Un o’r heriau mwyaf i fudiadau trydydd sector yw sicrhau bod eu gweithdrefnau a’u prosesau yn cael eu diweddaru i gydymffurfio â’r deddfau a’r rheoliadau diweddaraf.
Bydd ein cyrsiau hyfforddi llywodraethu a diogelu i staff ac ymddiriedolwyr yn rhoi’r wybodaeth a’r offer angenrheidiol i chi sicrhau bod eich mudiad yn cael ei redeg yn ddiogel, yn effeithiol ac yn gyfreithlon.
Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar lywodraethu ar gael yn ein hadran cyngor ac arweiniad.