Hysbysiad preifatrwydd hyfforddiant a digwyddiadau

1. CYFLWYNIAD

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd.

Rydym yn trin preifatrwydd a chyfrinachedd yn ddifrifol iawn. Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw esbonio sut rydym yn prosesu ac yn defnyddio data personol ar gyfer cyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau a drefnir gan CGGC.

Rydym yn cydymffurfio â phob agwedd ar gyfraith diogelu data’r DU, sy’n cynnwys Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol Ewrop (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o sut bydd eich data yn cael ei ddefnyddio, sicrhewch eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn yn ofalus a chysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon.

Efallai y byddwn yn diweddaru’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd.

2. PWY YW CGGC?

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ydym ni (CGGC, y cyfeirir ato yn yr hysbysiad hwn gyda’n gilydd fel ni neu ein). Rydym yn elusen gofrestredig (rhif cofrestru 218093) ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant (rhif cofrestru 425299).

Mae CGGC wedi’i gofrestru fel Rheolydd Data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), rhif cofrestru Z6141301.

Ein Swyddog Diogelu Data yw Matthew Brown, sy’n goruchwylio’r holl weithgareddau prosesu data, gellir cysylltu ag ef drwy e-bost yn dpo@wcva.cymru neu dros y ffôn ar 0300 111 0124.

3. DATA PERSONOL

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth am unigolyn y gall rhywun adnabod yr unigolyn hwnnw ohoni. Nid yw’n cynnwys data lle na ellir adnabod unigolyn (data dienw).

Efallai y byddwn yn casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol. Os hoffech weld sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau penodol, cyfeiriwch at yr adran Defnyddio eich data personol ar waelod yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.

4. PAM RYDYN NI’N CASGLU AC YN DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL

Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni i:

  • Roi cyhoeddusrwydd i, a hyrwyddo ein gweithgareddau ar ein gwefan a/neu ein cyfryngau cymdeithasol
  • Rhoi cyhoeddusrwydd i, a hyrwyddo ein gweithgareddau mewn blogiau a phodlediadau
  • Rhannu recordiad neu ddolen i’r cwrs hyfforddi/digwyddiad ar ein gwefan, ein cyfryngau cymdeithasol neu ar sianel YouTube

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu’r wybodaeth hon gyda rhanddeiliaid allanol fel Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs), Partneriaid CGGC, mudiadau gwirfoddol, Llywodraeth Cymru, cyrff seilwaith eraill a phartneriaid corfforaethol. Gellir hefyd ei rhoi i ymgynghorwyr allanol at ddibenion hyfforddi a gwerthuso.

Os na fyddwch yn darparu data personol

Pan fydd angen i ni gasglu data personol yn ôl y gyfraith, neu o dan delerau contract sydd gennym gyda chi ar gyfer cyflwyno hyfforddiant neu ddigwyddiadau, ac nad ydych yn darparu’r data hwnnw pan ofynnir amdano, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu cyflawni’r contract. Mewn achos o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i ni ganslo’r hyfforddiant/digwyddiad sydd gennych gyda ni, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi os mai dyma’r achos ar y pryd.

5. SUT YDYN NI’N CASGLU EICH DATA PERSONOL?

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol rydym yn ei brosesu yn cael ei roi i ni’n uniongyrchol gennych chi am un o’r rhesymau canlynol:

  • Gwnaethoch chi gofrestru i ddod i un o’n cyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau
  • Gwnaethoch fynegi diddordeb mewn dod i gwrs hyfforddi neu ddigwyddiad
  • Gwnaethoch chi gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi neu ddigwyddiad a oedd yn cael ei recordio

Datgelu eich data personol

Mae CGGC yn defnyddio Microsoft Teams a Zoom yn bennaf (er y gallai hyn fod yn dechnoleg gynadledda arall mewn rhai achosion) ar gyfer presenoldeb o bell mewn digwyddiadau. Yn y digwyddiadau hyn, gall mynychwyr gael eu gweld a/neu eu clywed gan:

  • fynychwyr eraill
  • unrhyw aelod o’r cyhoedd, lle mae’r digwyddiad yn cael ei gyhoeddi ar sianel YouTube CGGC
  • unigolion a allai fod wedi mynegi diddordeb ond nad oeddent yn gallu dod i’r digwyddiad

