Screenshot of Innovate Trust Zoom session

Innovate Trust – nid enw’n unig – mae’n ffordd o feddwl

Cyhoeddwyd : 28/07/20 | Categorïau: Cyllid |

Dangos sut mae’r cyfnod clo wedi sbarduno syniadau newydd.

Dyw hi ddim yn gyfrinach bod effeithiau Covid-19 wedi bod yn her anferthol i’r sector gwirfoddol, nid yn unig o ran ei barhad, ond hefyd o ran sut gellir parhau i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau yn ystod y cyfnod clo.

I fudiadau sy’n cynnal prosiectau drwy’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, sy’n cael ei rheoli gan CGGC a’i chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gall y dasg ymddangos yn frawychus pan ystyriwch chi anghenion eang a chymhleth y cyfranogwyr, ond mae Innovate Trust yn profi bod modd ei gyflawni.

Cyn y cyfnod clo, nod prosiect AIF oedd cynnig amrywiaeth o weithgareddau, hyfforddiant a chymorth i bobl anabl i’w galluogi i feithrin sgiliau a phrofiad gwaith ar gyfer cyflogaeth. Hyd yn oed gyda chyfyngiadau’r cyfnod clo, dyna yw’r nod o hyd, er mae’n amlwg bod hynny’n golygu rhywfaint o addasu i fod yn llwyddiannus.

Cropian cyn Zoom-io

Llesiant oedd y brif flaenoriaeth; cyn y gallen nhw hyd yn oed meddwl am setlo i drefn newydd, roedd yn rhaid iddyn nhw sicrhau bod cyfranogwyr yn ymdopi gorau ag y gallent gyda’r newidiadau syfrdanol i fywydau pawb. Maen nhw wedi cynnal sesiynau llesiant ar-lein drwy wasanaethau negeseua fideo fel Zoom; gwneud pethau fel dysgu cyfranogwyr i ddefnyddio ‘potel problemau’, lle rydych yn nodi eich pryderon ar bapur a’u rhoi nhw mewn ‘potel problemau’ i’w cadw’n ddiogel.

Maen nhw hefyd wedi dysgu sut i wneud bocsys cysur, sef fel mae’r enw’n ei awgrymu, bocsys lle gall cyfranogwyr gadw pethau sydd o gysur iddyn nhw. Dangosodd Brett gynnwys ei focs, oedd yn cynnwys ffyn gwrido (glowsticks) a llechen gyda rhai gemau arni roedd e’n eu mwynhau. Mae’n ddull sy’n ceisio teilwra strategaethau dysgu ac ymdopi i anghenion penodol pobl, gan weithio gyda chyfranogwyr a’u gofalwyr. Maen nhw hefyd yn mynd i gynnal dosbarthiadau glendid a sut i gadw pellter yn effeithiol, gan helpu i sicrhau bod eu cyfranogwyr yn cadw’n ddiogel. Ac wrth gwrs, ble fyddai’r cyfnod clo heb wersi ymarfer corff ar-lein.

Llun sesiwn Innovate Trust Zoom
Llun un o sesiynau Innovate Trust ar Zoom

Defnyddio’r digidol i ddysgu mwy

Dyw’r dull pwrpasol ddim yn berthnasol i gyrsiau ar-lein yn unig – mae Innovate Trust wedi cymryd y cam anarferol o gynllunio eu platfform cyfryngau cymdeithasol unigryw eu hunain, Insight. Wedi’i gynllunio fel lle diogel ar-lein i gyfranogwyr ryngweithio a chymdeithasu â’i gilydd, mae wedi gadael i bawb gadw mewn cysylltiad tra’n lleihau’r risg o’r elfennau mwy anniogel y gallai llwyfannau eraill eu hwynebu.

Maen nhw wedi llwyddo i wneud y dulliau digidol yn addas i bobl o bob oed. Mae Jennifer yn ei 70au, ond mae hi wedi bod yn mwynhau gweithgareddau’r Innovate Trust. Er ei bod yn gweld eisiau sesiynau bingo y byddai’n eu mwynhau pan allai fynd i’r adeilad ei hun, mae hi wedi mwynhau’r cyfle i gadw’n brysur yn ystod y cyfnod clo – ‘Dwi’n hapus’ dywedodd, ‘yn gwneud hyn a’r llall, yn trio gwneud y pethau y mae Arwen (yn Innovate) eisiau i fi wneud. Dwi’n ymdopi. Mae’n dda, ond maen nhw i gyd yn dda.’

Mae Alex pen arall i’r calendr pen-blwydd ond yn cael pleser tebyg. Yn chwaraewr gemau cyfrifiadurol brwd, mae wedi bod yn cymryd rhan mewn grwpiau gemau ar Zoom gyda chwaraewyr eraill. Bu Emma yn Innovate yn siarad â’i fam, a oedd yn poeni am yr holl amser sbâr yn ystod y cyfnod clo.

Eglurodd Emma ‘gyda’r cyfnod clo, does dim rheswm i beidio â threulio oriau yn chwarae gemau cyfrifiadurol, ond ry’ch chi hyd yn oed yn fwy ynysig oherwydd eich bod chi ar eich pen eich hun. Feddyliais i “oni fyddai’n llesol cael grŵp cymdeithasol sy’n siarad am eu diddordebau o leiaf – mae’n bwysig cael platfform i bobl sy’n rhannu’r un diddordebau – dyna sut ry’ch chi’n gwneud ffrindiau”.

Cyn y cyfnod clo, roedd Alex yn wirfoddolwr cyson yn Amgueddfa Caerdydd – profiad gwerth chweil o allu helpu pobl gyda chwestiynau am yr arddangosfeydd, yn enwedig pan ddaeth arddangosfa Dippy y Deinosor i’r Amgueddfa. Mae’n rhaid i raglenni dogfen am ddinosoriaid wneud y tro erbyn hyn, ond mae’n gobeithio bod yn dywysydd llawn amser mewn amgueddfa ryw ddydd.

Taclo’r tannau yn ystod y cyfnod clo

Mae hefyd wedi cael cymorth i ddod o hyd i lwybrau newydd i ddatblygu ei ddiddordebau – ag yntau’n ffan mawr o gerddoriaeth heavy metal – cofrestrodd ar gyfer y cynllun Gig Buddies cyn i’r Coronafeirws daro’r DU, ond ers bod yn sownd yn y tŷ, mae wedi achub ar y cyfle i ddysgu i chwarae’r gitâr drwy wersi ar-lein. Mae e wedi meistroli’n barod sut i chwarae’r clasur roc ‘Ace of Spades’ gan Motörhead, ac efallai y bydd yn cynnal ei gigs ei hun ar ôl i hyn ddod i ben.

‘Dwi wrth fy modd’ dywedodd Alex, ‘mae wir wedi rhoi hwb mawr i fy hyder.’ Hyd yn oed gyda’r cyfyngiadau sy’n ein hwynebu, mae meddwl yn hyblyg a chael dulliau sydd wedi’u teilwra’n ofalus wedi caniatáu i Alex, Jennifer, ac eraill yn Innovate Trust i ffynnu – ac mae hynny’n brawf i’r sector gwirfoddol y gellir ei gyflawni er gwaetha’r amodau mwyaf heriol.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol fan hyn. Mae mudiadau sydd eisoes ar y Rhestr o Fuddiolwyr Cymeradwy yn gymwys i wneud cais am rownd Covid-19 arbennig i helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws – gyda phroses ymgeisio fyrrach sydd wedi’i symleiddio.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/09/24 | Categorïau: Cyllid |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy