WCVA staff welcome delegates at the 4 Nations Civil Society Conference. Photographer: Natasha Hirst

Intern Cymorth Cyngres Hawliau Dynol Cymru

Cyhoeddwyd : 28/05/26 | Categorïau: Newyddion |

Rydyn ni’n chwilio am intern brwdfrydig a threfnus i gefnogi cyflwyniad Cyngres Hawliau Dynol Cymru 2026.

YNGLŶN Â’R RÔL

Rydyn ni’n chwilio am intern brwdfrydig a threfnus i gefnogi cyflwyniad Cyngres Hawliau Dynol Cymru 2026, a fydd yn cael ei chynnal ar 16 Medi yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gael profiad ymarferol o gydlynu digwyddiad, ymhél â rhanddeiliaid a gwneud gwaith sy’n ymwneud â pholisi, wrth gyfrannu at ddigwyddiad cenedlaethol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu hawliau dynol yng Nghymru.

Gan weithio’n agos â’r Rheolwr Polisi Hawliau Dynol, byddwch yn chwarae rôl allweddol mewn helpu i gynllunio, hyrwyddo a chyflwyno’r Gyngres, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau ehangach sy’n gysylltiedig â pholisi ac ymgysylltu hawliau dynol.

Lleoliad: Caerdydd
Cyflog: £13.45 yr awr
Oriau: 35 awr yr wythnos, yn hyblyg (ystyrir rhan-amser)
Hyd: Mehefin – Medi 2026

YR HYN BYDDWCH CHI’N EI WNEUD

Byddwch yn cynorthwyo ar draws gweithgareddau amrywiol, gan gynnwys:

  • Cynorthwyo â datblygiad rhaglen ac agenda’r Gyngres
  • Rhoi cymorth gweinyddol a chydlynol i’r gweithgorau trefnu a pholisi
  • Helpu i drefnu a hyrwyddo sesiynau hyfforddiant a gwybodaeth cyn y digwyddiad
  • Cysylltu â siaradwyr, dehonglwyr a phartneriaid y digwyddiad
  • Cefnogi’r gwaith o gyfathrebu a hyrwyddo er mwyn annog pobl i ddod
  • Ymateb i ymholiadau ynghylch y Gyngres
  • Rhoi cymorth ar y dydd yn nigwyddiad y Gyngres

YR HYN RYDYM YN CHWILIO AMDANO

  • Ymrwymiad i hawliau dynol, cydraddoldeb a chynhwysiant
  • Dealltwriaeth o weinyddiaeth a/neu ddigwyddiadau neu gynadleddau
  • Sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf
  • Dull gweithredu rhagweithiol a chydweithredol
  • Ymrwymiad i greu amgylchedd cynhwysol a gwrth-hiliol

YR HYN FYDDWCH CHI’N EU HENNILL

  • Profiad ymarferol o gyflwyno digwyddiad cenedlaethol mawr
  • Cael mewnwelediad i ddatblygu polisïau a chefnogi hawliau dynol
  • Cyfleoedd i feithrin sgiliau mewn digwyddiadau, cyfathrebiadau ac ymhél â rhanddeiliaid
  • Mentora a chymorth drwy gydol y lleoliad

SUT I WNEUD CAIS

Cyflwynwch:

  • Eich CV
  • Llythyr eglurhaol yn egluro sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn y disgrifiad o’r rôl a’ch diddordeb yn y rôl

Sicrhewch eich bod yn cynnwys unrhyw waith, gwirfoddoli neu brofiad dysgu perthnasol.

Dyddiad cau: Dydd Iau 11 Mehefin – hanner nos

Rydym yn bwriadu cael sgwrs strwythuredig â’r ymgeiswyr a ddewisir ar 18 Mehefin 2026.

Ymgeisiwch nawr.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 01/10/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn ôl ar gyfer 2026!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 30/09/26
Categorïau: Newyddion

Cyhoeddi gwobr cyflawniad eithriadol yn y sector gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 15/09/26
Categorïau: Mwyaf poblogaidd, Newyddion

Cyhoeddi teilyngwyr 2026 Gwobrau Elusennau Cymru

Darllen mwy