Menyw yn gwenu ar unigolyn arall mewn swyddfa

Lansio Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol

Cyhoeddwyd : 11/12/23 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Yn dilyn ymarferiad ymgynghori, lansiwyd y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol ar 7 Rhagfyr 2023.

Cyflwynwyd y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol gan Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, mewn digwyddiad ar-lein a fynychwyd gan fwy na 350 o randdeiliaid.

Mae presgripsiynu cymdeithasol wedi bod yn rhan o’r dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ers peth amser bellach. Yn y Fframwaith, caiff ei ddiffinio fel ‘term cyffredinol sy’n disgrifio dull person canolog o gysylltu pobl ag asedau cymunedol lleol’, fel grwpiau a gwasanaethau yn y sector gwirfoddol.

Gallai’r gwasanaethau hyn gael eu darparu ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gallai pobl hunan-atgyfeirio i’r mudiadau hyn, neu gael eu hatgyfeirio neu eu cyfeirio gan feddygon teulu, gwasanaethau statudol neu’r sector gwirfoddol.

Diben y Fframwaith yw:

  • Datblygu dealltwriaeth a rennir o’r problemau sy’n arwain pobl i chwilio am help
  • Cefnogi gweithluoedd lleol i chwarae eu rôl mewn pregripsiynu cymdeithasol yn llawn a datblygu sgiliau
  • Gwella ansawdd y ddarpariaeth bresennol, a monitro a gwerthuso atgyfeiriadau a’u canlyniadau
  • Mynd i’r afael ag unrhyw anghydraddoldeb ac annhegwch a allai fodoli o fewn y maes presgripsiynu cymdeithasol ar hyn o bryd
  • Sicrhau bod yr holl gydberthnasau sydd wrth wraidd y ddarpariaeth yn ddiogel ac yn saff

BETH NESAF?

Bydd rhagor o gyfathrebiadau ynghylch y Fframwaith yn cael eu lansio’n fuan, ynghyd â rhaglen sgiliau a gwybodaeth i uwchsgilio’r rheini sy’n gweithio yn y maes presgripsiynu cymdeithasol. Bydd canllawiau hefyd yn cael eu cyhoeddi ar yr hyn sy’n ofynnol gan wasanaethau cymunedol. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio y bydd gweithio’n gydgynhyrchiol yn hanfodol i sicrhau llwyddiant y Fframwaith.

Mae Bwrdd Partneriaeth Llesiant wedi’i sefydlu i graffu ar y Fframwaith ac mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi cael cais i enwebu Hyrwyddwr Presgripsiynu Cymdeithasol a rhoi adborth i Lywodraeth Cymru ar y cynnydd sy’n cael ei wneud. Mae rhestr termau ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol hefyd wedi’i llunio.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

‘Nid yw presgripsiynu cymdeithasol yn newydd. Mae ymyriadau presgripsiynu cymdeithasol wedi’u datblygu a’u sefydlu o’r gwaelod i fyny ledled Cymru, gyda darparwyr unigol dan gontract, clystyrau sy’n ymwneud ag iechyd a gofal, y trydydd sector a mudiadau statudol yn datblygu modelau darparu gwahanol. Er ein bod yn croesawu’r dull llawr gwlad hwn, mae adborth o’n hymgynghoriad wedi datgelu heriau yn sgil diffyg safoni a chysondeb yn y dull presgripsiynu cymdeithasol.

‘Er mwyn rhoi sicrwydd ynglŷn â chysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth ledled Cymru, ac ymateb i’r materion a godwyd fel rhan o’r ymarfer ymgynghori, mae’r Fframwaith arfaethedig yn amlinellu’r model ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio presgripsiynu cymdeithasol, ac yn ceisio sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyson ym mhob lleoliad.’

‘Nid ei fwriad yw pennu sut mae presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei ddarparu mewn cymunedau gwahanol, ond yn hytrach bydd yn cytuno ar weledigaeth gyffredin o bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru ac yn helpu i ddatblygu ei dwf.’

YR YMATEB

Dywedodd Clair Swales, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys:

‘Mae’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yn gyfle gwych i ni edrych ar sut gallwn ni chwalu’r rhwystrau i weithio ar draws mudiadau, ac i amlygu cyfraniad hanfodol asedau cymunedol llawr gwlad at lesiant pobl yng Nghymru. Weithiau, gall gwerth asedau cymunedol a gwirfoddoli gael ei gysgodi gan y gofyniad am ddarpariaeth statudol, ond rwy’n gobeithio y bydd y fframwaith hwn yn annog gwasanaethau i weithio gyda’i gilydd at ein nod cyfunol o greu Cymru iachach a mwy cyfartal.’

Dywedodd Kieran Harris, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC:

‘Mae CGGC wrth ei fodd o fod wedi cyfrannu cymaint at ddatblygiad y Fframwaith a’r ffrydiau gwaith cysylltiedig. Bydd y sector gwirfoddol yn rhan hanfodol o lwyddiant a thwf presgripsiynu cymdeithasol a bydd CGGC yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol De Cymru ac eraill i gynorthwyo pobl a chymunedau i wella eu llesiant.’

Darllenwch y rhaglen lawn.

AM FWY O WYBODAETH

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch yr erthygl hon, cysylltwch ag iechydagofal@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Cynllun gweithlu yn chwilio am fewnwelediad i rôl gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl

Darllen mwy