Pan fyddwch chi’n defnyddio’r cymwysiadau fideo-gynadledda uchod, gallai eich enw, enw defnyddiwr, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad IP eich cyfrifiadur, cyfeiriad MAC ac enw’r ddyfais gael eu casglu. Am ragor o wybodaeth, dylech ddarllen eu hysbysiadau preifatrwydd perthnasol sydd i’w gweld yma:

Zoom – *https://zoom.us/privacy

Teams – *https://privacy.microsoft.com/en-gb/privacystatement

Pan fydd cymwysiadau fideo-gynadledda yn cael eu defnyddio i recordio cyfarfodydd, bydd y data personol a ddaliwyd yn y recordiad yn cael ei storio o fewn y gwasanaeth cwmwl sy’n eiddo i’r cwmni hwnnw a gallai gael ei storio y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Rydym hefyd yn defnyddio gwasanaethau trydydd parti i gynorthwyo â chofrestru a gweinyddu cyrsiau hyfforddi a digwyddiadau, amlinellir y trydydd partïon perthnasol a’u polisïau preifatrwydd isod:

Luma– *https://luma.com/privacy-policy

Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am eich adborth ar ôl y cwrs/digwyddiad a gall hyn gael ei gynnal naill ai gennym ni, neu gan drydydd parti gan ddefnyddio Survey Monkey neu Microsoft Forms.

Gellir dod o hyd i bolisi preifatrwydd Survey Monkey yma- *https://www.surveymonkey.co.uk/mp/legal/privacy/

Gellir dod o hyd i’r polisi preifatrwydd ar gyfer Microsoft Forms yma –

*https://www.microsoft.com/en-gb/privacy/privacystatement%20

6. BLE YDYN NI’N STORIO EICH DATA?

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio drwy system bwcio Luma, ein Cronfa Ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM), ac yng nghronfeydd data Microsoft Teams neu Zoom (yn dibynnu ar y cymhwysiad y byddwn yn ei defnyddio).

Os yw’r digwyddiad wedi’i recordio, bydd hefyd yn cael ei storio ar systemau mewnol diogel CGGC.

7. DIOGELU DATA

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli, ei ddefnyddio neu ei gyrchu mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu. Ynghyd â hyn, rydym yn cyfyngu mynediad at eich data personol i Bartneriaid CGGC, cyflogeion, asiantau, contractwyr ac unrhyw drydydd partïon sydd ag angen cyfreithlon i wybod. Byddant dim ond yn prosesu eich data personol ar ein cyfarwyddyd, ac maen nhw’n destun i ddyletswydd gyfrinachedd.

Rydym wedi sefydlu gweithdrefnau i ddelio ag unrhyw achos o dor-data personol a amheuir a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol o achos o dor-data pan fydd yn ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

8. CADW DATA

Byddwn dim ond yn cadw eich data personol am gyhyd ag y mae’n rhesymol angenrheidiol i gyflawni’r dibenion y gwnaethom ei gasglu ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifyddu neu adrodd. Gallem gadw eich data personol am gyfnod hirach os bydd cwyn neu os credwn yn rhesymol bod posibilrwydd o ymgyfreitha o ran ein cydberthynas â chi.

Er mwyn pennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ddefnyddio neu ddatgelu eich data personol heb awdurdod, y dibenion rydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer ac a allwn gyflawni’r dibenion hynny trwy ddulliau eraill, a’r gofynion cyfreithiol, rheoleiddio, treth, cyfrifyddu neu ofynion eraill perthnasol.

Rydym wedi ymrwymo’n gryf i ddiogelu gwybodaeth, ac rydym yn cymryd camau rhesymol a phriodol i amddiffyn eich gwybodaeth bersonol rhag mynediad anawdurdodedig, colled, camddefnydd, newid neu lygredd.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol ar waith i ddiogelu a gwarchod yr wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni, gan gynnwys defnyddio amgryptio a ffugenwau.

Mae’r fframwaith deddfwriaethol diogelu data yn gosod rhwymedigaeth arnom i adolygu am ba hyd rydym yn cadw gwybodaeth bersonol. Byddwn dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol am bum mlynedd ar y mwyaf.

