Mae aelodau o brosiect ynni glân yng Nghymru wedi ymgynnull o amgylch craen yn gwisgo gwelededd uchel

Lansio Cronfa Ynni Glân ar gyfer Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd : 10/07/25 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Gronfa Ynni Glân yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol yng ngogledd Cymru i leihau allyriadau carbon a chreu arloesedd mewn ynni glân.

Mae tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC) CGGC yn gyffrous iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Uchelgais Gogledd Cymru, Ynni Cymunedol Cymru ac Umi i gyflwyno’r Gronfa Ynni Glân newydd.

Trwy gefnogi arloesedd a seilwaith ynni glân, nod y gronfa yw gwneud gogledd Cymru yn chwaraewr allweddol yn ymdrechion y DU i drawsnewid i ynni adnewyddadwy, a chyflwyno buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol parhaol i’r ardal.

YNGLŶN Â’R GRONFA

Caiff y Gronfa Ynni Glân ei rhedeg gan Uchelgais Gogledd Cymru ac mae wedi’i rhannu’n ddwy is-gronfa.

  • Mae CGGC yn gweithio mewn partneriaeth ag Ynni Cymunedol Cymru i gyflwyno is-gronfa’r sector gwirfoddol, gan gefnogi mudiadau gwirfoddol yng ngogledd Cymru i leihau eu hallyriadau carbon a chreu arloesedd mewn ynni glân
  • UMi sy’n cyflwyno is-gronfa’r sector preifat, gan gefnogi busnesau i ddatblygu a gwella datrysiadau ynni glân ledled yr ardal

Am ragor o wybodaeth am y cynllun ehangach, ewch i wefan Uchelgais Gogledd Cymru

BETH FYDD YN EI GYLLIDO?

Mae’r Gronfa Ynni Glân yn cefnogi:

  • Gwella effeithlonrwydd ynni
  • Cynhyrchu ynni adnewyddadwy
  • Datrysiadau ynni clyfar gan gynnwys storio
  • Prosiectau ynni solar a llanw mawr
  • Gwelliannau i weithrediadau sy’n arwain at gynhyrchu llai o garbon

Bydd 50% o’r cyllid yn grant (lleiafswm: £25,000, uchafswm: £500,000), 25% yn fenthyciad di-log (hyd at £250,000), a bydd angen i’r 25% sydd ar ôl fod yn gyllid cyfatebol.

PWY ALL YMGEISIO?

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn:

  • Rhaid i’ch mudiad fod wedi’i gyfansoddi’n briodol gyda strwythur llywodraethu cymwys
  • Rhaid i’ch mudiad fod yng ngogledd Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn) neu fod â phresenoldeb yn yr ardal hon
  • Rhaid i’r prosiect gael ei wneud o fewn gogledd Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS

Am ragor o wybodaeth am y Gronfa Ynni Glân, cymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i’n tudalen Cronfa Ynni Glân.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 31/10/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Mae CGGC yn chwilio am banelwyr cynghori ar gyllid newydd!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/10/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cyllid i ysgogi newid cadarnhaol mewn cymunedau

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/10/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cyfle olaf i wneud cais am arolygon ynni

Darllen mwy