Grŵp o weithwyr cymunedol yn gweithio ar brosiect awyr agored

Lansio cyllid ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 14/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae Grant Twf Sefydliadol Comic Relief bellach ar agor, yn cynnig cyllid i helpu mudiadau gwirfoddol i wneud y mwyaf o’u heffaith.

Mae CGGC yn falch o lansio Grant Twf Sefydliadol Comic Relief. Ar ôl cyflwyno dau gynllun llwyddiannus, mae Comic Relief wedi cadarnhau rownd newydd o gyllid i gefnogi gweithredu a arweinir gan y gymuned gan sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol, parhaol ledled Cymru.

Y NOD

Nod y Grant Twf Sefydliadol yw rhoi’r cyfle i fudiadau gwneud newidiadau strategol sy’n cynyddueu cydnerthedd, er enghraifft:

  • Adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda mewn perthynas â gweithgaredd cymunedol eich mudiad
  • Cryfhau a mesur effaith eich gweithgaredd craidd a arweinir gan y gymuned
  • Datblygu ffyrdd newydd o weithio

BETH SYDD AR GAEL?

Mae grantiau rhwng £20,000 a £35,000 ar gael i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru ac incwm blynyddol o dan £250,000.

Mae’r cynllun yn cynnig cyllid o dan y themâu canlynol:

  • Plant a phobl ifanc – dysgu a datblygu, datblygiad plentyndod cynnar
  • Prosiectau cymunedol – canolbwyntio ar wasanaethau lleol gan gynnwys banciau bwyd, ceginau cymunedol a mannau diogel i bobl sy’n agored i niwed
  • Allgymorth a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar deuluoedd – hanfodion ac anghenion sylfaenol / cymorth ariannol
  • Digartrefedd
  • Gwasanaethau iechyd meddwl

SUT I YMGEISIO

I wneud cais am Grant Twf Sefydliadol, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ceisiadau Amlddefnydd CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref. 

Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor o 14 Hydref 2024, gan gau, 6 Rhagfyr 2024.

Y cynharaf y gellir prosiectau eu cychwyn yw 3 Chwefror 2025 gan ddod i ben erbyn 1 Mehefin 2026 fan bellaf.

GWYBODAETH BELLACH

Am ragor o wybodaeth, ewch i Grant Twf Sefydliadol Comic Relief.

Mae’r Grant Twf Sefydliadol Comic Relief yn cael ei reoli gan CGGC a’i ariannu gan *Comic Relief.

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 08/11/24 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu | Newyddion |

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 01/11/24 | Categorïau: Cyllid | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Ble i ganolbwyntio eich egni codi arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 28/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Gwnewch gais nawr am grant Gwirfoddoli Cymru!

Darllen mwy