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol: amlinellir eich hawliau cyfreithiol ym mharagraff 11 isod.

9. RHEOLYDD DATA

Rheolydd data, o dan Erthygl 4(7) GDPR, yw’r unigolyn naturiol neu gyfreithiol, awdurdod cyhoeddus, asiantaeth, neu gorff arall sy’n pennu ar ei ben ei hun neu ar y cyd “pam” (dibenion) a “sut” (modd) i brosesu data personol. Y Rheolydd sydd â’r prif gyfrifoldeb dros gydymffurfiad, gan gynnwys diogelu data, hysbysiadau tor-data, a chynnal hawliau gwrthrych data.

Yn yr achos hwn, ni yw’r unig Reolydd Data.

10. SAIL GYFREITHIOL PROSESU

Byddwn dim ond yn defnyddio eich data personol pan fydd cyfraith diogelu data’r DU yn caniatáu i ni wneud hynny.

Gan amlaf, rydym yn prosesu eich data personol at y dibenion a ddisgrifir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, yn seiliedig ar y sail gyfreithiol ganlynol: ‘mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion y buddiant dilys a ddilynir gan y rheolydd’, Erthygl 6(1)(f) o’r GDPR.

Rôl CGGC yw galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd. Mae er buddiant dilys y ddwy ochr i ni allu hwyluso cyrsiau/digwyddiadau hyfforddi er mwyn addysgu, galluogi a hysbysu a bydd hyn yn eich helpu chi i gyflawni eich rôl/rolau.

11. EICH HAWLIAU CYFREITHIOL

O dan rai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i:

  • Ofyn am fynediad i’ch data personol (yn aml, gelwir hwn yn gais am fynediad at ddata gan y testun). Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o’r data personol sydd gennym amdanoch chi ac i wirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithlon.
  • Gofyn i ni gywiro’r data personol sydd gennym amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i gael unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi wedi’i gywiro, er efallai y bydd angen i ni wirio cywirdeb y data newydd rydych chi’n ei roi i ni.
  • Gofyn i ni ddileu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu dynnu data personol pan nad oes rheswm da i ni barhau i’w brosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddileu neu dynnu eich data personol pan rydych wedi llwyddo i arfer eich hawl i wrthwynebu prosesu (gweler isod), pan allwn fod wedi prosesu eich gwybodaeth yn anghyfreithlon neu pan mae’n ofynnol i ni ddileu eich data personol i gydymffurfio â chyfraith leol.
  • Gwrthwynebu prosesu eich data personol pan rydym yn dibynnu ar fuddiant dilys (neu fuddiant dilys trydydd parti) a bod rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy’n gwneud i chi fod eisiau gwrthwynebu prosesu ar y sail hon gan eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddidau sylfaenol. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu pan rydym yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol.
  • Gofyn i ni gyfyngu’r data personol rydym yn ei brosesu. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni roi’r gorau i brosesu eich data personol yn y senarios canlynol:
    • Os ydych am i ni gadarnhau cywirdeb y data.
    • Pan rydym yn defnyddio’r data yn anghyfreithlon, ond nad ydych am i ni ei ddileu.
    • Pan rydych chi angen i ni gadw’r data hyd yn oed os nad oes ei angen arnom mwyach gan fod ei angen arnoch i gadarnhau, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
    • Rydych wedi gwrthwynebu i ni ddefnyddio eich data, ond mae angen i ni wirio a oes gennym sail gyfreithlon dros ei ddefnyddio.
  • Gofyn i ni drosglwyddo eich data personol i chi neu i drydydd parti. Byddwn yn rhoi eich data personol i chi, neu drydydd parti rydych chi wedi’i ddewis, ar fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn aml, y gellir ei ddarllen gan beiriant. Sylwch fod yr hawl hon dim ond yn berthnasol i wybodaeth awtomataidd y gwnaethoch roi caniatâd i ni ei defnyddio i ddechrau neu lle gwnaethom ddefnyddio’r wybodaeth i gyflawni contract gyda chi.
  • Tynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg pan fyddwn yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a gynhaliwyd cyn i chi dynnu’ch caniatâd yn ôl. Os byddwch yn tynnu’ch caniatâd yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai gwasanaethau i chi. Os dyma fydd yr achos, byddwn yn rhoi gwybod i chi ar yr adeg y byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni.

