Rydym yn darparu hyfforddiant pwrpasol sydd yn cynnig dull hyblyg a chost effeithiol i gwrdd ag anghenion unigolion ac anghenion eich mudiad. Mae ein ffioedd yn cynnwys cefnogi, sefydlu a chyflwyno’r cwrs. Gellir darparu hyfforddiant fel hanner diwrnod, diwrnod llawn neu sawl diwrnod
Mae ein cyrsiau yn hwyl, yn gyfranogol ac yn cael eu cynnal mewn amgylchedd dysgu hamddenol, gallant roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi a’ch mudiad i ddarparu gwasanaeth rhagorol. Rydym yn cydnabod bod pobl yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd; yn ein rhaglen hyfforddi fe welwch amrywiaeth o gyrsiau byr, gweithdai, dysgu achrededig a gweminarau, y gellir eu cyflwyno ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae ein holl hyfforddiant yn cael ei arwain gan arbenigwyr yn eu maes sydd wedi ymrwymo i werthoedd y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Rydym yn gweithio gyda chi i gynllunio ac addasu’r cwrs. Rydym yn argymell llenwi’r cwrs i leihau cost y pen. Beth am wahodd mudiadau eraill i fynychu – adeiladu perthnasoedd partneriaeth a’i wneud yn gost-effeithiol i bawb?
Cwblhewch ein ffurflen gais hyfforddiant pwrpasol a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Am unrhyw ymholiadau eraill e-bostiwch training@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124.