Mae cyn-gadeirydd ac Is-lywydd cyfredol CGGC, Tom Jones, wedi’i ethol yn Llywydd Cynghrair Cymunedau Gwledig Ewrop (ERCA), mewn symudiad sy’n dangos sut mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru yn parhau i gynnal cysylltiadau buddiol ag Ewrop mewn tirwedd ôl-Brexit.
Cafodd yr ERCA ei sefydlu yn 2008 fel cynghrair Ewrop gyfan o fudiadau pentrefol a chymunedol gwledig. Ei waith yw cysylltu a chynorthwyo mudiadau gwledig, hybu datblygiadau gwledig traws-sector sy’n seiliedig ar le a chodi llais pobl wledig er mwyn dylanwadu ar farn gyhoeddus a pholisi gwledig ar lefelau UE a chenedlaethol.
Rhoi llais i sector gwirfoddol Cymru yn Ewrop ar ôl Brexit
Mae Tom yn hen gyfarwydd â’r math hwn o waith, gan ei fod wedi cynrychioli Cymru ar Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop am y 13 blynedd diwethaf fel y prif lefarydd ar faterion gwledig, ac mae’n awyddus i ddangos gwerth arbenigedd Cymru, yn ogystal â pharhau i gynnal cydberthnasau da â’n cymdogion Ewropeaidd nawr ein bod wedi ymadael â’r UE.
‘Mae heriau di-ri’ meddai Tom ‘nid dim ond yn Ewrop, ond ledled y byd – mae colli pobl o grwpiau oed iau i ardaloedd trefol yn broblem fyd-eang, nid problem i Gymru neu hyd yn oed Ewrop yn unig. Mae llawer o arferion da eto i’w rhannu, yn ogystal â chymorth i gymunedau wneud eu penderfyniadau eu hunain, a rôl yr ERCA yw hwyluso hyn.’
‘Rwy’n credu’n gryf mewn cyfraniad treftadaeth wledig at adnewyddu economaidd a chymdeithasol. Rwy’n hyrwyddwr cryf ac ymroddedig o’r seneddau gwledig cenedlaethol ac o Senedd Wledig Ewrop, ac yn gwerthfawrogi trefnwyr y rhain yn fawr.
Rhaid i leisiau pobl wledig gael eu clywed wrth i ni adeiladu pontydd rhwng y wlad a’r ddinas er mwyn cyflawni cytundeb gwyrdd cynaliadwy sy’n achub cyfoeth yr amgylchedd gwledig, yn rhoi strwythur a gobaith economaidd a chymdeithasol i bobl ac sydd, ar yr un pryd, yn defnyddio cyfleoedd i gyfrannu at heriau byd-eang.’
Mae’r gwerth y bydd hyn yn ei gyflwyno i sector gwirfoddol Cymru, sydd wedi elwa ar ymrwymiad sylweddol gan Ewrop drwy’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddiadau Ewropeaidd, yn amlwg. Mae Tom yn obeithiol y bydd ffyrdd newydd o weithio yn dod i’r amlwg mewn amser ac y bydd rhwydweithiau Ewrop gyfan, nid rhai’r Undeb Ewropeaidd yn unig, yn dod yn ffordd gynaliadwy o weithio wrth symud ymlaen.
Gwneud i rwydweithiau weithio i ni
Mae gennym lawer i’w ddysgu o’r rhwydweithiau hyn o hyd, er y bydd y mecanweithiau cyllido sy’n eu hwyluso yn wahanol yn y dyfodol, waeth a fydd hyn drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, Llywodraeth Cymru neu drwy fodd arall.
‘Nid ydym ni’n rhan o’r UE mwyach, ond nid yw hynny’n golygu y dylem gefnu arno. Gyda’r ERCA, mae’r prosiectau rydyn ni’n eu rhedeg yn cynorthwyo pentrefi, pethau fel tai fforddiadwy, er mwyn dod â phobl ifanc yn ôl i gefn gwlad, a d’oes ots ym mha ran o’r byd ydych chi wedyn – y rheini yw’r arweinwyr newid sydd eu hangen arnoch.’
Gallwn ni barhau i weithio gyda mudiadau Ewropeaidd ac mae cyfle posibl i ymgysylltu â nhw’n ehangach fyth – rydym ni eisoes yn rhan o Gynllun Cymru ac Affrica, ond mae hefyd nifer o ranbarthau daearyddol eraill a fydd â phroblemau tebyg y gallwn ni estyn allan iddynt.
Cyllid fydd y broblem gyntaf – mae’n anodd mynd i gynadleddau a chymryd rhan ynddynt yn y modd traddodiadol heb gyllid ar gyfer teithio ac ati, ond mae COVID wedi ein dysgu y gallwn ymdopi’n reit dda drwy ddulliau technolegol.
Edrych tuag at y dyfodol
Yr hyn sydd hefyd angen sylw yw sut bydd pobl ifanc yn cael profiad gwaith mewn gwahanol leoedd. Rydyn ni’n aros am ragor o fanylion ynghylch Cynllun Turing, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol ei hun nawr er mwyn i’r sector gael gwybod y diweddaraf ar y rhain.
Gan gadw at y thema o wneud yn siŵr y gall y sector roi ei hun mewn sefyllfa i ddylanwadu ac ymgysylltu’n gadarnhaol yn y dyfodol, mae rhai digwyddiadau diddorol yn cael eu cyflwyno ym mis Ebrill – Bywyd ar ôl Aelodaeth yr UE – Beth nesaf i’r trydydd sector yng Nghymru? a digwyddiad mewn cydweithrediad ag SCVO, NICVA ac NCVO – Bywyd ar ôl Aelodaeth o’r UE – Beth nesaf i Gymdeithas Sifil yn y DU? – gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich lle heddiw!