Nid oes angen ffi fel arfer

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i weld eich data personol (neu i arfer unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os yw’n amlwg bod eich cais yn ddi-sail, yn ailadroddus neu’n ormodol. Fel arall, gallem wrthod cydymffurfio â’ch cais yn yr amgylchiadau hyn.

Yr hyn y gallai fod arnom ei angen gennych chi

Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych i’n helpu i gadarnhau pwy ydych a sicrhau eich hawl i weld eich data personol (neu i arfer unrhyw un o’ch hawliau eraill). Mae hwn yn fesur diogelwch i sicrhau nad yw data personol yn cael ei ddatgelu i unrhyw un nad oes ganddo’r hawl i’w dderbyn. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’ch cais fel y gallwn ymateb yn gyflymach.

Terfyn amser i ymateb

Rydym yn ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis. Weithiau gallai gymryd mwy na mis i ni os yw eich cais yn arbennig o gymhleth neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau. Mewn achos o’r fath, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn eich diweddaru.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk), ar unrhyw adeg. Byddem, fodd bynnag, yn gwerthfawrogi’r cyfle i ymdrin â’ch pryderon cyn i chi fynd at yr ICO felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

12. SUT I GYSYLLTU Â NI

Rydym yn gobeithio bod yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi bod yn ddefnyddiol o ran sut rydym yn defnyddio data personol a’ch hawliau o ran data personol o’r fath. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni:

  • E-bostiwch ni ar dpo@wcva.cymru.
  • Ysgrifennwch atom yn Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Un Rhodfa’r Gamlas, Heol Dumballs, Caerdydd CF10 5BF.

13. NEWIDIADAU I’R HYSBYSIAD PREIFATRWYDD HWN

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 5 Mai 2026. Rydym yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd a gallem ei newid o bryd i’w gilydd trwy ddiweddaru’r dudalen hon er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith a/neu ein harferion preifatrwydd. Byddem yn eich annog i wirio’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd am unrhyw newidiadau. 

ATODIAD 1 – DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL

Rydym wedi grwpio’r data personol rydym yn ei ddefnyddio fel a ganlyn:

  • Data Adnabod: yn cynnwys enw cyntaf, enw morwynol, cyfenw, dyddiad geni, teitl swydd, enw’r mudiad a’r cyfarchiad ac iaith sy’n well gennych (Cymraeg/Saesneg).
  • Data Cyswllt: yn cynnwys cyfeiriad bilio, cyfeiriad e-bost personol, cyfeiriad e-bost busnes a rhifau ffôn.
  • Data sensitif: yn cynnwys rhyw, tarddiad hiliol neu ethnig, cyflyrau iechyd ac unrhyw wybodaeth bersonol arall rydych chi’n ei rhoi i ni.
  • Lluniau a fideos: yn cynnwys ffotograffau, ffilmiau a sain sy’n cael eu cymryd trwy gymryd rhan mewn hyfforddiant/digwyddiadau h.y. os oes gennych lun proffil neu’n siarad yn y sesiynau hyn.

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif a byddwn dim ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi neu’r digwyddiad hwn ac i ddarparu’r cynhyrchion a/neu wasanaethau rydych chi wedi gofyn i ni amdanynt.

Yn CGGC rydym yn storio eich manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM), ac yn defnyddio Luma fel ein system bwcio. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC  i ddarganfod sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, pwy all gael mynediad iddi, y seiliau cyfreithiol dros gadw eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i ddarganfod sut maen nhw’n defnyddio eich gwybodaeth.

Sylwch hefyd, er mwyn galluogi mudiadau i rwydweithio, y bydd eich enw, eich e-bost a’r mudiad rydych chi’n ei gynrychioli ar gael i gyd-gynrychiolwyr a hyfforddwr/siaradwr y cwrs hyfforddi neu ddigwyddiad hwn.

