Dyn yn cyflwyno sesiwn hyfforddi i gynulleidfa o bobl

Integreiddio cynaliadwyedd yn eich cynllun busnes chi!

Cyhoeddwyd : 02/12/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Mae ein chwaer mudiad, Cynnal Cymru – Sustain Wales yn cynnig cwrs blasu ar 18 Rhagfyr 2024 gyda lleoedd gweithdy am ddim i fudiadau gwirfoddol.

Ydych chi’n hyrwyddwr cynaliadwyedd neu’n arwain busnes cynaliadwy? Ydych chi’n gobeithio dangos cynaliadwyedd mewn prosiect neu raglen, ac yn teimlo nad ydych chi’n gwybod ble i ddechrau?

Mae gan Cynnal Cymru weithdy blasu ar-lein newydd ar gynaliadwyedd integredig, ac mae’n berffaith ar eich cyfer chi.

BETH SYDD WEDI EI GYNNWYS

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn cael ei gynnal dros ginio, ac ynddo bydd Cynnal Cymru yn eich helpu chi i ddod i ddeall sut mae eich mudiad yn rhyngweithio â grymoedd economaidd, amgylcheddol, a chymdeithasol yn lleol ac yn fyd-eang.

Bydd y sesiwn yn eich helpu chi wrth  ystyried cwestiynau megis, ydy eich systemau chi yn barod i addasu i newidiadau yn y dyfodol? Ydych chi’n gwneud popeth allwch chi fod yn ei wneud i sicrhau eich bod chi’n cael effaith gadarnhaol ar bobl ac ar yr amgylchedd? Pa gamau gweithredu y gallwch chi eu cymryd rŵan hyn, neu y gallwch chi anelu atynt er mwyn cael canlyniadau ymarferol?

Dim ond awr yw hyd y gweithdy, ond yn yr awr honno byddwch chi’n trafod yr holl bethau hyn:

  • Y grymoedd sy’n dylanwadu ar eich mudiad ac sydd o bosib yn eich rhwystro chi rhag bod yn gynaliadwy
  • Eich rôl chi wrth greu effaith gadarnhaol ar gwsmeriaid, cyflenwyr a rhanddeiliaid eraill

I BWY MAE HYN?

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol. Mae cynghorwyr Cynnal yn wybodus ac yn hawdd iawn i siarad â nhw. Byddan nhw’n eich arwain chi drwy’r sefyllfaoedd sy’n wynebu cynhyrchwyr, cyflenwyr, prynwyr, cwsmeriaid, a rhanddeiliaid eraill.

Mae’r gweithdai’n fyr a chryno, ac yn addas ar gyfer timau neu unigolion. Bydd y gweithdai’n rhoi sylfaen wych i chi i allu datblygu meddylfryd sy’n ymwybodol o gynaliadwyedd.

Ydych chi’n barod i gymryd y camau cyntaf a chreu busnes sy’n cael effaith gadarnhaol fwy fyth?

Ymunwch a’r cwrs ar-lein ar ddydd Mercher 18 Rhagfyr 2024, 1 pm – 2 pm a dechreuwch ar eich siwrnai chi tuag at ddyfodol cryf a chynaliadwy!

DARGANFOD MWY

Mae rhagor o fanylion ar gael ar *cynnalcymru.com/integrated-sustainability-taster-workshop.

Mae croeso i fudiadau’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol archebu lle ar gyfer eu mudiad drwy anfon e-bost at training@cynnalcymru.com. Rhowch ‘Gweithdy Blasu Cynaliadwyedd Integredig’ fel llinell pwnc.

Dysgwch fwy am Gynnal Cymru – Sustain Wales yn cynnalcymru.com.

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 01/11/24
Categorïau: Cyllid, Hyfforddiant a digwyddiadau

Ble i ganolbwyntio eich egni codi arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/10/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau

Ein AGM ar gyfer 2024 – ar gyfer aelodau CGGC yn unig

Darllen mwy