Irene, athrawes a ffermwr sy'n byw ym mhentref Lukuma, Uganda, yn sefyll ac yn gwenu gyda'i phump o blant

Hyrwyddo cyfiawnder rhywedd a’r hinsawdd yn Uganda

Cyhoeddwyd : 03/03/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae cyllid gan ein cynllun grantiau Cymru ac Affrica wedi cynorthwyo Maint Cymru i rymuso menywod wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Elusen yw Maint Cymru sy’n ymroddedig i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy gefnogi ailgoedwigo a bywoliaethau cynaliadwy mewn ardaloedd trofannol. Trwy bartneriaethau â mudiadau lleol, maen nhw’n grymuso cwmnïau i adfer coedwigoedd, yn hybu addysg amgylcheddol ac yn gyrru newid cymdeithasol.

Gyda chyllid gan gynllun grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, mae Maint Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Mount Elgon Tree Growing Enterprise (METGE) i addysgu menywod yn Uganda am ffermio, agrogoedwigaeth a chyfleoedd incwm cynaliadwy. Mae’r prosiect yn grymuso menywod i gryfhau eu penderfyniadau a’u rolau arwain yn y maes datblygiad lleol a gwydnwch newid hinsawdd.

DATBLYGU CYDRADDOLDEB RHYWEDD ER MWYN CAEL GWYDNWCH HINSAWDD

Fel rhan o’r fenter, gwnaeth 214 o aelodau o’r gymuned – menywod a dynion – fynychu cwrs hyfforddiant pum diwrnod ar rolau rhywedd wrth blannu coed. Gwnaeth y sesiynau rhyngweithiol ganolbwyntio ar drais ar sail rhywedd, hawliau menywod, grymuso economaidd a sgiliau arwain. Yn dilyn yr hyfforddiant, dewiswyd 30 o hyrwyddwyr rhywedd i gael mentora pellach i yrru newid yn eu cymunedau.

Rhoddodd yr hyfforddiant lawer o oleuni i’r cyfranogwyr a bu’n hynod o fuddiol iddynt. ‘Mae’r hyfforddiant hwn wedi bod yn agoriad llygad i lawer ohonom ni’, meddai aelod o’r gymuned. ‘Rydyn ni wedi dysgu cymaint am ein hawliau a sut gallwn weithio gyda’n gilydd i gefnogi ein gilydd a’n cymunedau. Mae wedi rhoi’r hyder i ni fynnu ein hawliau a manteisio ar gyfleoedd a oedd y tu hwnt i’n cyrraedd o’r blaen.’

STORI IRENE

Mae Irene yn athrawes a ffermwraig sy’n byw ym mhentref Lukuma, Uganda, gyda’i gŵr a’i phum plentyn. Mae ei bywyd wedi newid yn aruthrol ers dod yn hyrwyddwr rhywedd. Cyn hyn, byddai’n dibynnu ar ei gŵr am gymorth ariannol, ond ar ôl bod ar yr hyfforddiant ar gydraddoldeb rhywedd ac arweinyddiaeth, mae Irene wedi gweld ei photensial.

‘Diolch i’r sesiynau hyfforddi, rwyf wedi dysgu y gallaf wneud pethau drosof fy hun,’ meddai Irene’. Nawr, mae’n talu ffioedd ysgol ei phlant ac yn cyfrannu at yr aelwyd drwy ffermio, gan fagu hyder fel darparwr a phenderfynwr.

Irene athrawes a ffermwr sy'n byw ym mhentref Lukuma, Uganda yn sefyll ac yn gwenu

CREU NEWID YN Y GYMUNED

Mae effaith Irene yn mynd y tu hwnt i’w bywyd ei hun. Drwy rannu’r hyn y mae hi wedi’i ddysgu, mae wedi annog newidiadau positif yn ei chymuned, yn helpu cyplau i gryfhau eu perthynas a datrys gwrthdaro.

Mae hefyd yn gweithio fel ysgrifenyddes Cymdeithas Cynilion a Benthyciadau ei phentref, gan alluogi menywod i gael arian ar gyfer argyfyngau, ffioedd ysgol a buddsoddiadau. Mae taith Irene yn dangos sut mae cydraddoldeb rhywedd a gwydnwch newid hinsawdd yn mynd law yn llaw, gan greu cymunedau cryfach, mwy hunangynhaliol.

Irene athrawes a ffermwr sy'n byw ym mhentref Lukuma, Uganda yn sefyll ac yn gwenu gyda ffrind

DATHLU MENYWOD A GWEITHREDU AR NEWID HINSAWDD

Yr wythnos hon, bydd Maint Cymru yn croesawu Deborah Nabulobi, hyrwyddwr rhywedd o Uganda, i ddathlu’r garreg filltir o ddosbarthu 25 miliwn o goed i ffermwyr lleol ym Mbale. Yn arweinydd mewn hawliau menywod a phlannu coed cymunedol, bydd Deborah yn cymryd rhan mewn digwyddiad dysgu rhwng cymheiriaid i hyrwyddwyr rhywedd a gweithgareddau amrywiol ledled Cymru, gyda Hellen Alupo o METGE.

Yn ystod eu hymweliad rhwng 6-14 Mawrth 2025, byddant yn cwrdd â disgyblion ysgol, yn siarad yn nigwyddiad Menywod Rhyngwladol mewn Undod Byd-eang Hyb Cymru Affrica, yn cwrdd ag aelodau o’r Senedd ac yn helpu i lansio cân am newid hinsawdd a gyfansoddwyd gan artistiaid newydd o Gymru.

RHAGOR O WYBODAETH

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ar wefan Maint Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am ein cynllun grant Cymru ac Affrica, ewch i dudalen y cynllun.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/02/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwirfoddolwyr: pontio’r bwlch mewn gofal dementia

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/01/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Buddsoddi mewn atal yn ‘cadw pobl yn iach ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy