gyfer gwasanaethau cymorth profedigaeth a gaiff eu darparu’n aml gan fudiadau gwirfoddol.
CYLLID
Mae’r fframwaith yn cael ei gefnogi gan Grant Cymorth Profedigaeth o £1 miliwn a ddyrennir rhwng 2021 a 2024. Gall unrhyw fudiad gwirfoddol ymgeisio a chroesawir ceisiadau hefyd gan fudiadau cydweithredol, ond mae angen i’r Prosiectau gyd-fynd â’r tair elfen o gymorth profedigaeth a ddisgrifir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE). Ceir rhagor o wybodaeth am feini prawf y prosiect ar y dudalen ymgeisio.
Mae’r fframwaith yn cydnabod natur dosturiol pobl yng Nghymru wrth gefnogi’r rheini sy’n wynebu colli anwylyn. Mae hefyd yn gosod y nod dybryd i wneud hyn yn fwy teg ledled Cymru gyfan, er mwyn rhoi cymorth gwell i’r rheini sydd ei angen.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4pm, dydd Gwener 26 Tachwedd 2021.