Os yw CGGC yn recordio’r cwrs/digwyddiad hyfforddi, byddwch yn cael gwybod ar ddechrau’r sesiwn neu byddwch chi’n gweld ei fod yn cael ei recordio wrth fynd i mewn i’r sesiwn. Ar yr adeg hon, mae gennych yr opsiwn i adael y sesiwn. Trwy aros, mae’n golygu eich bod yn cydnabod y bydd eich data personol yn cael ei gofnodi.

Gall pob siaradwr mewn cyrsiau/digwyddiadau hyfforddi gael ei lun, fideo a sain wedi’i gynnwys yn y recordiad. Os ydych chi’n fynychwr, gallech gael yr opsiwn o rannu eich llun, fideo neu siarad yn ystod y sesiwn. Os byddwch chi’n dewis gwneud hyn, bydd hefyd yn cael ei gynnwys yn y recordiad.

Bydd gan rai cyrsiau/digwyddiadau hyfforddi swyddogaeth sgwrsio, os byddwch chi’n dewis cymryd rhan yn y modd hwn, gall eich sylwadau fod yn weladwy i bobl eraill sydd yn y sesiwn a byddant yn cael eu cynnwys yn y recordiad.

DIBENION Y BYDDWN YN DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL AR EU CYFER – POB PLATFFORM A GWASANAETH

Diben/Gweithgaredd Math o ddata
I’ch cofrestru fel cyfranogwr mewn cyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau (a) Adnabod

(b) Cyswllt

Wrth gymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau (gan gynnwys bod ar gamera, siarad, a rhoi negeseuon yn y blwch sgwrsio ar-lein) (a) Adnabod

(b) Cyswllt

(c) Llun a fideo

Rhoi adborth ar gyfer cyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau, gan gynnwys drwy Survey Monkey neu Microsoft Forms (a) Adnabod

(b) Cyswllt

 

Diben y Prosesu Is-broseswyr penodedig
Cofrestru dysgwyr ar gyfer eu hachrediad Agored Cymru

www.agored.cymru/Hafan

GWASANAETHAU A PHLATFFORMAU PENODOL

Mae’r pyrth a’r gwasanaethau canlynol yn defnyddio gwybodaeth bersonol, naill ai wedi’i rhoi gennych chi neu gennym ni i ddarparu eu gwasanaethau i chi, neu ar gyfer eu gofynion unigol eu hunain. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolenni:

*Luma Data Personol:

  • Enw
  • E-bost
  • Rhif ffôn
  1. System bwcio ar gyfer Hyfforddiant a digwyddiadau
  2. Cyfathrebu fel rhan o ddarparu gwasanaeth
*Zoom Data Personol:

  • Enw
  • E-bost
  1. Platfform cyfathrebu ar gyfer cyflwyno hyfforddiant a digwyddiadau ar-lein
*Microsoft Teams Data Personol:

  • Enw
  • E-bost
  1. Platfform cyfathrebu ar gyfer cyflwyno hyfforddiant a digwyddiadau ar-lein
CRM

*salesforce.com

Data Personol:

  • Enw
  • E-bost
  • Rhif ffôn
  1. Y gronfa ddata a rennir sy’n cadw cofnodion sefydliadol, y rhyngweithiadau y mae aelodau TSSW yn eu cael â’r mudiadau hynny, a gwybodaeth gyswllt staff ac ymddiriedolwyr y mudiadau hynny.
  2. Marchnata a dadansoddeg fel rhan o ddarparu gwasanaeth
*Survey Monkey

 

Data Personol:

  • Enw
  • E-bost
  1. Cynnal arolygon ar gyfer mynychwyr yn ôl yr angen
Microsoft Forms

*forms.microsoft.com

Data Personol:

  • Enw
  • E-bost
  1. Cynnal arolygon ar gyfer mynychwyr yn ôl yr angen
Gwefan gofod3 Data Personol:

  • Enw
  • E-bost
  • Rhif ffôn
  1. System bwcio ar gyfer digwyddiad gofod3 yn benodol.
Gwobrau Elusennau Cymru Data Personol:

  • Enw
  • E-bost
  • Rhif ffôn
  • Llun
  1. System enwebu a bwcio ar gyfer digwyddiad Gwobrau Elusennau Cymru yn benodol.

*Saesneg yn unig